Monday, February 23, 2009

Canlyniadau anymunol i etholiadau Ewrop 2009?


Os nad oes etholiad cyffredinol yn 2009, mi fyddwn yn fodlon betio mai’r newyddion gwleidyddol mawr (ar lefel y DU o leiaf) fydd ethol aelodau o’r BNP i senedd Ewrop. Maent wedi llwyddo i ddenu pleidlais barchus iawn mewn nifer fawr o is etholiadau lleol tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a chael eu hethol fel cynghorwyr o bryd i’w gilydd. Yn ffodus, ni fydd hyn yn digwydd yn aml iawn oherwydd bod pobl yn tueddu i bleidleisio’n dactegol yn eu herbyn – mae’n hawdd gwneud hynny oddi tan y drefn ethol arferol (First Past the Post).

Trefn gyfrannol De Hondt a ddefnyddir mewn etholiadau Ewrop – nid yw’n bosibl pleidleisio’n dactegol o dan y gyfundrefn bleidleisio yma, a bydd y BNP yn sicr o elwa o hyn.

Rhestraf isod y canrannau isaf y byddai plaid angen eu hennill i gymryd sedd yn yr etholaethau Ewropiaidd ar sail pleidlais 2004.

East Midlands 12.9%
Eastern 8.4%
London 7.7%
North East 12.2%
North West 6.8%
South East 7.0%
South West 9.2%
West Midlands 8.8%
Yorkshire & the Humber 8.8%
Yr Alban 8.8%
Cymru 10.5%

Oherwydd nad oes cymaint o etholiadau lleol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod nag yn 2004, mae’r ganran sy’n pleidleisio yn debygol o fod yn isel, ac mae’n bosibl y bydd seddi’n cael eu hennill gyda niferoedd abserliwt is o lawer nag a gafwyd yn 200. Mae’n bosibl wrth gwrs y bydd rhaid i’r bleidlais fod yn uwch na’r lleiafswm posibl – mae pob dim yn dibynnu ar sut y dosberthir y pleidleisiau rhwng y pleidiau eraill – ond nid yw’r gwahaniaeth yma’n enfawr. Byddai 9% yn North West yn sicrhau sedd i Nick Griffin, beth bynnag batrwm gweddill y pleidleisio.

Rhestraf isod y ganran o’r bleidlais a gafodd y BNP ym mhob rhanbarth yn 2004. Y ffigyrau yn y cromfachau yw canrannau UKIP. 'Rwan dydi UKIP a’r BNP ddim mor agos a hynny mewn aml i ffordd, ond mae cryn dir cyffredin rhyngddynt. Roedd 2004 yn etholiad gwych i UKIP – bydd eu pleidlais yn syrthio’n sylweddol y tro hwn – a bydd rhan o’u pleidlais yn sicr o fynd i’r BNP.

East Midlands 6.5% (26.1%)
Eastern - 4.3% (19.6%)
London - 4% (12.3%)
North East - 6.4% (12.2%)
North West - 6.4% (12.2%)
South East - 2.9% (19.5%)
South West - 3% (22.6%)
West Midlands - 7.5% (17.5%)
Yorkshire & the Humber - 8% (14.5%)
Yr Alban – 1.7% (6.7%)
Cymru - 3% (10.5%)

Ychwaneger at hyn bod dirwasgiad economaidd yn bodoli – rhywbeth sydd yn ddi eithriad yn dda i’r Dde eithafol, a bod drwg deimlad eang tuag at weithwyr tramor, ac mae’r tirwedd gwleidyddol yn edrych yn addawol iawn i’r BNP gwaetha’r modd. Hefyd, fel ‘dwi wedi son, bydd y ganran sy’n pleidleisio’n isel, ac mae pleidiau eithafol yn ffynnu o dan amgylchiadau felly. Gallai'r BNP yn hawdd gael pedair neu fwy o seddi. ‘Dwi’n mawr obeithio fy mod yn anghywir – ond go brin.

4 comments:

Anonymous said...

dwi'n meddwl y dylset roi pleidlais Lafur mewn cromfachau gan mai oddi yno mae'r rhan fwyaf o bleidleisau'r BNP yn dod.

Fydd UKIP yn debygol o fynd at y Toriaid siwr gen i.

Mae Iain Dale a Tebbitt yn iawn i ddweud fod y BNP yn perthyn i'r 'chwith eithafol/hiliol' llawn cymaint os nad mwy i'r 'dde'.

http://iaindale.blogspot.com/2009/02/labour-ukip-voters-turn-to-bnp-in-kent.html#links

Rhys Wynne said...

Mae amseroedd 'diddorol' (ahem) o'n blaenau felly.

Oes gan bleidiau asgell dde cyffelyb o'r cyfandir ASE'au yn barod (ers 2004 neu'n gynt) a pa grŵp ydynt/byddent yn ran ohono yn y Senedd?

Cai Larsen said...

Rhys - mae gan y Front National o ffrainc saith aelod Ewropiaidd 'dwi'n credu.

Mae nifer o fudiadau eraill -
* Nieuw Rechts - Iseldiroedd.
* Fiamma Tricolore - yr Eidal
* National Democrats - Sweden
* Democracia Nacional - Sbaen

'Dwi ddim yn meddwl bod ganddyn nhw aelodau yn Ewrop.

Anhysbys - 'dwi ddim yn derbyn ei bod yn ddefnyddiol i weld y BNP fel rhywbeth sy'n perthyn i'r 'chwith eithafol/hiliol' llawn cymaint os nad mwy i'r 'dde'. Mae ei hamrediad polisiau yn llawer mwy nodweddiadol o wleidyddiaeth y Dde eithafol.

Mae pwynt Dale yn gywir os mai'r hyn mae'n ei honni yw bod cydadran sylweddol o gefnogaeth y BNP yn ddosbarth gweithiol, a bod hyn yn creu cystadleuaeth rhyngddi a Llafur am bleidleiswyr.

'Dydw i ddim yn derbyn yr awgrym mai pleidlais ddosbarth canol oedd pleidlais UKIP yn 2004. Roedd yn un eang iawn yn ddaearyddol ac yn gymdeithasegol - roedd ymyraeth Killroy Silk yn un rheswm - roedd UKIP hefyd yn gweithredu fel sinc pleidleisiau - cyrchfan i bleidlais brotest. Bydd hyn yn digwydd mewn etholiadau Ewrop weithiau. Mae gen i gof i'r Gwyrddion elwa o'r tueddiad.

Anonymous said...

Mae'r economi'n ddarnau yn nwylo Llafur; Rydym yn ran o ryfel a seiliwyd ar gelwyddau P Weinidog Llafu; Mae nhw (y llywodraeth Lafur) yn dirywio ein rhyddid a'n hawiliau i breifatrwydd yn feunyddiol bron.....ac mi rydwyt yn gofidio am y BNP!!??