Thursday, February 19, 2009

Sgarlets - tim rhanbarthol rheng flaen neu dim tref eilradd?



Mi’r ydw i wedi cefnogi tim rygbi Llanelli neu’r Sgarlets fel maent yn cael eu galw bellach ers i mi fod yn tua deg oed. ‘Dwi wedi parhau i wneud hynny trwy’r blynyddoedd – yn ystod yr amserau da, a’r rhai nad ydynt wedi bod cystal. Ar un olwg roeddwn, fel Gogleddwr yn falch pan newidwyd y tim tref yn un rhanbarthol, gan fod y Gogledd a’r Canolbarth bellach yn nhiriogaeth y rhanbarth newydd. ‘Dwi wedi mynd i weld y Sgarlets yn chwarae y Cae Ras yn Wrecsam, ac yn y Strade lawer gwaith. Roeddwn wrth fy modd cael gwneud hynny – tyrfa’r Sgarlets ydi un o’r ychydig dyrfaoedd cymharol fawr (ag eithrio tyrfaoedd gemau rhyngwladol) lle bydd dyn yn clywed y Gymraeg yn weddol aml.

‘Dwi erioed wedi bod ym Mharc y Sgarlets, ond roeddwn wedi edrych ymlaen yn arw i gael gwneud hynny – tan ddydd Sul hynny yw. Yn ol colofn Angharad Mair yn y Wales on Sunday, gwnaeth ei hymweliad cyntaf iddi deimlo’n sal oherwydd bod y Gymraeg yn cael cyn lleied o barch yno – dim arwyddion dwyieithog, dim tystiolaeth gweledol swyddogol o’r Gymraeg o gwbl. Ymddengys bod dyddiau’r sgorfwrdd Cymraeg eiconig wedi hen fynd.



‘Rwan mae Llanelli fel clwb pob amser wedi bod yn anarferol o ran natur dalgylch ei gefnogaeth – tref gymharol Seisnig (o ran iaith) Llanelli a phentrefi cyfagos Cymreigaidd (er bod mwy i’r stori – mae’n fy rhyfeddu cymaint o bobl tros i drugain oed o Lanelli sy’n gallu siarad y Gymraeg yn iawn os ydi dyn yn cychwyn siarad Cymraeg efo nhw).

Ers i’r tim tref droi’n rhanbarth mae ei diriogaeth honedig wedi ymestyn i gynnwys y cwbl o Gymru y tu allan i Went a Morgannwg,. Mae 95% o’r Gymru Gymraeg oddi mewn i’r tiriogaeth hwnnw. Ond ‘dydi hynny heb newid iot ar feddylfryd tref fechan y sawl sy’n rhedeg tim y Sgarlets. ‘Dydi o ddiawl o ots bod Cyngor Caerfyrddin wedi pwmpio pres cyhoeddus i’w coffrau. Dydi o ddiawl o ots bod canoedd o filoedd o Gymry Cymraeg yn byw oddi mewn i’w tiriogaeth – meddylfryd tim tref fechan sy’n tra arglwyddiaethu o hyd – ac mi gaiff pawb arall wneud pethau eu ffordd nhw, neu ddim o gwbl.

1 comment:

Anonymous said...

Pan oedd son fod yr 16 clwb oedd yn gwneud haenen uchaf rygbi Cymru yn mynd i orfod 'gwneud lle' i 5 tim rhanbarthol....roedd llawer o ddyfalu a dadlau ynglyng a beth neu pwy fyddai'n datblygu. Rwy'n cofio Stuart Gallagher ar y teledu yn dweud y dylai Llanelli fod yn dim rhanbarthol am sawl rheswm....hanes y clwb....ond un rheswm wnaeth sefyll mas i mi ei fod ef wedi dweud fod yn clwb yn 'Welsh speaking club' ac iddo felly natur unigryw ymysg y cefnogwyr ac ati. Cachwr.