Thursday, February 12, 2009

Pam bod ethnigeiddio addysg Gymraeg yn anghyfrifol?

Ymddengys bod Rhodri Morgan yn dilyn esiampl Ramesh Patel ac yn ethnigeiddio'r anghydfod ynglyn ag Ysgol Treganna. Mae Vaughan yn codi dau bwynt ar ei flog - y naill yn ymwneud a chytundeb rhwng y pleidiau i beidio a defnyddio hil mewn anghydfod gwleidyddol, a'r llall i'w wneud a gwrthdaro rhwng gweithred Rhodri a rol y Cynulliad mewn adolygu penderfyniadau ynglyn ag ail strwythuro ysgolion.

'Dwi am fynd ar ol mater ychydig yn gwahanol - pam bod llusgo ethnigrwydd i mewn i ddadl ynglyn ag addysg Gymraeg yn gam cwbl anghyfrifol. Mae'n fater sy'n cyffwrdd gyda rhai o'r elfennau mwyaf anghyfforddus ynglyn a'n cymdeithas a'n cymunedau - yr hyn sy'n eu dal at ei gilydd, a'r potensial iddynt dorri'n garfanau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac yn wir yn casau ei gilydd.

Yn y gorffennol roedd cymdeithas fel rheol yn arddel gwerthoedd lled gytuniedig - hynny ydi mae bron i bawb yn eu derbyn, neu yn fodlon cymryd arnynt eu bod yn eu derbyn. Roedd y wladwriaeth yn aml yn hyrwyddo'r gwerthoedd yma. Roedd crefydd - fersiwn Brotestanaidd y grefydd Gristnogol yn achos Prydain - yn elfen bwysig o'r gwerthoedd hyn, er bod elfennau eraill yn bwysig hefyd - ideoleg 'cenedlaethol', dehongliad arbennig at faterion tramor ac ati. 'Dydi hyn ddim yn golygu bod pawb yn cytuno ynglyn a phob dim wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - ond roedd craidd o gredoau oedd yn gyffredin i bron bawb. Roedd cymdeithas yn llawer llai goddefgar na chymdeithas heddiw, ond roedd hefyd yn llawer mwy unedig.

Yn y ganrif diwethaf chwalwyd y lled gonsensws hwn - roedd nifer o resymau, datblygiad democratiaeth, dylanwad gwyddoniaeth, mewnfudiad a llawer o bethau eraill. Oherwydd hyn niweidwyd cohesion cymdeithasol, ac yn bwysicach o safbwynt y darn hwn chwalwyd y ddelwedd unedig o gymdeithas.

'Rwan, lle mae gwagle mewn ideoleg moesol yn cael ei greu, mae ideoleg moesol o rhyw fath yn sefydlu ei hun - mae pobl yn unigol a chymdeithas yn gyffredinol angen rhyw feincnod moesol. Datblygodd ideoleg ym Mhrydain - ac yn y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin - yn ail hanner y ganrif ddiwethaf oedd yn pwysleisio pwysigrwydd goddefgarwch. Dyma'r unig fath o ideoleg cynhwysfawr sy'n gallu datblygu mewn cymdeithas ranedig - un sy'n pwysleisio goddefgarwch at yr holl elfennau oddi mewn i'r gymdeithas hwnnw. Mae ideoleg o'r fath yn pwysleisio pwysigrwydd cysyniadau megis cyfartaledd statws, cyfartaledd cyfleoedd, cynhwysiad ac ati. Mae pob math o elfennau mewn cymdeithas wrth gwrs - gall gynnwys dosbarthiadau cymdeithasol, grwpiau ethnig, grwpiau hil, pobl gyda rhywioldeb amgen ac ati.

Mae rhywun nad yw'n arddel y gwerthoedd hyn, a sy'n ymddangos yn anoddefgar yn rhoi ei hun y tu allan i'r feddylfryd prif lif yn union fel roedd Pabydd yn ei wneud yn Oes Elisabeth, neu anffyddiwr yn Oes Fictoria. Gall ddisgwyl bod yn wrthrych gwawd, a gall ddisgwyl canlyniadau anymunol - gofynwch i Alun Cairns er enghraifft.

Mae hyn oll yn burion - a fel y dywedais, ideoleg moesol wedi ei seilio ar oddefgarwch ydi'r unig un a allai weithio mewn cymdeithas ranedig. Yr unig broblem ydi nad yw pob carfan yn gyfartal mewn gwirionedd, ac oherwydd hynny gall yr ideoleg ei hun greu gwrthdaro sylweddol.

I ddechrau dydi'r goddefgarwch a'r cydraddoldeb y gall grwp ei ddisgwyl ond yn ymestyn cyn belled a nad yw'n amharu ar fuddiannau grwp arall. Gyda mae hynny'n digwydd mae gwir statws y grwp hwnnw'n dod yn amlwg yn weddol sydyn. Er enghraifft mae'n weddol amlwg bellach bod buddiannau mewnfudwyr o Loegr yn fwy pwysig na rhai Cymry Cymraeg fel grwp.

Yn ogystal mae'r cyfleoedd sydd ar gael i gwahanol grwpiau yn gwahanol iawn mewn gwirionedd. Er enghraifft mae'r cyfleoedd sydd ar gael i rhywun o gymuned Bangladeshaidd Newham yn syfrdanol is na'r cyfleoedd sydd ar gael i rhywun gwyn sy'n byw yn Westminster.

Mae'r bwlch rhwng y disgwyliadau mae ideolegau cenedlaethol cynhwysol yn eu creu a'r hyn sydd yn bosibl mewn gwirionedd yn rhywbeth sy'n generadu siom, anghytgord a drwg deimlad. Mae hyn yn arbennig o wir lle mae'n effeithio ar grwpiau ethnig - gan fod y llinynau sy'n dal grwpiau o'r fath at ei gilydd yn rhai pwerus, ac mae pobl yn teimlo anhegwch tuag at grwp cyfan yn waeth na maent yn teimlo anhegwch personol. Hynny yw mae siom ac ymdeimlad o anhegwch yn gryfach o lawer lle mae'n cael ei deimlo'n dorfol.

Daw hyn a ni at Rhodri Morgan, Ramesh Patel a Threganna. Fel rheol ni fyddai'r term ethnig yn cael ei ddefnyddio yng nghyd destun agor ysgol Gymraeg yn y Gymru ddi Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw yn y Gymru honno yn wyn, ac yn ddi Gymraeg. Mater o ddewis gan un carfan o grwp ethnig unedig fyddai sefydlu ysgol Gymraeg.

Mae Treganna ychydig yn gwahanol - mae mwy na sy'n arferol o rieni'r ardal yn Gymry Cymraeg sydd yn aml a'u gwreiddiau yn y Gorllewin neu'r Gogledd, ac mae cryn dipyn o bobl sydd a'u gwreiddiau yn Asia yn byw yno bellach - yn arbennig yn Nwyrain y ward. Mae teulu fy ngwraig yn ddi Gymraeg, ac mae nifer ohonynt yn byw yn Nhreganna. 'Dydw i ddim yn derbyn bod eu ethnigrwydd nhw yn gwahanol i fy un i. Ond mae'r term ethnig yn un rhyfedd - ac mae hefyd yn un goddrychol. Ar un ystyr mae'r grwp ethnig mae rhywun yn perthyn iddo'n fater cyfnewidiol, ac yn fater sy'n deillio o hunan ddiffiniad i raddau.

Felly pan mae Ramesh a Rhodri'n dod ag ethnigrwydd i mewn i'r ddadl mae perygl iddynt gychwyn ar broes lle mae pobl yn diffinio eu hunain mewn termau ethnig, ac yn ystyried addysg Gymraeg mewn nhermau o sut mae'n effeithio ar eu grwp ethnig nhw. Pan fydd hyn yn digwydd mae'r sawl sydd yn colli'r ddadl yn gweld pethau fel ymysodiad ar eu grwp ethnig nhw - a fel y nodwyd uchod, mae'r gynnen yn waeth o lawer - ac yn effeithio ar gymdeithas i raddau mwy o lawer.

'Dydi addysg Gymraeg ddim oll i'w wneud gydag ethnigrwydd - mae'r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru - os ydynt yn ei siarad ai peidio, os ydynt a'u gwreiddiau yn Nhregaron, yn Bangalore neu yn Nhreganna. Mae'n anghyfrifol ac yn sinicaidd ei droi'n fater sy'n ymwneud ag ethnigrwydd - mae'n niweidiol i'r Gymraeg, mae'n niweidiol i'r gymdeithas yn Nhreganna ac mae'n niweidiol i ymson gwleidyddol.

Mae pendraw ethnigeiddio gwleidyddiaeth i'w weld yn glir yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhannu cymdeithas yn llwyr, yn difa gallu pobl i resymu'n wleidyddol y tu allan i ffiniau eu grwp ac yn difa gallu pobl i feddwl yn annibynnol. Mae bron i pob Pabydd yng Ngogledd Iwerddon yn erbyn ysgolion gramadeg ac yn erbyn Israel, mae bron i pob Protestant o blaid Israel ac o blaid ysgolion gramadeg. Mae annibyniaeth barn wedi ei lyncu gan feddylfryd torfol y grwp ethnig - hyd yn oed pan nad ydi materion dan sylw yn effeithio ar y grwp ethnig yn uniongyrchol.

Mae Rhodri a Ramesh yn cychwyn mynd a ni i lawr y llwybr yma - ac mae'n gywilydd arnynt.

1 comment:

Szczeb said...

"'Dydi addysg Gymraeg ddim oll i'w wneud gydag ethnigrwydd - mae'r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru - os ydynt yn ei siarad ai peidio, os ydynt a'u gwreiddiau yn Nhregaron, yn Bangalore neu yn Nhreganna"

Yn hollol. Yr hyn y dylai Ramesh Patel (a phob un arall) fod yn ei wneud yw annog aelodau o bob 'grwp ethnig' (beth bynnag yw ystyr y term yma, sy'n golygu cymaint nes ei fod yn golygu dim mewn gwirionedd) i dderbyn y Gymraeg yn rhan o'u diwylliant nhw, yn un o ieithoedd (a phrif iaith) y wlad y maen nhw'n byw ynddi.

Pa iws yw 'amlddiwylliannedd' a 'pharch at eraill' os yw'n gweithio mewn un cyfeiriad yn unig?

Dylai Patel fod yn gweithio tuag at greu sefyllfa lle bydd yr ysgolion Gymraeg hwythau yn hollol amlethnig, yn lle polareiddio'r ddadl gan awgrymu'n hollol afresymol taw dim ond ysgolion uniaith Saesneg sydd â'r hawl i gael ei hystyried yn rhai 'agored'.