Saturday, February 21, 2009

Y Toriaid yn etholiadau San Steffan 2009 / 2010

Nid yw'n gyfrinach nad y Blaid Geidwadol ydi hoff blaid blogmenai, ond yn anffodus maent yn debygol o wneud yn dda yn yr etholiadau San Steffan nesaf.

'Rwan, yn ol polau piniwn diweddar mae'r Toriaid ymhell ar y blaen. Er enghraifft yn ol pol IPOS MORI diweddar mae'r Toriaid ar 48%, Llafur ar 28% a'r Lib Dems ar 17%. Mae hyn yn newid ysgytwol o'i gymharu ag etholiadau 2007, ac os bydd rhywbeth tebyg i hyn yn digwydd bydd tirwedd gwleidyddol y DU yn cael ei drawsnewid.

Mae'n anodd cyfieithu hyn i rhywbeth sy'n gwneud synwyr yng Nghymru - ond fel hyn 'dwi'n ei gweld hi. Bydd y Toriaid yn gwneud yn dda iawn yn Lloegr, byddant yn ennill tir yn yr Alban - ond ddim cymaint a hynny. Bydd patrwm Cymru yn syrthio rhwng patrwm y gwledydd eraill - ond bydd yn nes at un Lloegr nag at un yr Alban.

'Dwi'n rhestru yr etholaethau Cymreig y gallai'r Toriaid eu hennill yng Nghymru, ac yn ceisio rhoi rhyw fath o syniad pam mor debyg ydynt o'u hennill ac yn gwneud hynny mewn termau canrannol. Dau air bach o rybydd cyn cychwyn:

(1) Hwyl ydi hyn - pan 'dwi wedi gwneud y math yma o beth yn y gorffennol mae pobl wedi gwneud gormod o'r peth o lawer. Peidiwch a chymryd pethau o ddifri - fedar neb ddarogan gyda chywirdeb o 100%.

(2) 'Dwi'n seilio fy narogan ar sail etholiad fyddai'n cael ei chynnal heddiw. Mae'r tirwedd gwleidyddol yn gyfnewidiol iawn ar hyn o bryd. Gallai pethau fod yn gwahanol iawn mewn blwyddyn.

Ynys Mon - 25% - bu'r etholaeth yma yn nwylo'r Toriaid yn yr 80au. Er mai pedwerydd gwael oedd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, cawsant eu niweidio gan Peter Rogers. Os na fydd Peter yn sefyll byddant yn ail (i Blaid Cymru), neu efallai - gyda chryn dipyn o lwc, yn gyntaf. Os bydd Peter yn sefyll, nid oes ganddynt obaith. Ychydig o obaith sydd gan Albert o ddal y sedd.

Alyn a Glanau Dyfrdwy - 20% - Os bydd yn ddiwrnod gwael iawn i Lafur mae'n bosibl mai dyma fydd yr unig sedd y bydd ganddynt ar ol yng Nghymru y tu allan i'w cadarnleoedd ar yr hen faes glo - ag eithrio Dwyrain Abertawe.

De Caerdydd a Phenarth 35%. Y sedd fwyaf diogel i Lafur yng Nghaerdydd, a'r unig un sydd heb fod yn nwylo'r Toriaid mewn cof ddiweddar. Mae rhannau o'r etholaeth wedi mynd yn gyfoethog, ac ar ddiwrnod gwael iawn i Lafur gallai hyn wneud gwahaniaeth.

De Clwyd - 35%. Dylai hon fod yn ddiogel i Lafur - byddai angen gogwydd o 10% yn eu herbyn iddynt golli - ond sedd ymylol fydd hi'r tro nesaf.

Gorllewin Caerdydd - 45% Mae etholaeth Rhodri Morgan wedi syrthio i'r Toriaid unwaith o'r blaen ym 1983. Y cymhlethdod i Lafur yma ydi bod elfennau o'i chefnogaeth traddodiadol yn dangos arwyddion eu bod yn troi at Blaid Cymru yn ddiweddar - yn arbennig pobl o gefndiroedd ethnig. Gallai hyn hollti'r bleidlais wrth Geidwadol. Yr ofn yma sydd wrth wraidd ymdrechion Rhodri Morgan a Ramesh Patel i ethnigeiddio'r anghydfod ail drefnu ysgolion yng Ngorllewin y ddinas.

Delyn - 50% Dim ond 2% o wahaniaeth oedd rhwng Llafur a'r Toriaid yn yr etholiadau Cynulliad, er bod bron i 20% yn yr etholiad San Steffan. Yn y 30au hwyr fydd pleidlais Llafur y tro nesaf - efallai y bydd yn ddigon, ond bydd pethau'n agos iawn.

Penybont - 55% Mi ddaliodd Carwyn Jones hon yn eithaf hawdd yn yr etholiadau Cynulliad. Gallai Llafur ddal Penybont - ond mae'n dra thebygol na fydd eu canran o'r bleidlais yn llawer uwch na 35%. Maent angen i'r bleidlais gwrth Lafur (Toriaid a Lib Dems) drefnu ei hun yn eithaf cyfartal. Os ydi hynny'n digwydd gall Llafur ddal y sedd - ond gallai'n hawdd syrthio.

Gwyr - 50% Mae'r gogwydd o 8% sydd ei angen ar y Toriaid yn sicr yn bosibl - ond bydd pethau'n agos.

Dyffryn Clwyd - 55% Agos iawn, iawn oedd pethau rhwng y Toriaid a Llafur yn etholiadau'r Cynulliad, er bod bwlch o 14% yn yr etholiad San Steffan. Gallai hyn fod yn anigonol.

Gorllewin Casnewydd - 55% Mae'r gogwydd o 7% sydd ei angen ar y Toriaid i ennill hon oddi mewn i'r hyn mae'r polau diweddar wedi bod yn ei awgrymu. Gallent ennill yma, a gallai Paul Flynn felly golli ei sedd.

Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro - 70% Mae'r sedd wedi syrthio ar lefel Cynulliad, ac nid yw'r 5% o oruwchafiaith sydd gan Nick Ainger fod yn ddigon. Problem ychwanegol sydd gan Lafur yw y gallai perfformiad da gan Blaid Cymru eu niweidio ymhellach.

Bro Morgannwg - 70% Mi wnaeth UKIP achub Llafur yn yr etholiad Cynulliad. Wnaiff hyn ddim digwydd y tro yma, a dydi 4% o fwyafrif ddim yn agos at fod yn ddigonol.

Gogledd Caedydd - 80%. Sedd draddodiadol Doriaidd (hyd 1997 beth bynnag) sydd eisoes wedi syrthio i'r Toriaid ar lefel Cynulliad gyda gogwydd sylweddol. Mae hon yn eithaf sicr o fynd yn ol adref.

Aberconwy - 60% - collodd Llafur y sedd yma i Blaid Cymru ar lefel Cynulliad. Mae llawer iawn o fewnfudwyr yn yr etholaeth, ac mae'n rhesymol tybio y bydd llawer mwy ohonynt yn pleidleisio mewn etholiad San Steffan na mewn un Cynulliad. Bydd hyn o fantais i'r Ceidwadwyr - ond gall Plaid Cymru ennill, os ydi Phil yn gallu argyhoeddi pobl mai ond fo all atal y Toriaid. Mae canlyniadau'r etholiadau lleol a Chynulliad yn awgrymu nad oes gan Lafur unrhyw obaith o gwbl o ddal y sedd.

Gorllewin Clwyd - 75%. Sedd sy'n cael ei dal gan y Toriaid ar lefel San Steffan a Chynulliad, ond gyda chanran cymharol isel o'r bleidlais. Yr unig ffordd y gallai'r Toriaid golli ydi os bydd pleidleisio tactegol yn eu herbyn - ond wnaiff hynny ddim digwydd hyd y byddant mewn grym yn San Steffan.

Preseli Penfro - 80% - Gweler uchod - dwy sedd debyg iawn yn etholiadol.

Mynwy - 99% - yr unig reswm nad ydw i'n rhoi 100% yma ydi nad oes dim yn gwbl sicr mewn gwleidyddiaeth, ond mae hyn nesaf peth. Gallai David Davies gael 60% o'r bleidlais, a fyddai yn rhoi canran cyffelyb i un Llafur yn y Rhondda.

Trefaldwyn - 45% - Ni ddylai hon fod yn enilladwy i neb ag eithrio'r Lib Dems - ond mae'r amgylchiadau anffodus ynglyn a bywyd personol Lembit, a'r ffaith bod Glyn yn ymgeisydd cryf a chymhedrol yn rhoigobaith iddynt ei chipio am yr ail waith yn eu hanes.

Brycheiniog a Maesyfed - 50% - Mae pleidlais y Toriaid am godi, ac mae'n debyg y bydd un y Democratiaid Rhyddfrydol yn cwympo, a dydi 10% ddim yn fwyafrif mawr. Yr hyn a allai achub y sedd i Roger Williams ydi pleidleisio tactegol gan rhai o'r 15% oedd yn cefnogi Llafur yn 2007

3 comments:

Anonymous said...

Dim ond 45% gogyfer Maldwyn?!
Mae "anffodus" yn air caredig iawn i ddefnyddio parthed bywyd personol Lembit Opik. Gallaf feddwl am eiriau mwy addas, megis erchyll, gwirion, hyll, anaddas ayb.
Mae'r arian clyfar ar Glyn Davies i ennill y sedd. Dwi'n bwriadu rhoi £250 arno a dwi'n gwbl ffyddiog y byddaf yn elwa'n braf!

menaiblog said...

Wel - os ti'n gwbl ffyddiog mi fyddwn yn rhoi cryn dipyn mwy na £250.

Y broblem efo rhoi mwy na 45% yma ydi bod angen gogwydd sylweddol i'r Toriaid ennill - gogwydd o 12%.

Dydi gogwydd felly ddim yn digwydd yn aml mewn etholiad cyffredinol.

'Rwan mae'n bosibl y bydd gogwydd tebyg yn digwydd mewn ambell i etholaeth yn 2009 / 2010 - mae rhai o'r polau yn awgrymu'n gryf y bydd hyn yn digwydd - ond o Lafur i'r Toriaid y bydd y gogwydd hwnnw.

Mi fydd yna ogwydd oddi wrth y Lib Dems at y Toriaid hefyd - ond bydd yn llai o lawer. Byddai gogwydd o 12% ymhell, bell tros y norm mewn gornestau Lib Dem / Tori.

Mae'n bosibl - wrth gwrs ei fod yn bosibl, ac mae yna bobl efo mwy o lawer o wybodaeth lleol na fi - ond byddai'n gryn gamp o safbwynt ystadegol.

Anonymous said...

Gwybodaeth lleol, wth gwrs, yw'r gyfrinach. Dydw i ddim yn meddwl fod y cyfryngau etc wedi cweit tiwnio i fewn i'r ffaith fod pobl Trefaladwyn wedi cael hen ddigon ar Lembit Grope-it. Maent wedi danto ar ei fercheta, ei yfed, ei angen ddi-baid am unrhyweth yn ymwneud a'r bywyd seleb, ei gelwyddau, ei absenoldeb o'r etholaeth, ei golofn ar gyfer papur porno, ei awydd i hybu'r Segway twp, a gafodd yn rhad ac am ddim, ei ffolineb wrth WERTHU ei storiam ei "annus horribilis" i'r Mail on Sunday etc etc.
Mae Glyn yn ymddwyn fel yr AS yn barod, gyda llawer o bobl yn troi ato fe gyda'u problemau a'u gwahoddiadau. Dalier sylw, mae'r etholaeth yn gwybod llawer mwy am ymddygiad Lembit Opik nag yw'r cyfryngau yng Nghaerdydd a Llundain yn sylweddoli. Dyw ei ddim yn boblogaidd yn yr ardal. Mae'n embaras llwyr ac mae Trefaldwyn yn haeddu lot gwell.