Thursday, February 05, 2009

Carchar yng Nghaernarfon drachefn

Bydd datganiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma ynglyn a lleoliad carchar newydd i Gymru.

Gall blogmenai ddatgelu (cyn yr asiantaethau newyddion swyddogol) mai yng Nghaernarfon y bydd y datblygiad newydd.

Bydd yn dod a llawer o swyddi o ansawdd lled uchel i'r ardal. Bydd hefyd yn fater cynhenus yn wleidyddol.

Rydym yn byw mewn amseroedd diddorol.

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Os y mae wir angen carchar yng Ngogledd Cymru, a oes lle mwy priodol i'w leoli nag wrth y Cofis?

(jôôôc! - mae'n newyddion da i'r ardal dwi'n meddwl)

Cai Larsen said...

Mae'r adeilad Llys y Goron anferth newydd wedi ei leoli tafliad carreg (yn llythrennol) o stad Maes Barcer.

Anonymous said...

Newyddion gwych,swyddi da i bobol leol a ddaw a miliynnau i'r economi dros ardal eang!


Oes angen gofyn aelodau pa blaid ar fwrdd cyngor Gwynedd bleidleisiodd yn erbyn y cynllun?


Ia, cywir mae lwnatics Llais Gwynedd ar flaen y gad unwaith eto!

Rheswm-nid yw wedi ei leoli ym Mlaenau,wedyn dydyn nhw im isho fo'n unlle yng Ngwynedd