Mae llawer o'r hyn a ysgrifennir ym mlogiau HRF yn gwbl gall a rhesymol, ond mae ambell i gyfraniad yn gwneud i fy llygaid agor i'r fath raddau nes bod perygl gwirioneddol iddynt syrthio ar y llawr.
Pan gwymp y call fe gwymp ymhell.
Ychydig fisoedd yn ol cefais y syniad o roi gwobr HRF o bryd i'w gilydd am idiotrwydd rhyfeddol ar y We. Roedd hyn yn dilyn y sylwadau gwirioneddol idiotaidd gan HRF y byddai yntau a'i deulu yn siwr o osgoi effeithiadau'r dirwasgiad oherwydd na fu'r un ohonynt yn ddigon anffodus i ddal ffliw adar.
Enillydd cyntaf y wobr oedd cyfaill sy'n galw ei hun yn Still a Liberal oherwydd iddo honni bod pris olew byd eang yn cael ei yrru gan bwerau ymgyrchu y cadach llawr o aelod seneddol sydd gan Ceredigion - Mr Mark Williams.
Beth bynnag, daeth yn amser i ddyfarnu ar wobr HRF newydd - a'r enillydd yw _ _ _ y dyn ei hun - HRF. Y cyfraniad hwn sy'n mynd a hi - gyda theitl sydd ymysg y pethau gwirionaf i gael ei ysgrifennu yn y Gymraeg, ac yn wir un o'r pethau gwirionaf i gael ei 'sgwennu mewn unrhyw iaith.
Awgrym Alwyn ydi y byddai Llywelyn ein Llyw Olaf yn wylo, ac yn wir o bosibl yn wylo gwaed petai'n gwybod y byddai cartref henoed Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog yn cau wyth gan mlynedd yn y dyfodol. Lle ddiawl mae dyn yn dechrau ymateb i sylw fel hwn?
Mae'n debyg bod y cyd ddigwyddiad bod y cartref henoed yn rhannu enw gyda gwrthrych cerdd Gerallt Lloyd Owen yn ormod o demtasiwn i Alwyn - ond mae ei gyfeiriad yn un sy'n cysylltu'r sawl a bleidleisiodd tros gau'r cartref a brad yr arwisgiad yn ol yn 69. Mae'r cyswllt yma yn chwerthinllyd o amhriodol.
Roedd Llywelyn yn dywysog ffiwdal, canoloesol, doedd o ddim yn weithiwr cymdeithasol dagreuol, nag yn wir yn aelod o Lais Gwynedd. 'Doedd yna ddim llawer o bobl yn byw i fod yn ddigon hen i fod angen gofal yn ei henaint ar y pryd, a byddai'r syniad bod y wladwriaeth, neu awdurdodau lleol gyda chyfrifoldeb am edrych ar ol yr henoed, neu'n wir unrhyw un arall yn gwbl anaealladwy iddo.
Roedd yn byw ganrifoedd cyn y digwyddiadau mawr sydd wedi creu'r Gymru ryddfrydig ol Gristnogol yr ydym yn byw ynddi - roedd yn byw cyn Harri V111 a dyfodiad Protestaniaeth, cyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg, cyn y rhyfel cartref Seisnig, cyn setliad 1688, cyn y chwyldro Ffrengig, cyn y diwygiadau Protestanaidd Cymreig, cyn y chwyldro diwydiannol, cyn sefydlu llywodraeth leol, cyn Lloyd George a'r pensiwn, cyn Marx, cyn dirwasgiad mawr y dau ddegau a'r tri degau, cyn yr NHS a'r wladwriaeth les.
Ac eto mae teitl cyfraniad HRF yn ein hanog i gredu y byddai tywysog ffiwdal ar ei liniau yn wylo gwaed oherwydd bod rhywbeth y byddai'n gyfangwbl y tu allan i'w brofiad a'i ddirniadaeth yn cau mewn wyth gan mlynedd.
5 comments:
Ai dyma dy amddiffyniad gorau o benderfyniad dy Blaid i droi 13 o'r henoed allan o'u cartref? Ymateb i deitl post blog ac anwybyddu ei gynnwys! Awgrymu bod o'n iawn cau cartref Bryn Llywelyn oherwydd bod Llywelyn yn dywysog ffiwdal. Troi trafodaeth am ofal i bobl fregus yn destun gwawd.
Mae'r Blaid yn haeddu gwell, mae trigolion Bryn Llywelyn yn haeddu llawer gwell.
Na - nid dyna'r amddiffyn gorau - mi geisiaf gyflwyno un un hwyrach heddiw os caf y cyfle.
Gyda llaw - os wyt yn dweud bod trigolion Bryn Llywelyn yn cael eu 'troi allan', efallai y byddai'n deg nodi eu bod yn symud i gartref arall - lai na milltir i fyny'r lon.
Fyddan nhw ddim yn crwydro'r lonydd.
Cai...efallai ddylet ddarllen yr hyn dwi'n ei ddweud mewn ymateb i dy ffrind, Rhydian o dan Wylit,Wylit Lywelyn...ti yn gwbwl anghywir i ddweud y bydd trigolion Bryn Llywelyn yn cael eu cartrefu yn lleol....ffaith yw hyn, nid propoganda..gofyn i swyddogion y cyngor, gofyn i beneithiaid y ddau gartref yn Llan Ffestiniog...Mi fydd yr unigolion yma yn gorfod gadael eu cynhefin yma yn Stiniog yn sgil y penderfyniad hwn...does ddim un o'r 13 na'i teuluoedd isio hynny ddigwydd...anwybyddwyd hynny yn llwyr gan mwyafrif gynghorwyr dy Blaid dydd Iau.
menaiblog said...
Gyda llaw - os wyt yn dweud bod trigolion Bryn Llywelyn yn cael eu 'troi allan', efallai y byddai'n deg nodi eu bod yn symud i gartref arall - lai na milltir i fyny'r lon.
Rwyt yn anghywir, Cai bach. Mae yna ddatblygiadau newydd ar y gweill am ofal yr henoed yn ardal Ffestiniog, ond bydd Bryn Llywelyn wedi ei hen gau cyn iddynt ddod i fwcl.
Bydd trigolion Bryn Llywelyn yn cael eu ffermio allan i'r sector breifat - yn unol a pholisi (sosialaidd) y Blaid!!!
Post a Comment