Pur anaml y byddaf yn dychwelyd at union yr un pwnc - ac yn arbennig felly oddi mewn i ddiwrnod. Serch hynny mae sylwadau Prysor ynglyn ag erthygl ryfedd Rhys Williams wedi peri i mi gnoi cil rhyw ychydig. Fel pob dim y bydd Prys yn ei 'sgwennu mae'r blog yn ddifir ac yn werth ei ddarllen.
Gellir gweld yr erthygl wreiddiol Rhys Williams yma gyda llaw.
'Dwi ddim am fynd ar ol pob dim - 'dwi'n cytuno efo fwy neu lai pob dim mae Prys yn ei ddweud. Serch hynny mae dau bwynt hoffwn edrych arnynt - ac mae'r ddau yn ymwneud gyda natur personoliaeth Rhys.
Yn gyntaf mae Prys yn awgrymu bod Rhys yn berson anarferol o ansylwgar. Mae hyn yn hollol wir. Ymddengys ei fod yn llafurio o dan y cam argraff ein bod yn byw yn y chwe degau pan oedd y Gymru wledig, orllewinol yn syml o safbwyntiau cymdeithasegol, ieithyddol, ethnig a diwylliannol. Bu newidiadau anferthol ers hynny - yn arbennig yn Sir Geredigion lle mae Rhys wedi ymgartrefu ers chwarter canrif.
Bellach y llefydd sydd yn syml ydi'r cymdogaethau trefol a bwrdeisdrefol hynny sy'n draddodiadol Gymraeg eu hiaith - llefydd tebyg i'r mannau lle mae Prysor a minnau'n byw. Un ward wledig yn unig sydd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg. Wardiau trefol ydi'r pedwar ar bymtheg arall. Yn Sir Geredigion 60% neu lai sy'n siarad Cymraeg yn y rhan fwyaf o'r wardiau gwledig - mae'n agos at hanner trigolion llawer o'r rhain wedi eu geni y tu allan i Gymru. Mae'r Saesneg yn llawer, llawer cryfach na'r Gymraeg tros y rhan fwyaf o'r Sir Geredigion wledig. 'Dydi Rhys, rhywsut, rhywfodd heb sylwi ar hyn.
Yn ail, mae Rhys yn snob ar raddfa epig - mae'n edrych i lawr ei drwyn ar ei holl gymdogion a'i holl gydnabod. Mae cyd destun i hyn wrth gwrs - mae'n hen draddodiad i bobl nad ydynt yn ffitio i mewn gyda'u cymunedau lleol i uniaethu gyda diwylliant Seisnig, ac edrych i lawr ar y diwylliant brodorol gan arddel rhagfarnau a stereoteipio Seisnig.
Yn wir mae llenyddiaeth Eingl Gymreig modern wedi ei seilio ar y tueddiad hwn i raddau helaeth. Caradog Evans ydi taid llenyddiaeth Eingl Gymreig ac er mor grefftus a darllenadwy oedd ei storiau byrion, ymdrech ydynt i ddilorni ei ddiwylliant ei hun a'r traddodiad Rhyddfrydol Cymreig yr oedd wedi ei eni iddo ac i uniaethu ei hun gyda Thoriaid Seisnig.
Y gwahaniaeth efo Rhys ydi ei fod yn dilorni'r gymdeithas ddychmygol wledig Gymreig, mae wedi byw ynddi ers chwarter canrif ac yn uniaethu ei hun efo'r gymdeithas lofaol y bu'n byw ynddi fel plentyn. Mae'r gymdeithas oleuedig, gynhwysol yma hefyd yn gynyrch dychymyg Rhys wrth gwrs. Mae cymunedau'r hen faes glo yn llawer mwy unffurf yn gymdeithaegol na chymunedau'r Gymru wledig, ac o ganlyniad maent yn fwy tebygol o lawer o fod yn unffurf a chul o ran agweddau. Yn sicr mae gwrth Seisnigrwydd di feddwl rhai o drigolion y Cymoedd yr ydw i yn eu hadnabod yn mynd a fy ngwynt o bryd i'w gilydd.
Mae rhywbeth trist ond gogleisiol mewn rhai ffyrdd meddwl am Rhys yn codi yn y bore, mynd i'r siop ar y ffordd i'w waith ac edrych i lawr ei drwyn ar y creadur sy'n gwerthu'r papur iddo oherwydd ei fod yn gul a rhagfarnllyd. Wedi cyrraedd yr ysgol mae'n edrych i lawr ar ei gyd weithwyr a'i ddisgyblion am yr un rheswm. Ar y ffordd adref efallai ei fod yn aros mewn tafarn am beint cyn cael ei de ac yn edrych i lawr ei drwyn ar ei gyd yfwyr oherwydd eu bod hwythau yn hics gwledig tra ei fod ef wedi ei fendithio a soffistigedigiaeth Ynys y Bwl. Mae'n nodio ar hwn a'r llall ar y ffordd adref - ac yn edrych i lawr arnynt. Efallai ei fod yn wir yn edrych i lawr ar ei deulu ei hun.
Mae'n ystyried ei hun yn well na phawb mae'n dod i gysylltiad a nhw - ac hynny ar sail dealltwriaeth ddiffygiol o'r gymdeithas y maent hwy ac yntau yn byw ynddi, a dealltwriaeth ddiffygiol o'r gymdeithas mae'n ceisio uniaethu a hi.
'Does dim yn fwy trist na snob sy'n seilio ei snobyddiaeth ar ganfyddiad chwerthinllyd o aruchel o'i le ei hun yn y gymdeithas mae'n byw ynddi. Erbyn meddwl efallai bod ei ddiffyg sylwgarwch rhyfeddol yn deillio o'r ffaith nad yw'n trafferthu cyfathrebu gydag unrhyw un yn ei gymdogaeth oherwydd ei lefel anarferol o uchel o snobyddiaeth.
2 comments:
Dwi'n meddwl y bydd Rhys yn ffitio mewn yn dda iawn i'r Blaid Lafur.
As native-born English speaker, living in London, I am so glad that, at least potentially, the Welsh language will gain equal status with English, in Wales.
As the "International Year of Languages" comes to an end on 21st February, you may be interested in the contribution, made by the World Esperanto Association, to UNESCO's campaign for the protection of endangered languages.
The following declaration was made in favour of Esperanto, by UNESCO at its Paris HQ in December 2008. http://portal.unesco.org/culture/en/ev.php-URL_ID=38420&URL_DO=DO_PRINTPAGE&URL_SECTION=201.html
The commitment to the campaign to save endangered languages was made, by the World Esperanto Association at the United Nations' Geneva HQ in September.
http://uk.youtube.com/watch?v=eR7vD9kChBA&feature=related or http://www.esperanto.net for the Welsh language detail of the above!
Post a Comment