Gan fod y fyddin Brydeinig yn ddigon caredig i noddi S4C gyda'u hysbysebion cynhyrfys, diddorol a di ddiwedd, 'dwi'n teimlo'r angen i'w cynorthwyo yn eu hymgyrch arwrol i berswadio hogiau o Sgubor Goch, Blaenau Ffestiniog a Rhydaman i fynd i Afganistan i gwffio tros y frenhines. Felly dyma ddechrau ar gyfres achlysurol o gyfraniadau ar yr hyn sy'n wych, yn ysblenydd a godidog am y traddodiad milwrol Prydeinig.
Mi wnawn ni ddechrau efo pitchcapping (does yna ddim gair Cymraeg am yr arfer yma - a dweud y gwir ychydig o dermau Cymraeg sydd am ddulliau artaith yn gyffredinol.
Un o draddodiadau anrhydeddus y fyddin Brydeining yn yr Iwerddon oedd pitchcapping. Fe'i defnyddwyd yn aml yn ystod y gwrthryfel mawr ym 1798, ac ambell waith yn ystod Rhyfel Black & Tan yn y ganrif ddiwethaf.
Arferid tywallt tar poeth i mewn i gap a fyddai wedyn yn cael ei wthio tros ben y sawl nad oedd y fyddin yn or hoff ohonynt. Wedi gadael i'r tar oeri a chaledu, byddai'n cael ei rwygo oddi ar y pen gan ddod a'r gwallt, croen ac ati gyda fo. Byddai hyn yn gadael y sawl oedd wedi diodde'r driniaeth yn edrych fel bwbach am weddill ei fywyd.
Fersiwn ychydig yn gwahanol a mwy diddorol o'r driniaeth oedd ychwanegu tyrps neu bowdwr du i'r tar ac wedyn rhoi pen y Gwyddel oedd oddi tanddo ar dan.
Weithiau byddai'r rhwymau oedd o gwmpas y traed yn cael eu dad wneud er mwyn i'r hogiau gael gweld y Gwyddel yn rhedeg o gwmpas mewn poen. Yn aml byddai'n dobio ei ben yn erbyn y llawr, neu graig gyfagos oherwydd bod poen felly'n haws i'w ddioddef nag un y col tar.
Pwy sy'n dweud nad oes yna hwyl i'w gael yn y fyddin Brydeinig?
No comments:
Post a Comment