Pa flogiwr toreithiog o gynghorydd sy'n meddwl ei bod yn bwysig i'r byd a'r betws gael gwybod am pob un cam mae'n ei droedio, pob gem rygbi neu bel droed mae'n ei gweld pob tro mae'n mynd am dro, sydd wedi anghofio son ei fod yn y sefyllfa tra anarferol i gynghorydd o gael ei hun ar lyfrau'r ombwdsman llywodraeth leol?
Diweddariad - bu Alwyn yn ddigon caredig i wneud ychydig o waith ymchwil (gweler y dudalen sylwadau) ac mae'n honni i'r unigolyn sydd o dan sylw fod yn y sefyllfa yma o'r blaen. Dydw i ddim yn gwybod dim oll am hynny, dwi'n cymryd bod ymchwil Alwyn yn ddilys - ond does gen i ddim ffordd o wybod hynny, a fyddwn i ddim yn awyddus i gysylltu fy hun efo honiad nad ydw i'n gwybod i sicrwydd llwyr ei bod yn wir. .
13 comments:
Cicio'r dyn yn hytrach na'r bel eto Cai!
Llawer gwell gennyf farnu cynghorydd o faint ei gyfraniad yn hytrach na faint ei din na sŵn ei glec! Ond dyna fo - nid ydwyf yn un o'r 103 o gynghorwyr Plaid Cymru sydd wedi derbyn cwyn yn eu herbyn gan yr Ombwdsman yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf!
Yr wyf wedi archwilio hanes cwynion i'r ombwdsman ac wedi cael hyd i gŵyn yn erbyn Gwilym!
Son am droelli!
Aelod o ba Blaid, a pha weinyddiaeth oedd Gwilym pan gafodd o a'r winyddiaeth yr oedd yn ei gynrychioli chwip din gan yr Ombwdsman?
Diolch Alwyn - doeddwn i ddim yn sylwi bod yna gwyn wedo bod yn y gorffennol hefyd.
Cai,
Diolch i ti am y Cwis.
Dwi wedi ceisio ymateb yn llawn i dy gwestiwn ar fy mlog. Ar y pwynt lle ti'n ceisio difrio fy mlog, mae perffaith hawl i ti wneud hynny wrth gwrs serch hynny hoffwn nodi tri peth...mae fwy i fywyd na gwleidyddiaeth...does genai ddim amser i sefydlu mwy na un blog fel sydd gen ti (sydd yn son am pob cam a mynd am dro a pubs ayb) ac yn drydedd...does dim rhaid i ti ei ddarllen o nagoes gyfaill mwyn.
Cofion gorau fel arfer.
Gwil
Twt, twt Gwilym - 'dwi ddim yn difrio dy flog am funud - 'dwi'n ei fwynhau'n fawr - does yna ddim oll o'i le mewn cynnwys manylion am dy fywyd personol yn dy flog.
Y pwynt yr oeddwn yn ei wneud oedd nad oedd son yn dy flog am y sefyllfa anffodus efo'r ombwdsman - ti wedi egluro yn dy flog - digon teg.
Mae gen i ofn mai rhan o gost bod yn wleidydd blaenllaw ydi bod sylw am gael ei wneud o bryd i'w gilydd ynglyn a dy yrfa wleidyddol. Mae hynny'n mynd efo'r diriogaeth mae gen i ofn.
Rydynt wedi cynnwys ar ein blog roll gallwch chi wneud yr un peth sgwelwch yn dda.
http://plaideuropa.blogspot.com/
Blog Newydd amdan ymgyrchoedd Plaid Cymru yn Ewrop
O lle mae rhywun yn cael gafael ar gwynion hanesyddol i'r ombwdsman yn erbyn unigolion? Ydyn nhw ar ei wefan?
Diolch Alwyn - doeddwn i ddim yn sylwi bod yna gwyn wedo bod yn y gorffennol hefyd.
Rhaid imi ymddiheuro i Cai a'r Cynghorydd Gwilym Euros Roberts am chwilio'n rhy frysiog trwy hen adroddiadau'r Ombwdsman. Roedd y gŵyn y tybiais ei fod yn erbyn Gwilym yn gŵyn gan aelod o'r cyhoedd o'r enw Gwilym Roberts yn erbyn Cyngor Sir Gwynedd.
Sori. Byddwyf yn gwisgo sachliain a lludw hyd etholiadau nesaf y cynghorau sir am fy ngham.
Dim problem o'm hochr i Alwyn bach.
Dim problem o'n ochor i chwaith Alwyn...oedd newyddion ynglyn a chwyn blaenorol yn...newyddion i mi hefyd.
Gwil
Post a Comment