Felly mae Glyn Davies yn bygwth ffeit ddyrnau oni bai bod y berthynas draddodiadol rhwng ei etholwyr a'r broses gynhyrchu trydan yn cael ei chynnal - hynny yw bod y gyfrifoldeb a'r anghyfleustra o gynhyrchu a throsglwyddo trydan yn dod i ran eraill, tra bod trigolion Maldwyn yn defnyddio'r dywydedig drydan. Mi geith Baglan Bay, Dinorwig, Penfro, Glannau Dyfrdwy, Shotton, Port Talbot a Ffestiniog gynhyrchu'r trydan ac mi gaiff Maldwyn ei ddefnyddio. Trefniant neis iawn - i Glyn a'i gymdogion.
Mae'n ddiddorol bod y genadwri yma'n codi ar yr un diwrnod a thoriadau yn y gyflenwad trydan yn India a effeithiodd ar 600 miliwn o bobl.. Mae'r rheswm tros y toriadau yn sylfaenol weddol syml - bwlch rhwng faint o alw sydd yna am drydan a'r cyflenwad y gellir ei ddarparu. Mae'r un peth wedi digwydd ym Mhrydain yn y gorffennol - yn ystod yr Ail Ryfel Byd a streiciau'r glowyr yn y 70au er enghraifft. Yn wir mae toriadau mewn cyflenwadau trydan yn hynod gyffredin ar hyd a lled y Byd - fel y gellir gweld yma.
Rwan mae'r newidiadau mae Glyn eisiau ffeit ynglyn a nhw yn digwydd mewn cyd destun ehangach - llawer ehangach. Gyrrir yr angen i ddod o hyd i ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan gan ddau beth - a bwlch rhwng cyflenwad a galw sy'n datblygu oherwydd bod nifer o orsafoedd pwer glo a Magnox yn tynnu tua diwedd eu hoes, a chytundebau mae'r DU wedi eu harwyddo sy'n ei chlymu i gynyddu'r ynni adnewyddadwy mae'n ei gynhyrchu. Mae'r ffaith na fydd cyflenwadau olew Mor y Gogledd ar gael am hir - naill ai oherwydd annibyniaeth i'r Alban, neu'r cwymp naturiol mewn lefel cynhyrchiad yn ychwanegu at y pwysau.
Efallai ei bod werth aros yma i edrych ar ambell i ffaith. Mae'r DU yn gwneud defnydd cymharol drwm o ynni - er mai tua 1% o boblogaeth y Byd sy'n byw yma, gwneir defnydd o tua 2% o'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio tros y Byd. Daw tua tri chwarter y trydan a gynhyrchir yn y DU o bwerdai nwy a glo, gyda niwclear ar tua 15% a dulliau adnewyddadwy yn llai na hanner hynny.
Mae'r DU wedi ymrwymo i gwrdd a tharged o gynhyrchu 15% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2015. Tua 6.7% ydi'r ffigwr ar hyn o bryd. 'Dydi hyn ddim yn darged arbennig o uchelgeisiol - mae targed yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd yn 20%, ac mae'r Alban yn bwriadu cyflenwi 100% o'i hanghenion trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2020. Does yna ddim digon o bwer wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad i ddylanwadu ar bethau llawer y naill ffordd na'r llall, a 'dydi llywodraeth Carwyn Jones ddim eisiau'r pwer chwaith. Esiampl arall o ddiffyg uchelgais llwyr y Blaid Lafur Gymreig.
O edrych yn benodol ar ynni gwynt, ar ddiwedd 2009 roedd y DU yn cynhyrchu 3.2% o'i hynni trwy'r dull hwnnw. Y ffigyrau ar gyfer Denmarc oedd 24%, Sbaen 14.4%, Portiwgal 14%, iwerddon 10.1%, Yr Almaen 9.3%. Mae Prydain ymysg prif fewnforwyr trydan y Byd - oherwydd nad ydi'r capasiti presenol yn ddigonol i gwrdd a'n anghenion. Yn wir mae'r Grid Cenedlaethol wedi ei gysylltu a grid yr Iseldiroedd i bwrpas mewnforio trydan.
A daw hyn a ni yn ol at Glyn Davies a rhai o'i etholwyr tymhestlog. Eu hateb nhw i'r bwlch rhwng y cyflenwad a'r galw am drydan sy'n siwr o ddatblygu tros y blynyddoedd sydd i ddod ydi mai mater i bobl eraill ydi mynd i'r afael a'r broblem honno. Problem i eraill hefyd ydi sicrhau bod y DU yn cwrdd a'i haddewidion ynglyn a chynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Dim oll i wneud a Maldwyn - dim.
Pan roedd ein holl anghenion trydan yn cael eu cwrdd gan y diwydiant glo, roedd yn dilyn mai'r cymunedau glofaol fyddai'n cynhyrchu'r glo, ac roedd yn synhwyrol i gymunedau cyfagos ei losgi er mwyn creu trydan. Ac rwan mae amgylchiadau wedi newid, ac mae Maldwyn yn fwy addas na'r Rhondda a'r Barri, mae Glyn a'i gyfeillion yn dal o'r farn mai mater i rannau eraill o Gymru a'r DU ydi cynhyrchu trydan o hyd.