Showing posts with label tor cyfraith. Show all posts
Showing posts with label tor cyfraith. Show all posts

Wednesday, August 24, 2011

Darren Millar eisiau bod yn farnwr, erlynydd, ynad heddwch ac AS yn ogystal ag AC

Mae'n ddiddorol nodi bod Aelod Cynulliad Toriaidd Gorllewin Clwyd, Darren Millar yn hynod awyddus i fynegi'r gred y dylai llys ynadon Caernarfon fod wedi bod yn fwy llawdrwm o lawer ar David Glyn Jones yn dilyn ei ymgais byrhoedlog ond boncyrs i greu terfysg ym Mangor.

Rwan mae pob barnwr, neu ynad heddwch yn dilyn canllawiau clir iawn pan maent yn dedfrydu.  Roedd David Jones wedi ei gyhuddo o dorri'r Ddeddf Cyfathrebu.  Gallwch weld y canllawiau dedfrydu y byddai'r ynadon wedi eu dilyn yng nghyd destun y ddeddf honno yma. (ewch i t 42). Os ewch ati i wneud yr un ymarferiad ag y gwnaeth yr ynadon, byddwch yn cael dedfryd yn yr amrediad 12 i 18 wythnos, gyda dadl go lew am roi'r lleiafswm.  Nid dyna wnaethon nhw - aethant am yr uchafswm - fel y byddai llawer ohonom wedi ei wneud yn y sefyllfa arbennig yma.



Rwan, 'dwi ddim eisiau dweud yr amlwg, ond mae'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru yn un gweddol syml - mae'r Cynulliad yn deddfu ar faterion Cymreig, mae San Steffan yn deddfu ar faterion Prydeinig, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhuddo (neu yn peidio a chyhuddo) yng ngoleuni ei ddealltwriaeth o'r gyfraith, ac mae'r llysoedd yn dyfarnu euogrwydd ac yn dedfrydu.

Gan nad ydi pwerau cyfiawnder wedi eu datganoli, cymharol fach ydi rol Darren yn hyn oll.  Ond eto mae'n 'siomedig' yn y ddedfryd ac yn credu y dylid bod wedi 'gwneud esiampl' o David Jones.  Mewn geiriau eraill mae'n credu y dylai Ynadon Caernarfon fod wedi anwybyddu'r canllawiau dedfrydu - rhywbeth fyddai'n tanseilio tegwch y gyfundrefn dedfrydu.

Os ydi Darren yn teimlo'n wirioneddol gryf am y mater, y peth gorau y gall ei wneud ydi lobio'r gweinidog cyfiawnder yn San Steffan i newid y Ddeddf Cyfathrebu - er pe byddai cynlluniau diweddar hwnnw i haneru'r ddedfryd os ydi troseddwr yn pledio yn euog wedi eu gwireddu, byddai David Jones a'i draed yn rhydd ymhell cyn 'Dolig. 

Thursday, August 18, 2011

Roedd yna derfysgoedd yn Lloegr cyn y 60au _ _ _

Mae'n ddifyr i'r blogiad hwn, sy'n dadlau na ddylid mynd at ein rhagfarnau i chwilio am eglurhad am a datrysiad i derfysgoedd yr haf wedi ennyn ar ymatebion sy'n gwneud yn union hynny - rhai sy'n beio'r chwe degau a'r 'ffaith' i'r hen Chwith gas 'na greu y ddegawd erchyll honno.

Y drwg efo'r thesis yma ydi ei bod yn dangos anwybodaeth o hanes Lloegr - gwlad sydd wedi gweld llawer o derfysgoedd tros y canrifoedd.  Mae yna hanes o derfysgoedd gwrth Babyddol (Gordon Riots 1880 er enghraifft),  a gwrth Iddewig (Maenceinion 1947 er enghraifft) wrth gwrs.  Roedd yna derfysgoedd gwrth Iddewig yn Nhredegar yn 1911 gyda llaw.  Ond mae yna lawer o derfysgoedd eraill wedi digwydd - rhai ohonynt gyda rhesymau digon lliwgar trostynt.

Er enghraifft ym mis Mawrth 1668 cafwyd terfysgoedd yn Llundain pan aeth efallai 40,000 o ddynion ifanc ati i ddifa puteindai yn nwyrain y ddinas.  Roedd protestiadau o'r math yma yn weddol gyffredin bryd hynny - ac roedd traddodiad o gynnal protestiadau treisgar yn erbyn bodolaeth puteindai ar Ddydd Mawrth Crempog.  Roedd hon, fodd bynnag yn llawer mwy na'r un arall, ac arestwyd pymtheg o'r 'arweinwyr'.  Cafodd pedwar o'r dywydiedig arweinwyr eu cyweirio, eu crogi a'u chwarteru - dedfryd sy'n gwneud i lysoedd cyfoes Cheshire ymddangos yn eithaf rhesymol.  Adwaenir y terfysgoedd yma fel y Bawdy House Riots.

Arweiniodd rhai o'r terfysgoedd at gryn dywallt gwaed.  Lladdwyd 11 hefyd mewn terfysgoedd ym Mryste a gychwynodd yn sgil codi tollau i groesi Pont Bryste yn 1793, a lladdwyd 15 - 20 ym Maenceinion yn 1819 pan ymysododd yr awdurdodau ar dyrfa oedd wedi ymgynull er mwyn  protestio o blaid hawliau democrataidd.


Cafwyd terfysgoedd sylweddol ar hyd a lled De Lloegr yn haf 1830 gan weithwyr amaethyddol.  Protestio yn erbyn cyflwyno peiriannau amaethyddol ar ffermydd oedd y miloedd lawer a gymrodd ran yn y Swing Riots. 

 

Cymhelliad yr un mor liwgar oedd tros brotestiadau yn Llundain yn 1809 -  codiad yng nghost mynd i'r theatr yn Covent Garden. Er na wnaed niwed mawr, parhaodd y problemau am rai misoedd - nes i'r prisiau gael eu gostwng.

Daeth problemau sylweddol  (eto fyth yn Llundain) o gyfeiriad anhebygol doctoriaid yn 1907 oherwydd nad oeddynt yn hoffi cerflyn o gi brown oedd wedi ei godi gan ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid. Bu problemau am flynyddoedd, ond mi aeth pethau'n wirioneddol ddrwg ar Sgwar Traffalgar rhwng y doctoriaid ar y naill law a suffragettes, heddlu ac undebwyr llafur ar y llall ychydig cyn 'Dolig y flwyddyn honno.

Llongwyr o anghydffurfwyr a'u teuluoedd oedd yn gyfrifol am derfysgoedd Newlyn, Cernyw yn 1896. Y ffaith bod llongwyr nad oeddynt yn anghydffurfwyr yn dad lwytho eu pysgod ar ddyddiau Sul oedd asgwrn y gynnen y tro hwn. Taflwyd tua 100,000 macrell yn ol i'r mor yn dilyn helyntion aeth ymlaen am tua tri diwrnod.

Lladdwyd 11 yn ystod terfysg yn Bosenden Wood, Kent  yn 1838.  Ymateb yr awdurdodau i ddyn gyda phroblemau iechyd meddwl o'r enw William Courtenay a'i ddilynwyr oedd o dan yr argraff ei fod yn broffwyd neu'n fab i Dduw oedd yn gyfrifol am hon.

Mae yna lawer mwy wrth gwrs - ond 'dwi'n cymryd nad oes neb mewn difri yn rhoi'r bai ar y Chwith a'r chwe degau am draddodiad o anhrefn sifil .yn Lloegr sy'n mynd yn ol ganrifoedd.

Wednesday, August 17, 2011

Terfysgoedd Lloegr a rhagfarnau gwleidyddion

Un o nodweddion y terfysgoedd diweddar yn rhai o ddinasoedd Lloegr ydi'r effaith mae'r holl beth wedi ei gael ar wleidyddion - mae'r creaduriaid ar goll yn llwyr ac yn ceisio egluro'r holl beth yn nhermau eu rhagfarnau eu hunain.

Er enghraifft, yn ystod y diwrnod neu ddau wedi i'r terfysgoedd gychwyn roedd rhai o wleidyddion Llafur - Hattie Harman a Ken Livingstone er enghraifft yn ceisio egluro pethau yn nhermau toriadau mewn gwariant cyhoeddus.  'Rwan mae yna doriadau wedi digwydd wrth gwrs - ond un blwyddyn yn unig a welodd wariant cyhoeddus uwch nag un 2011 yn holl hanes y DU, sef 2010.  'Doedd yna ddim anhrefn ar strydoedd Llundain yn y flwyddyn 2000 - pan roedd gwariant cyhoeddus tua hanner yr hyn ydyw eleni.

Mae'r Dde hefyd wedi troi at eu rhagfarnau arferol - gofyn i foi o America beth i'w wneud am gangiau (er bod dinasoedd mawr America yn llawn dop o gangiau), gorfodi pawb ifanc i wneud gwasanaeth cenedlaethol (er bod tua 20,000 o gyn filwyr yn y system droseddol ar hyn o bryd ac 8,500 yn y carchar), taflu cymaint o bobl a phosibl i'r carchar (er bod 70% o garcharorion yn ol o dan glo o fewn 2 flynedd i gael eu rhyddhau). 


Mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn gynharach y mis hwn yn gymhleth ac yn amlochrog.  'Does yna ddim eglurhad syml pam bod nifer arwyddocaol o bobl ifanc o dan yr argraff nad oes fawr ddim o'i le mewn malu ffenestri siopau a helpu eu hunain i gynnwys y siopau hynny .  Mae'r ffaith bod cymaint o'n gwleidyddion yn troi at eu rhagdybiaethau a'u rhagfarnau eu hunain am ddatrysiad yn awgrymu nad ydynt am ddod o hyd i atebion call i broblem a allai'n hawdd ail godi mewn gwahanol ffurfiau tros y blynyddoedd nesaf.