Mi fydd newyddion fory yn llawn hanesion am seremoniau cofio ar hyd a lled Cymru - a thu hwnt. Mi fydd pobl yn hel o gwmpas cof golofnau o Gaergybi i Gaerdydd i gofio meirw rhyfeloedd y ganrif ddiwethaf a'r ganrif bresennol. Mae'r seromoniau fel rheol yn dennu cyn aelodau o'r lluoedd diogelwch, aelodau presennol o'r lluoedd hynny, pwysigion lleol a chenedlaethol a'r camerau teledu wrth gwrs. 'Dydw i ddim yn un o gefnogwyr y seremoniau, a fydda i byth yn gwisgo pabi - dyma pam.
Penblwydd diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n pennu dyddiad y cofio. Fedra i ddim gweld unrhyw reswm pam y byddai neb eisiau coffau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y ffordd yma - rhyfel rhwng ymerodraethau trachwantus lle bu miliynau farw er mwyn sefydlu'r amodau ar gyfer Comiwnyddiaeth a Natsiaeth a'r rhyfel gwaeth hyd yn oed a ymladdwyd ychydig ddegawdau yn ddiweddarach. Rhyfel a laddodd blant a wyrion y sawl a ymladdodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn eu miliynau. Mi fyddwn wedi tybio mai'r wers briodol i'w chymryd o ryfel 1914 - 1918 ydi bod ymerodraethau jingoistaidd yn arwain at erchyllderau ysgeler. Nid dyna'r wers y bydd seremoniau 'fory yn eu dysgu i'r sawl fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau, a'r sawl sydd yn eu gwylio ar y teledu - mi fyddan nhw'n cael yr argraff bod rhyw fath o bwrpas cadarnhaol i'r holl beth. A 'doedd yna ddim - dim oll.
Mae'n gwbl briodol i bobl fod eisiau coffau aelodau o'u teuluoedd a chyfeillion sydd wedi eu lladd mewn rhyfeloedd wrth gwrs, ond y drwg efo'r pabi a'r seremoniau cofio mae'r symbol yn rhan ohonynt ydi eu bod yn gwneud mwy na chofio'r meirw, maent yn rhamateiddio marwolaethau oedd yn aml yn gwbl erchyll -a maent o ganlyniad yn bropoganda milwrol - a thrwy estyniad maent yn bropoganda ar gyfer y lluoedd milwrol presenol.
Ac waeth i ni fod yn onest am y peth - at ei gilydd mae'r lluoedd arfog Prydeinig wedi bod yn broblem sylweddol i weddill y byd trwy gydol eu hanes. Maent wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd i ymosod ar wledydd eraill ar hyd a lled y Byd, yn aml am resymau sy'n hynod, hynod anodd i'w cyfiawnhau heddiw. A fyddai yna unrhyw un mewn difri yn ceisio cyfiawnhau mynd i ryfeloedd sylweddol efo Tseina er mwyn gorfodi'r wlad anffodus honno i fewnforio opiwm er enghraifft? Ac mae'r duedd Brydeinig o ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd wedi parhau trwy'r ganrif ddiwethaf, ac ymwthio i mewn i hon - mae'r ymerodraeth wedi mynd, ond mae seicoleg ymerodraethol yn fyw ac yn iach, ac yn aml yn gyrru polisi tramor y DU. 'Dydi'r ffaith bod y DU wedi bod ar ochr 'gywir' hanes ambell waith (RhB2 er enghraifft) ddim yn newid y gwirionedd sylfaenol yma.
Yn fy marn bach i, y coffad gorau i feirwon milwrol y DU fyddai symud oddi wrth y feddylfryd ei bod yn hanfodol i Brydain ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd. Byddai hyn yn arwain at normaleiddio'r lluoedd arfog - hy eu gwneud yn llai a'u strwythuro i ateb gofynion amddiffynol - fel y gwneir yn y rhan fwyaf o wledydd eraill.
Os ydi pobl eisiau coffau'r meirw mae hynny'n angen cwbl briodol a dynol wrth gwrs - ond byddai'n llawer gwell gwneud hynny mewn modd sydd ddim yn cyfiawnhau traddodiad milwrol na ddylid ei gyfiawnhau.
