Showing posts with label Gwynedd. Show all posts
Showing posts with label Gwynedd. Show all posts

Saturday, May 05, 2012

Etholiadau Gwynedd - ambell i sylw brysiog

Mi fyddaf yn trafod yr etholiadau yn ehangach maes o law, ond yn y cyfamser ambell i sylw brysiog ynglyn a sut aeth pethau yng Ngwynedd:

Ni thorrodd y don Lafuraidd ar draethau Gwynedd - gydag eithriad rhyfedd Bethel. Yn wir roedd y cochion yn lwcus ar y coblyn o gadw pedair sedd - cadwodd Gwen ei sedd yn Nhregarth o chwe phleidlais (mwy o fwyafrif nag a gafodd o'r blaen erbyn meddwl), dychwelwyd Brian eto fyth yn ddi wrthwynebiad, ac enilliodd David Gwynfor sedd gan y Blaid gyda 66 o bleidleidiau yn unig a phedwar o fwyafrif yn un o Rotten Boroughs Gwynedd ym Mangor.

Mae'r cyfryngau yn tueddu i weld gwleidyddiaeth Gwynedd mewn termau cystadleuaeth ffyrnig rhwng y Blaid a Llais Gwynedd, ond rhywsut neu'i gilydd roedd y frwydr rhyngddynt yn eithaf di niwed y tro hwn. Do, mi lwyddodd Llais i ddiorseddu un cynghorydd Plaid Cymru ym Motwnnog, ond dyna'r unig ward i weld cynghorydd o'r naill blaid yn colli ei sedd i'r llall. Mi gollodd y Blaid seddi, ac mi enilliodd seddi - ond ddim yn erbyn Llais Gwynedd. Mi enillodd Llais seddi, ond ar draul ymgeiswyr annibynnol. Gall y ddwy blaid fod yn fodlon ac yn anfodlon ar yr un pryd. Roedd perfformiad y ddwy blaid ychydig yn well nag oedd yn 2008, ond byddai'r Blaid wedi gobeithio ennill grym yn llwyr, a methodd wneud hynny o drwch adain pryf, tra byddai Llais wedi hanner gobeithio dod yn ail, ond ni lwyddwyd i wneud hynny chwaith.

Mae'r map o Wynedd bellach yn edrych yn eithaf rhyfedd, gyda'r Blaid yn dominyddu yn yr ardaloedd trefol ac ym Meirion, tra bod Llais yn dominyddu yn Nwyfor. Mae Llafur yn dal ei gafael ar eu mymryn bregus yn y Gogledd Ddwyrain tra bod y Lib Dems bron iawn wedi eu gwasgu allan o Fangor. Mae'r Annibyns yn ymddangos yma ac acw ar hyd y sir.

Yn ol eu harfer wnaeth y Toriaid ddim trafferthu efo Gwynedd. Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud eu bod wedi canolbwyntio eu holl ymdrechion ar un ward yn unig, gan ennill 98 o bleidleisiau yn honno.

Felly, i grynhoi - mi gymrodd Gwynedd ei lwybr bach gwleidyddol ei hun - un sydd wedi ei intergreiddio'n llwyr oddi wrth weddill Cymru. Mi gafodd y patrymau gwleidyddol ehangach cyn lleied o effaith ar Wynedd nag a gafodd patrymau Gwynedd ar weddill Cymru.

Diweddariad - ymddiheuriadau i'r Toriaid, roedd ganddynt ymgeisydd yn Nhywyn hefyd - daeth yn olaf.

Friday, May 04, 2012

Sibrydion o Wynedd

Does yna ddim o'r isod yn sicr - does yna ddim un bleidlais wedi ei chyfri.

Bethel - Llafur (PC colli)
Menai Caernarfon - Plaid cadw
Peblig Caernarfon - PlId cadw
Cadnant - Plaid cadw
Deiniolen - Annibynnol (Plaid colli)
Bontnewydd Plaid cadw
Llandwrog Ann cadw
Penygroes Plaid cadw
Talysarn LlG ennill
Llanaelhaearn Ll G ennill
Llanystumdwy Plaid cadw
Nefyn - LlG colli i Annibynnol
Bermo Plaid ennill gan Llafur
Brithdir Plaid cadw
Cricieth - annibynnol ennill Plaid colli.
Gogledd Pwllheli - plaid ennill gan annibynnol
Marchog LlFur colli i annibynnol
Botwnnog - agos PC / Llais
Aberdaron Plaid Cadw
Pentir Plaid cadw
De Pwllheli - LlG cadw
Seiont LlG cadw - ail sedd yn ansicr.
Tremadog LlG cadw
Dwyrain Port - annibynnol ennill gan Plaid
Dewi - Plaid colli i Annibynnol
Morfa Nefyn - Plaid Cadw
Gerlan - Plaid cadw
Clynnog - LlG cadw
Llandwrog - LlG cadw

Plaid yn ennill pob sedd maent wedi sefyll amdanynt ym Meirion gydag eithriad posibl Tywyn.

Mae nifer o seddi yn agos iawn. Tregarth agos, Llanllyfni agos, Botwnnog agos, Waunfawr agos.

Mae nifer o seddi ym Mangor yn agos iawn, ac mae yna bosibilrwydd y gall y Blaid gipio seddi'r Lib Dems ym Menai. Ond mae'n bosibl y collir seddi eraill - pethau'n agos iawn mewn nifer.

Gallai'r Blaid gael cyn lleied a 32 neu cymaint a 42. 38 sydd ei angen i ennill grym llwyr.

Fel y dywedais, sibrydion yn unig ydi'r uchod

Sunday, April 29, 2012

Sibrydion o'r wardiau

Cyn yr etholiadau diwethaf mi es ati i gynhyrchu dadansoddiad gweddol gynhwysfawr o'r gwahanol ornestau yng Ngwynedd. 'dydw i ddim am wneud hynny y tro hwn - yn rhannol oherwydd diffyg amser, ac yn rhannol oherwydd y ffaith bod unrhyw ddarogan yr oeddwn yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio i bwrpas propoganda yn amlach na pheidio. Ond waeth i ni gael cip bach ar un neu ddwy o'r straeon sy'n ymddangos trwy fwg y frwydr.

I ddechrau cydymdeimlad Blogmenai i'r Cynghorwyr Annibynnol Dilwyn Lloyd (Talysarn) a Sion Roberts (Gogledd Pwllheli) sydd wedi cefnogi Llais Gwynedd yn gyson tros gyfnod o bedair blynedd, ond sy'n cael eu hunain efo gwrthwynebwyr o'r grwp hwnnw. Ymddengys bod y ddau wedi eu hypsetio braidd gan y ffasiwn ddatblygiad. Trist iawn, ond dyna ydi natur y broses ddemocrataidd mae gen i ofn hogiau.

Fel y gwelwyd eisoes, mae pethau braidd yn fler i lawr yn Ne Meirion rhwng Louise Hughes o Lais Gwynedd a'r ymgeisydd Annibynnol, John Haycock.

Yn y cyfamser, mae ymgeisydd y Lib Dems yn ward Glyder ym Mangor yn canoli ei ymgyrch yn llwyr o gwmpas tyllau yn y lon - er a bod yn deg mae ei ohebiaeth hefyd yn cyfeiro at goed wedi syrthio, siop wag, llygod mawr a'r angen i dorri coed sy'n amharu ar olygfeydd pobl. 'Dydi o ddim yn anisgwyl bod Doug eisiau son am lygod mawr, coed a thyllau yn y palmant yn hytrach na'i Blaid ei hun a'i pholisiau yn yr amgylchiadau sydd ohonynt, ond wir Dduw mae gohebiaeth Doug yn dod a dimensiwn cwbl newydd i'r term dog shit Liberals. Mae fel patai pob cyfeiriad at unrhyw beth nad yw'n gorwedd ar y palmant wedi ei ddileu o'i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth lleol. Does neb yn disgwyl i Lib Dem fel Doug ddyrchafu ei lygaid i'r mynyddoedd, ond efallai y byddai edrych ar rhywbeth -unrhyw beth o gwbl - ag eithrio'r palmant yn syniad.

Atal llywodraethiant gan Blaid Cymru yng Ngwynedd ydi prif ddadl ymgeisydd Llais Gwynedd yn Llanfair a Llanfarian! Roger Payne. Ymddengys bod y Blaid wedi defnyddio eu 'rheolaeth' o'r Cyngor i wneud pob math o bethau ofnadwy megis cymryd penderfyniadau cynllunio dadleuol, codi treth y cyngor, ail strwythuro ysgolion a chartrefi gofal ac ati. Rhywbeth nad yw'n gyfeirio ato ydi'r ffaith nad ydi Gwynedd yn cael ei rheoli gan Blaid Cymru. Mae Gwynedd bron yn unigryw yng Nghymru yn yr ystyr bod grym yn cael ei rannu rhwng pob plaid a grwp. Yn wir, er bod y Blaid efo mwyafrif llwyr eithaf cyfforddus ar y cyngor erbyn hyn, mae'n dewis peidio a manteisio ar ei hawl i gael mwyafrif llwyr ar Fwrdd y Cyngor. Y cydbwysedd ar y Bwrdd ydi Plaid Cymru 7, Annibynnol 4, Llais Gwynedd 2, Lib Dems 1 a Llafur 1.

Yma yn Arfon mae prif ddyn Llafur, Tecwyn Thomas, yn cael trafferth deall pam bod ei blaid yn cael cymaint o drafferth i ddenu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg.  Efallai y byddai eistedd yn ol a gofyn iddo'i hun beth mae helynt pamffledi Trelai yn ei ddweud am agweddau gwaelodol llawer yn ei blaid tuag at y Gymraeg, a beth mae'r agweddau hynny yn eu dweud wrth Gymry Cymraeg ynglyn a'i blaid yn syniad.  Serch hynny mae'n rhaid llongyfarch nifer o'u hymgeiswyr sy'n fyfyrwyr ac yn dod o'r tu allan i Gymru.  Yn ol Tecwyn maent yn bwriadu aros yma ar ol graddio.  Mae'n gryn gamp cael gwaith yn lleol hyd yn oed wedi graddio yn yr oes sydd ohoni, ond ymddengys bod yr ymgeiswyr Llafur wedi cael eu swyddi ymhell cyn graddio. Da iawn nhw.

Ar nodyn ychydig yn wahanol 'dydw i ddim yn ddyn Facebook fy hun, ond i'r sawl yn eich plith sydd efo cyfri ac eisiau perspectif arall ar bethau, gallwch weld yr etholiad o safbwynt Llais Gwynedd yma.  Anaml y byddaf yn rhoi hysbys i Llais, ond am yr un tro hwn 'dwi'n fodlon gwneud eithriad. 

Gallwch ddysgu pob math o ffeithiau diddorol yno - megis pam bod Louise Hughes yn edmygu Prif Weinidog Awstralia, a pam bod Aeron Jones (ward Llanwnda), yn rhagweld llwyddiant ym Mangor, er nad oes gan Lais Gwynedd cymaint ag un ymgeisydd yn sefyll yn y ddinas.

Mi gewch chi fwy o newyddion fel 'dwi'n ei gael.

Sunday, March 13, 2011

Gwynedd a'r refferendwm

Mae'n arfer gan bleidiau gwleidyddol gadw golwg go fanwl ar flychau pleidleisio fel maent yn cael eu gwagio, a phan fydd y pleidleisiau sydd ynddynt yn cael eu dosbarthu. Dyma'r ffordd orau o arenwi pa ardaloedd sydd fwyaf cefnogol i'r gwahanol bleidiau. Anaml iawn y bydd y wybodaeth yma'n cael ei ryddhau oherwydd ei fod yn wybodaeth sydd yn wleiddyddol sensitif. Mae refferendwm yn wahanol wrth gwrs - 'does yna ddim llawer o ddefnydd y gall pleidiau eraill eu wneud o ddeilliannau'r ymarferiad. Felly dyma beth gwybodaeth am natur y refferendwm yng Ngwynedd.

Rhanbarth Pleidlais Ia
Dinas Bangor 70%
Tref Caernarfon 81%
Dyffryn Ogwen 82%
Arfon Wledig 78%
Dwyfor 75%
Meirion 76%

O ran y bocsus unigol wna i ddim eu rhestru nhw i gyd - mae yna ormod ohonyn nhw - ond mi ro i rhyw flas i chi. Roedd 85% neu fwy o'r pleidleisiau efo croes wrth Ia yn y bocsus canlynol:

Rachub, Bethesda, Gerlan, Y Garth (Bangor), Golan, Tremadog, Pencaenewydd, Trefor, Llaniestyn, Botwnnog, Aberdaron, Corris, Y Bala, Ffestiniog, Canolfan y WI Blaenau, Aelwyd yr Urdd Blaenau, Llanuwchllyn, Y Bontnewydd, Penrhyndeudraeth, Rhyd y Main, Sarnau, Aberangell, Santes Helen (Caernarfon), Rhosgadfan, Llanwnda, Llandwrog, Penygroes, Llanllyfni.

Mae'r uchod yn debygol o fod ymysg y ffigyrau uchaf yng Nghymru wrth gwrs, gan i Wynedd bleidleisio'n drymach na'r unman arall tros roi pwerau deddfu i'r Cynulliad.

Roedd y canlynol yn 60% neu is:

Bronyfoel, Abersoch, Aberdyfi, Y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Llwyngwril, Y Tywyn, Talsarnau, Bryncrug, Y Friog, Y Ganllwyd, Borthygest, Dinorwig.

Pleidleisiodd llai na 50% tros y cynnig yn Tywyn, Aberdyfi, Y Friog a Bronyfoel. Mae'n weddol amlwg o edrych ar y ddau restr bod perthynas agos rhwng maint y bleidlais Na a lefelau mewnfudiad. Mae'r bleidlais Ia hefyd yn drwm iawn mewn pentrefi chwarelyddol. O bosibl bydd ambell i gynghorydd Llais Gwynedd yn cael ychydig o amheuaeth ynglyn a doethineb eu penderfyniad i sefyll yn ol yn ystod yr ymgyrch o weld bod eu wardiau wedi pleidleisio Ia'n drwm iawn.

Dwi wedi rhoi lliw coch ar enwau'r ardaloedd lle roedd y samplau braidd yn rhy fach i fod yn gwbl ddibynadwy. Er bod sampl wedi ei gymryd o fwyafrif llethol y bocsus mae un neu ddau yn ddi sampl - gan gynnwys yr un sydd o fwyaf o ddiddordeb i mi. Os ydych eisiau gwybod y ganran am focs penodol gallwch adael neges ar dudalen sylwadau'r blogiad.

Paul Rawlinson sydd wedi bod yn gyfrifol am goledu a rhoi trefn ar yr holl wybodaeth gyda llaw - fedra i ddim meddwl am neb mwy effeithiol na Paul am wneud y math yma o waith.