Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr blogmenai yn ymwybodol o'r ffrae fach sydd wedi bod yn mynd rhagddi heddiw (ar y radio yn bennaf) ynglyn a'r ffaith nad yw'n edrych y bydd Cymru'n elwa fawr ddim o'r Gemau Olympaidd. Mi gychwynodd pethau efo Guto Harri, sydd bellach yn gweithio i faer Llundain, Boris Johnson, yn ymateb ar y Post Cyntaf i sylwadau Carwyn Jones ddoe, trwy ddweud mai bai Cymru ydi'r sefyllfa am beidio a gwneud digon i elwa o'r holl sioe.
Ail godwyd y peth ar Taro'r Post ac aeth pethau'n fler braidd rhwng aelod seneddol Arfon Hywel Williams a Guto gyda'r naill yn ail adrodd ei gred nad oedd gwleidyddion Cymru wedi gwneud digon o ymdrech i fynd i Lundain efo'u capiau trosiadol yn eu dwylo a'r llall yn cyhuddo Guto o wneud sylwadau camarweiniol ac o fod yn drahaus.
Cyn edrych ar y ffrae, beth am ystyried un neu ddau o ffeithiau syml? Cafodd cwmniau oedd wedi cyflwyno bidiau cynradd werth £6.2bn o waith gan yr ODA. £417,415 aeth i gwmniau o Gymru - 0.01% o'r cyfanswm. Aeth gwerth £3.3bn i gwmniau yn Llundain (53%) ac aeth £1bn i ardaloedd eraill yn Ne Ddwyrain Lloegr (16%). £24.5m (0.4%) aeth i'r Alban a £18m i Ogledd Iwerddon (0.3%).
Mae cyfanswm o £9.3bn wedi ei roi o'r neilltu i ariannu'r gemau - £2.2bn o'r Loteri Cenedlaethol, £0.6bn o drethi lleol i Lundain, £0.3bn o ffynonellau lleol eraill a £6.2bn gan y llywodraeth ganolog. Felly mae 90% o'r gwariant yn dod o ffynonellau Prydain gyfan tra bod 10% yn dod o ffynonellau lleol. Gellir amcangyfrif bod mwy na £400m wedi ei godi yng Nghymru, a bod tua 0.1% o hynny wedi dod yn ei ol ar ffurf contractau.
Agwedd eilradd i'r ddadl ydi mai ychydig iawn o'r cystadleuthau fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru - hyd yn oed mewn chwaraeon megis hwylio a chanwio - mae adnoddau penigamp yng Nghymru ar gyfer gemau felly.
Rwan, mae hyn yn edrych yn sobor o anheg, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod agwedd Guto trwy'r ddadl yn peri dryswch i mi. Roedd yn cyfeirio'r bai yn ol at Gymru, ac yn gwneud hynny oddi mewn i fframwaith hen ragfarn gwrth Gymreig - bod y Cymry yn ddi gic a diog.
Mae'n bosibl wrth gwrs bod llai o ymdrech wedi ei gwneud yng Nghymru nag a wnaethwyd yn Llundain ac mewn ardaloedd eraill, ond 'doedd gan Guto ddim byd mwy i brofi hynny na honiad anelwig nad oedd o a Seb Coe (roedd yn awyddus iawn i adael i ni wybod ei fod yn eistedd yn agos at hwnnw) ddim yn cofio i achos cryf am fawr ddim ddod o Gymru. Chawsom ni ddim gwybodaeth am sut yn union roedd ymdrechion llefydd eraill yn well na rhai Cymru, na beth oedd gwleidyddion Weymouth wedi ei wneud i ddenu'r cystadleuthau hwylio, dim data o gwbl chwaith - dim oll ond argraffiadau anelwig Guto ei hun.
Roedd ymateb Guto i awgrym gan Hywel bod lle i feddwl bod tuedd sefydliadol i ffafrio cwmniau o Lundain hefyd yn ddiddorol - roedd y fath awgrym yn dreuenus a 'bron iawn yn enllib'. Mae pawb yn gwybod wrth gwrs bod sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn Llundain megis San Steffan, News International, y Met a'r banciau yn arddel y safonau proffesiynol uchaf, a byddai'n beth ofnadwy petai rhywun di egwyddor wedi awgrymu bod ganddyn nhw broblemau strwythurol o unrhyw fath yn y Byd.
Wnawn ni ddim hyd yn oed mynd ar ol goblygiadau yr awgrym sydd ymhlyg yn nadl Guto y dylid penderfynu ar leoliad daearyddol campau mewn ymateb i - ahem - ymdrechion gwleidyddion yn hytrach nag ar sail proses annibynnol gan yr awdurdodau Olympaidd o leoli, asesu, costio ac achredu safleoedd posibl.
Mae Guto'n ei chael yn amhosibl credu y gallai rhagfarnau fod yn rhan o wead sefydliadau Llundeinig, ond mae'n ei chael yn hawdd iawn credu y gallai sefydliadau Cymreig fod yn strwythurol ddiog a di gic. Mae'r holl hanes yn swnio yn hynod debyg i stori oedd ar un adeg yn ddigon cyfarwydd mae gen i ofn - hogyn bach o Gymru yn mynd i'r ddinas a chael tipyn o lwyddiant yno, yn dotio at y lle ac dod i ymgoleddu pob dim sy'n ymwneud a hi - hyd yn oed rhagfarnau gwrth Gymreig rhai o'i thrigolion..