I Leanne y bydd fy mhleidlais gyntaf yn mynd, bydd yr ail yn mynd i Elin a'r drydydd i Dafydd. 'Dwi'n gobeithio y bydd y sawl yn eich plith sydd efo'r hawl i bleidleisio yn gwneud yr un peth.
Cyn egluro pam, hoffwn roi ambell i fater yn ei wely. Mae'r tri ymgeisydd gyda'u cryfderau, a byddai pob un o'r tri yn arwain y Blaid yn y Cynulliad i safon sydd o leiaf cystal a'r hyn a geir gan arweinwyr y pleidiau unoliaethol. Mae'n fater o ofid i mi bod rhai pleidwyr wedi awgrymu i'r gwrthwyneb, a bod peth drwgdeimlad personol wedi ymddangos ymhlith rhai o gefnogwyr yr ymgeiswyr. Mi fydd rhaid i ni i gyd dynnu efo'n gilydd o dan un arweinydd ar ol Mawrth 15 - cystal i ni gofio hynny rwan.
O ran yr hystings - neu rhai Caernarfon o leiaf - perfformiodd y tri yn dda. Petai rhaid i mi wahaniaethu byddwn yn dweud bod gwell gafael gan Elin a Dafydd ar fanylion wrth ateb y cwestiynau, ond bod araith Leanne yn well i'r graddau ei bod yn fwy teimladwy, a bod ymdeimlad mwy angerddol iddi oherwydd hynny.
Am resymau sy'n ymwneud a lleoliad gwleidyddol y Blaid a'r cyfeiriad mae'n rhaid iddi symud 'dwi wedi gwneud fy newis.
Fydd o ddim o syndod i ddarllenwyr rheolaidd y blog hwn mai Dafydd fydd yn cael y drydydd bleidlais gen i. 'Does gen i ddim oll yn erbyn Dafydd yn bersonol - a dweud y gwir 'dwi'n ddigon hoff ohono, ond mae gen i ofn ei fod yn cynrychioli rhai o'r elfennau hynny sydd bellach yn dal y Blaid yn ol. Yn y gorffennol pan mai datganoli oedd nod tymor byr y Blaid, roedd dyn yn gallu gweld pam roedd yn dderbyniol i fod ychydig yn amwys ynglyn ag annibyniaeth a gwerthoedd creiddiol cenedlaetholdeb. Annibyniaeth oedd y bwgan mawr a ddefnyddid gan wrth ddatganolwyr i golbio datganoli. Mae'r tirwedd gwleidyddol yng Nghymru bellach wedi ei drawsnewid, mae'r pleidiau unoliaethol bellach yn ddatganolwyr, ac mae nhw i gyd wedi mynd yn fwy cenedlaetholgar. 'Dydi'r Blaid ddim wedi addasu yn yr un ffordd, ac o ganlyniad mae wedi colli llawer o'i heglurder ac mae ei phroffeil wedi cymylu a phylu.
Yr unig ffordd y gall y Blaid symud bellach ydi tuag at genedlaetholdeb cliriach, di amwys a di ymddiheuriad. Yn anffodus mae Dafydd yn cynrychioli'r genedlaetholdeb nuenced oedd efo'i defnydd yn y gorffennol, ond sydd bellach yn llesteirio'r Blaid. Nid mater o oed ydi'r peth o gwbl - mater o ymagweddau gwaelodol. Fel 'dwi'n 'sgwennu'r darn yma mae gan Dafydd eirda gan Gwilym Owen ar ei wefan yn ei ganmol am ei wrthwynebiad i annibyniaeth - ac hynny er ei fod bellach yn portreadu ei hun fel cefnogwr brwd i'r cysyniad hwnnw. Byddai geirda o'r fath yn codi cyfog ar wir genedlaetholwr.
Mae gwleidyddiaeth sylfaenol Elin fwy neu lai ymhle y dylai fod o safbwynt lleoli'r Blaid yn briodol. Problem Elin yn anffodus ydi ei delwedd gyhoeddus. Mae yna ganfyddiad - rhagfarn hyd yn oed - tros lawer o Gymru mai rhywbeth egsotig, gorllewinol sy'n rhywbeth i'w wneud efo ffarmio a sydd ar gyfer Cymry Cymraeg ydi'r Blaid. Mae'n ddelwedd sobor o anheg, ond mae'n un sy'n anodd iawn i'w symud. Gwaetha'r modd mae Elin yn ymgorfforiad o'r ddelwedd yma. Mae'n ddigon posibl y gallai newid hynny, ond mae'r ffaith iddi fynegi gobaith y bydd Simon Thomas - gwleidydd arall sy'n cael ei gysylltu efo Ceredigion ym meddyliau'r rhan fwyaf ohonom - yn ddirprwy, yn awgrymu nad ydi hi hyd yn oed yn gweld bod yna broblem. Mi fyddai Elin yn ein gosod ar y man cywir ar y tirwedd gwleidyddol, ond byddai yn minimeiddio'r nifer o bobl fyddai eisiau dod efo ni i'r fan honno.
A daw hyn a ni at Leanne. 'Dwi'n derbyn y byddai yna risg o'i dewis - mae ganddi lai o brofiad o lawer na'r ddau arall. Ond i mi mae'r risg yn llawer is na fyddai dewis arweinydd sydd am ein clymu i amwysterau a chyfaddawdu syniadaethol y gorffennol, neu ddewis un sydd ddim am apelio at drwch poblogaeth y wlad. Mae Leanne yn genedlaetholwraig di gyfaddawd, ac mae llawer o'r brwdfrydedd (a'r aelodau newydd) sydd wedi ymddangos yn ddiweddar i gymryd lle'r iselder a ddilynodd etholiadau'r Cynulliad, yn ganlyniad i ymgeisyddiaeth Leanne.
Canlyniad ydi'r brwdfrydedd hwnnw i ganfyddiad - ymwybodol neu is ymwybodol - bod yr amser wedi dod i'r Blaid dorri'n glir oddi wrth y gorffennol agos ac agor pennod cwbl newydd. Mae'r ffaith bod Leanne yn berson sy'n gallu ysbrydoli a sydd yn debygol o apelio at amrediad eang o bobl yng Nghymru yn rhoi cyfle arbennig i agor y bennod honno gyda phob gobaith y byddwn yn cyrraedd ei diwedd - fel plaid a gwlad - mewn lle llawer gwell nag yr ydym ynddo ar hyn o bryd.
Dyna pam y byddaf i yn rhoi fy mhleidlais gyntaf i Leanne - a dyna pam rwyf yn mawr obeithio y gwnewch chithau hefyd.
Ymlaen!