Showing posts with label Chris Hughes. Show all posts
Showing posts with label Chris Hughes. Show all posts

Tuesday, February 28, 2012

Datganiad i'r wasg ynglyn a'r Cynghorydd Chris Hughes

Datganiad i’r Wasg / Press Release (Gan Blaid Cymru)



28 Chwefror 2012

Cynghorydd yn ymuno â Phlaid Cymru


Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi croesawu aelod newydd i’w plith sef y Cynghorydd Chris Hughes, yr aelod sy’n cynrychioli Bontnewydd ger Caernarfon.


Etholwyd y Cynghorydd Hughes fel Cynghorydd Llais Gwynedd yn yr etholiad diwethaf ond bydd nawr yn ymuno â Phlaid Cymru. Bydd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid ar gyfer Bontnewydd yn etholiadau lleol Cyngor Gwynedd ar Fai’r 3ydd.  

"Mae fy nheulu a minnau wastad wedi bod yn gefnogwyr brwd i’r Blaid yn genedlaethol,” esboniodd y Cynghorydd Hughes. ''Roedd amgylchiadau penodol yn yr etholiad diwethaf – sef y sefyllfa o ran ad-drefnu ysgolion cynradd - lle roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig i wneud safiad. Mae'r amgylchiadau bellach wedi newid.


“Gyda phrofiad o bedair blynedd ar Gyngor Gwynedd, a chyda phenderfyniadau ariannol anodd wedi eu gwneud a mwy i ddod, dwi’n credu’n gryf y bydd fy agwedd bwyllog a’m gonestrwydd tuag at wleidyddiaeth leol, yn fodd i mi wrth gynorthwyo i lywio Plaid Cymru, ein prif blaid genedlaethol, yn ei blaen er lles pobl Gwynedd.”


Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes: ''Rydym mewn cyfnod heriol, cyfnod sy’n galw am arweinyddiaeth a gweledigaeth gan fod yn uchelgeisiol er mwyn cyflawni ar ran pobl Gwynedd. Dwi’n hapus y gallaf wneud y cyfraniad hwn orau gyda Phlaid Cymru yng Ngwynedd."

Wrth groesawu Chris Hughes i Grŵp y Blaid, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd Y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Rwyf wedi cydnabod droeon bod Chris yn gynghorydd aeddfed a meddylgar sydd wedi rhoi o’i orau dros bobl Bontnewydd dros y bedair blynedd ddiwethaf. Gwn ei fod wedi ystyried yn ddwys cyn troi i fod yn aelod o Blaid Cymru ac rwy’n parchu'r ffordd y mae wedi gwneud y penderfyniad hwn. Gwn y bydd yn gwneud cyfraniad rhagorol i grŵp Plaid ar Gyngor Gwynedd ac y bydd yn cydweithio fel rhan o Dîm Gwynedd. Mae Tîm Gwynedd Plaid Cymru yn uchelgeisiol ac yn flaengar, a’n prif flaenoriaeth yw cynrychioli ein trigolion hyd eithaf ein gallu o fewn y sir arbennig hon."


Dywedodd Cadeirydd Cangen Plaid Cymru Bontnewydd Dafydd Iwan: "Rwy’n hynod o falch o weld Chris yn ymuno â Phlaid Cymru. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd yn Bontnewydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hi wedi dod yn amlwg, serch digwyddiadau 2008, ein bod wedi gweithio’n llwyddiannus law yn llaw wrth ymwneud â materion Cyngor Cymuned a chreu gŵyl 'Hwyl y Bont’."


Yn ôl Cynghorydd Cymuned Iwan: "Mae wedi cael cefnogaeth aelodau Plaid Cymru yn Bontnewydd ac rydym yn edrych ymlaen at ymgyrchu gydag ef yn yr etholiad lleol.”


- diwedd –