Tri prif opsiwn sydd yna mewn gwirionedd:
(1). "Brexit caled". Golyga hyn y bydd y DU yn gadael y UE heb gytundeb ac yn gwrthod cwrdd a'i hymrwymiadau ariannol. Yn amlwg fyddai yna ddim cytundeb masnachol efo'r UE, byddai statws dinasyddion y DU yn Ewrop mewn lle anodd iawn, byddai pob math o broblemau cyfreithiol yn codi gan bod llawer iawn o'r hyn mae'r DU yn ei wneud yn rhyngwladol yn digwydd oherwydd cytundebau sydd wedi eu harwyddo gan yr UE ac nid y DU. Er enghraifft mae hawliau i awyrennau'r DU lanio mewn meysydd awyr ar hyd a lled y Byd wedi eu cytuno yng nghyd destun Ewrop. Ni fyddai yna gytundeb masnach efo'r UE yn y dyfodol agos na chanolig, byddai'n rhaid sefydlu adran newydd enfawr yn y llywodraeth i negydu dwsinau o gytundebau masnach, ond byddai amheuaeth ynglyn a chyfreithlondeb y cytundebau hynny. Byddai Dinas (ariannol) Llundain yn colli ei hawliau pasbortio efo Ewrop. Byddai hyn oll yn cael ei setlo yn y Llys Rhyngwladol tros gyfnod o flynyddoedd. Dyma'r llwybr mae UKIP ac Adain Dde'r Blaid Doriaidd eisiau ei ddilyn.
(2). "Brexit meddal" Golyga hyn bod y DU yn gadael yr UE trwy gytundeb ac yn cwrdd a'i hymrwymiadau cytundebol o ran pensiynau ac ati, ac yn cytuno ar drefniadau ar gyfer dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE. Byddai hyn i bob pwrpas yn golygu bod pobl yn cael symud yn rhydd rhwng yr UE a'r DU. Byddai cytundeb masnachol newydd rhwng yr UE a'r DU yn cael ei sefydlu tros amser, a byddai'n rhaid negydu dwsinau o gytundebau newydd - rhai masnachol, a phob math o rai eraill - ond ni fyddai yna frys gwyllt i wneud hynny - mae'n debyg y gellid masnachu o dan delerau tebyg i Norwy hyd bod cytundebau newydd yn cael ei negydu. Ni fyddai'n rhaid gweithredu cyfraith y DU oni bai am gyfreithiau masnachol. Byddai'n rhaid negydu cytundebau ynglyn ag amaethyddiaeth a physgota o'r cychwyn - dydi CAP (polisi amaeth yr UE) ond yn berthnasol i wledydd y tu mewn i'r Undeb. Gellid felly - o gael cytundeb - fewnforio cynnyrch rhad o ansawdd uchel o Awstralia, Seland Newydd a De America. Byddai hyn yn gyrru prisiau bwyd i lawr, ond byddai hefyd yn hynod niweidiol i'r sector amaeth.
(3). "Brexit y tylwyth teg". Golyga hyn bod y DU yn gadael yr UE gyda'u cytundeb, ddim yn talu fawr ddim i'r DU ond yn derbyn holl fanteision aelodaeth. Byddai dinasyddion y DU efo'r hawl i fynd a dod o'r UE fel y dymunant - ond byddai'n rhaid i ddinasyddion yr UE wneud cais am fisa cyn cael dod i'r DU. Byddai dinasyddion y DU yn cadw eu hawliau i wasanaeth iechyd yn Ewrop, ond byddai dinasyddion yr UE yn colli eu hawliau i wasanaeth iechyd yn y DU. Yn y sefyllfa hon, byddai'r DU yn parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl - ond byddai'n rhydd i drafod ei chytundebau masnach ei hun gyda blociau masnachu eraill yn ol ei dymuniad. Dyma'r opsiwn mae llywodraeth y DU a rhai o'r papurau yn dweud wrthym sy'n ein haros. Pob lwc efo honna.
1 comment:
Gadael yr Undeb Ewropeaidd: does dim byd pendant amdano. Fe fu 'uffarendwm' [©Gwilym Owen] a chanlyniad hwnnw oedd dewis gadael yr Undeb Ewropaidd, ond does dim pwynt trafod pa fath o Brexit sydd yn bosib - does dim ond un - mae gadael yr UE yn golygu gadael y farchnad sengl a gadael yr undeb dollau tramor. Syml. Fe ddwedodd Donald Tusk yn ddigon clir - does dim ond 'Brexit caled neu ddim Brexit'. Mae unhryw drefniant arall - sydd yn debygol o fod yn dderbynniol i'r 27 - yn gyfystyr, i bob pwrpas, a pharhau i fod yn aelod ond heb lais, felly ddim yn ddewis o gwbl.
Mae llywodraethau ymerodraethol San Steffan yn arfer datrys eu problemau drwy gynnig hanner torth a rhannu'i gwrthwynebwyr, ond dwi'n meddwl fod hyn ymhell tu hwnt i'w gallu nhw, hyd yn oed, i greu'r 'fudge' traddodiadol.
Ein swyddogaeth ni, felly, yn hytrach na sôn am 'setliad derbynniol', 'trefniadau masnach ffafriol', ayb. ayb. ydi datgan na ddylid gadael yr UE, er ein lles ein hunain a dyfodol ein plant, a bod hynny yn trechu proses refferendwm ddiffygiol - a dyrnu ar y neges yn ddibaid. Mae'n neges syml, a hawdd i'w throsglwyddo.
Yr unig ffordd i ailysbrydoli'r sawl sydd wedi diflasu ar wleidyddiaeth yw bod yn glir ac uniongyrchol a gonest a chyson.
Post a Comment