Sunday, December 04, 2016

Cymru wedi Brexit - ambell i bosibilrwydd

Un o 'r pethau fydd yn digwydd bron yn ddi eithriad pan mae newid mawr - fel y newid fydd yn digwydd pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropiaidd - ydi bod cyfres o sefyllfaoedd anisgwyl yn datblygu.  A chyfieithu term Saesneg, rydym yn son am Gyfraith Deilliannau Anragweladwy.  

Dydi hi ddim yn bosibl gweld yn union beth fydd y deilliannau hynny wrth gwrs nes bod pethau'n datblygu - ond wele dri phosibilrwydd sy'n ymddangos yn bosibl o'r hyn rydym yn ei wybod ar hyn o bryd. 

1). Ton o fewnfudo i Gymru gan Saeson mewn oed.  Ar hyn o bryd mae'r miliynau o Brydeinwyr sydd wedi ymddeol ac yn byw ar y cyfandir yn derbyn gofal iechyd o dan drefniadau'r UE.  Dydi hi ddim yn afresymol i gymryd y bydd y trefniadau hynny'n dod i ben wedi i'r DU adael yr UE.  Dydi hi ddim yn glir beth fydd digwydd wedyn.  Efallai y bydd y wladwriaeth Brydeinig yn talu am y gofal, ac efallai na fyddan nhw.  Os na fydd y wladwriaeth yn talu a gadael pobl i ddibynu ar eu cynilion os ydyn nhw yn sal, neu dalu yswiriant iechyd rhag iddyn nhw fynd yn sal, bydd yna fewnlifiad o fath anghyfarwydd i'r DU - dinasyddion yn dod yn ol adref.  Dydi arfordir Llyn a Cheredigion ddim mor braf a'r Costa del Sol, ond mae'n fwy tebyg i'r fan honno na Saltney neu Scunthorp.  

2). Cymru'n cael ei gadael ar ol eto - a'r llefydd tlotaf yn dioddef fwy na neb arall.  Mae'n amlwg bellach y bydd y DU yn ceisio negydu telerau ffafriol i'r sectorau o'r economi mae'n eu hystyried yn hanfodol - hy dewis 'enillwyr'.  Gan bod sicrhau cytundebau sectoraidd yn debygol o fod yn ddrud, bydd rhaid dewis 'collwyr ' hefyd.  Bydd y diwydiant ceir, y diwydiant cynhyrchu cyffuriau meddygol a gwasanaethau ariannol er enghraifft yn cael eu harbed.  Mae'n anodd gweld beth sydd yna yng Nghymru fyddai'n werth talu 'n ddrud i'w arbed o safbwynt y llywodraeth.

3). Y gwahaniaeth rhwng y trefniadau ar gyfer Cymru ar y naill llaw a Gogledd Iwerddon a'r Alban ar y llall yn cynyddu.  Bydd rhaid osgoi ffin 'galed' yn Iwerddon.  Mae hanes yn dangos nad ydi hi'n bosibl plismona'r ffin arbennig honno hyd yn oed pan y ceisir gwneud hynny efo miloedd o filwyr, dwsinau o hofrenyddion rhyfel a rhwydwaith enfawr o dyrau craffu.  Byddai ffin galed yn baradwys i smyglwyr - ac mae smyglo wedi ei datblygu i fod yn gelf gain ar hyd arfordir Gogledd Iwerddon yn y gorffennol. Mae'n ddigon posibl y bydd rhaid cymryd camau i atal yr Alban rhag torri ei chwys ei hun hefyd - gallai hynny fod ar ffurf trefniadau ariannu amgen neu ganiatau iddi ddatblygu ei pherthynas ei hun efo Ewrop.  Does yna ddim pwysau i wneud unrhyw beth tebyg yng Nghymru. 

5 comments:

Joniesta said...

Dwi'n rhannu yr un weledigaeth uffern a thi Cai. Os na fedrwn ni ddefro rwan i fynu annibyniaeth does dim gobaith byth. Mae'r blaid mewn lle anodd ar y funud gyda naratif gwleidyddol y dde yn cael sylw gan y cyfryngau a'u syniadau "populist" yn hawdd i'w deall a'i ddilyn gan y person cyffredin. Dwi wedi gofyn ers tro fod angen naratif symlach i werthu annibyniaeth, h.y sut y byddai Cymru yn elwa yn economaidd, addysgol , diwyllianol,ein cysylltiadau rhyngwladol etc. Teimlo weithiaau ein bodyn colli cyfleoedd e.e gyda datganoli rhai pwerau tros ddwr yn ddiweddar doedd dim son am drethu y dwr hynny gan y blaid. Dwi'n methu dallt pam.

Anonymous said...

Y darogan gwae yn gynyddol groes i ddiffyg brwdfrydedd y blog hwn dros aros yn yr UE nol yn Mehefin. Does dim yn y dadansoddiad uchod nad oedd yn bosibilrwydd nol yn Mehefin.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl dy fod yn datblygu dipyn o obsesiwn yn ceisio beio Brexit ar flog bach Cymraeg di nod.

Fel mater o ddiddordeb beth yn union oedd dy gyfraniad di i'r Ymgyrch Aros?

Marconatrix said...

Dweud i fi, rhywun, OGYDd, sut mae Cymru, yn ôl i ddatganoli, wedi datblygu mor wahanol i´r Alban? Diffig uchelgais neu arweiniaeth? Amrwymiad i Lafur? Hollt rhwng y Cymry Cymraeg â´r rhai digymraeg? Neu peth???

Cai Larsen said...

Mi wna i flogiad ar y pwnc rhyw ben.