tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post5252895095219237980..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Brexit wedi ei wneud yn symlCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger1125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-47835018742048987652017-01-03T10:34:58.830+00:002017-01-03T10:34:58.830+00:00Gadael yr Undeb Ewropeaidd: does dim byd pendant a...Gadael yr Undeb Ewropeaidd: does dim byd pendant amdano. Fe fu 'uffarendwm' [©Gwilym Owen] a chanlyniad hwnnw oedd dewis gadael yr Undeb Ewropaidd, ond does dim pwynt trafod pa fath o Brexit sydd yn bosib - does dim ond un - mae gadael yr UE yn golygu gadael y farchnad sengl a gadael yr undeb dollau tramor. Syml. Fe ddwedodd Donald Tusk yn ddigon clir - does dim ond 'Brexit caled neu ddim Brexit'. Mae unhryw drefniant arall - sydd yn debygol o fod yn dderbynniol i'r 27 - yn gyfystyr, i bob pwrpas, a pharhau i fod yn aelod ond heb lais, felly ddim yn ddewis o gwbl.

Mae llywodraethau ymerodraethol San Steffan yn arfer datrys eu problemau drwy gynnig hanner torth a rhannu'i gwrthwynebwyr, ond dwi'n meddwl fod hyn ymhell tu hwnt i'w gallu nhw, hyd yn oed, i greu'r 'fudge' traddodiadol.

Ein swyddogaeth ni, felly, yn hytrach na sôn am 'setliad derbynniol', 'trefniadau masnach ffafriol', ayb. ayb. ydi datgan na ddylid gadael yr UE, er ein lles ein hunain a dyfodol ein plant, a bod hynny yn trechu proses refferendwm ddiffygiol - a dyrnu ar y neges yn ddibaid. Mae'n neges syml, a hawdd i'w throsglwyddo.

Yr unig ffordd i ailysbrydoli'r sawl sydd wedi diflasu ar wleidyddiaeth yw bod yn glir ac uniongyrchol a gonest a chyson.Huw Meredyddnoreply@blogger.com