Saturday, December 10, 2016

Ceredigion - Thanet South Cymru?

Dydw i ddim yn gwybod os ydi'r honiadau bod y Toriaid wedi gor wario yn South Thanet yn Etholiad Cyffredinol 2015 mewn ymgais i sicrhau nad oedd Nigel Farage yn cael ei ethol yn wir, ond yr honiad ydi bod £200k wedi ei wario a bod y gwariant hwnnw wedi ei guddio yn y cyfrifon.  Os ydi hyn yn wir wedi digwydd rydym yn son am dor cyfraith eithaf difrifol.

Mae gan Gymru ei South Thanet ei hun, lle mae yna wariant enfawr wedi digwydd mewn un etholaeth am ddegawd a mwy - gwariant sydd o bosibl yn gyfreithlon  - ond os yw mae'n cymryd mantais o fwlch nad oedd neb wedi ei ragweld yn y gyfraith gwariant etholiadol.  Rydym wrth gwrs yn son am Geredigion.  

Mae'r stori rydym am edrych arni  yn mynd yn ol mewn gwirionedd i Etholiad Cyffredinol 1983.  Yn yr etholiad honno llwyddodd y gynghrair newydd SDP / Rhyddfrydwyr - mam a thad y Dib Lems presenol - i ennill chwarter y bleidlais, bron cymaint a Llafur Michael Foot, ond ennill 23 o seddi yn unig o gymharu a 209 Llafur.  Yr hyn oedd yn gyfrifol am yr anhegwch yma o ran canlyniad yr etholiad oedd bod cefnogaeth y gynghrair wedi ei rannu'n rhy gyfartal ar draws y DU.  Dydi'n system etholiadol ni ddim yn garedig i bleidiau sydd a'u cefnogaeth wedi ei ddosbarthu yn y ffordd yma.  Dyna pam cafodd UKIP un sedd y llynedd am bron i 4m o bleidleisiau, tra cafodd yr SDLP dair sedd am 99,000 o bleidleisiau.

Dysgodd y blaid a ddatblygodd o'r gynghrair - y Dib Lems yn weddol gyflym o'r profiad, a daethant yn dipyn o arbenigwyr ar ganolbwyntio ar seddi penodol, a mabysiadwyd nifer o dechnegau i hyrwyddo hyn - rhai yn fwy di egwyddol na 'i gilydd. 

Tros yr etholiadau dilynol syrthiodd eu canran o'r bleidlais tros y DU, ond tyfodd eu niferoedd o etholiadau seneddol.  Roedd y llwyddiant yma wedi ei seilio ar ddewis ymgeiswyr cryf, gwario llwyth o bres, adeiladu presenoldeb ar gynghorau lleol, ac ymladd yr etholiadau i raddau fel cyfres o etholiadau lleol gan ddatblygu naratifau penodol ar gyfer etholaethau unigol.

Problem y Dib Lems yng Ngheredigion - fel mewn aml i sedd darged arall, yn arbennig rhai gwledig iawn - ydi nad oes ganddynt y milwyr troed i fynd a'r mynyddoedd o ohebiaeth etholiadol maent yn ei ddosbarthu o ddrws i ddrws yn y  seddi maent yn canolbwyntio arnynt.  Mae ailadrodd naratif benodol, leol drosodd a throsodd a throsodd yn rhan o'u strategaeth graidd.  Felly mae'n rhaid defnyddio'r Post Brenhinol.  Mae gwneud hynny tros etholaeth gyfan yn uffernol o ddrud - ac yn bwysicach mae'n llawer rhy ddrud i'w wneud yn gyfreithlon oddi mewn i'r cyfyngiadau gwario etholaethol.

Ond mae datrysiad i'r broblem yma - gwneud defnydd o ohebiaeth sy'n cael ei dalu amdano gan y blaid yn 'genedlaethol'.  Mae'r hyn y gellir ei wario yn llawer uwch - ac mae'r gwariant yn cael ei gofnodi ar y cyfrifon 'cenedlaethol' yn hytrach na'r rhai lleol.  Mae pob plaid yn gwneud hyn wrth gwrs - ond fel rheol er mwyn hyrwyddo naratif cenedlaethol.  Yr hyn mae'r Dib Lems yn ei wneud ydi defnyddio gohebiaeth 'cenedlaethol' i hyrwyddo ymgyrchoedd lleol.  Dydi hyn ddim mor anodd a mae'n swnio.  

Fel rheol mae'n bosibl gosod etholaethau  tebyg i'w gilydd mewn grwpiau penodol.  Er enghraifft trefi prifysgol lle mae'r Dib Lems yn cystadlu efo Llafur, etholaethau gwledig anferth yn Ucheldiroedd yr Alban lle mae'r gystadleuaeth efo'r SNP neu'r etholaethau yn Ne Orllewin Lloegr lle mae'r gystadleuaeth efo'r Toriaid.  Gellir paratoi stwff gwahaniaethol i grwpiau o etholaethau.  Cyn belled a bod enw'r etholaeth a'r ymgeiswyr yn cael eu cadw oddi ar yr ohebiaeth gellir paratoi deunydd 'cenedlaethol' sy'n cefnogi naratif etholiadol Inverness & Nairn, Sheffield Hallam neu Redruth - mae gwahanol negeseuon 'cenedlaethol' yn cael eu dosbarthu mewn gwahanol grwpiau o etholaethau.  Mae hyn yn digwydd yng Ngheredigion - ond y gwahaniaeth efo Ceredigion ydi'r ffaith ei bod yn perthyn i grwp o 1 - sedd wledig sy'n ymylol rhwng Plaid Cymru a'r Dib Lems.  Mwy am hynny yn y man.

Mi wnawn ni gael golwg ar ddeunydd etholiadol y Dib Lems mewn tair etholiad - San Steffan 2010 a 2015 a Cynulliad 2016.  Mae'r dair dudalen isod wedi eu cymryd o bapur 8 tudalen a ddosbarthwyd trwy'r post yn ystod ymgyrch San Steffan 2015. 







Mae cost cynhyrchu a dosbarthu papur 8 tudalen trwy'r  Post Brenhinol yn sylweddol.  Mae'n debyg y byddai'r gost o gwmpas £5,000 yng Ngheredigion  - £1,300 i 'r cwmni argraffu a £3,700 i Postman Pat, ei ffrindiau a'i gyfranddalwyr. Tua £12,000 ydi'r uchafswm y ceiir ei wario ar lefel etholaethol yn ystod mis diwethaf etholiad a £35,000 tros gyfnod o dri mis yn arwain at etholiad.

Rwan o edrych ar y papur un peth anarferol sy'n dod i'r amlwg ydi mai ar dudalen 1 a thudalen 1 yn unig mae enw Mark Williams ac etholaeth Ceredigion yn ymddangos.  Mae'r gweddill yn stwff cyffredinol - neu a bod yn gywirach, ymddangosiadol gyffredinol.  Os nad oes son am etholaeth benodol gellir rhoi'r costau yn erbyn gwariant cenedlaethol lle mae'r uchafswm gwariant yn anferth yn hytrach nag yn erbyn gwariant etholaethol lle mae'r uchafswm gwariant yn gymharol isel.

Felly i wneud i bethau weithio yng Ngheredigion mae'n rhaid i'r Dib Lems gyflwyno eu naratifau etholaethol gan gymryd arnynt eu bod yn naratifau cenedlaethol neu ranbarthol.  Byddai rhywun wedi meddwl y byddai gwneud hyn yn hynod anodd gan bod Ceredigion yn etholaeth unigryw.  Dyma'r unig etholaeth yng Nghymru lle mae'n ras rhwng Plaid Cymru a'r Dib Lems.  Ar wahan i Geredigion mae'n rheol etholiadol di feth bod y Dib Lems yn hynod wan lle mae Plaid Cymru yn gryf.

Ond dydi'r Dib Lems ddim yn gadael i bethau fel geirwiredd gyfyngu ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.  Sylwer ar y graff yn yr ail dudalen er enghraifft - mae'r Dib Lems yn hoff iawn o graffiau.  'Doedd y graff ddim yn cynrychioli'r darlun etholiadol ar gyfer unrhyw etholaeth na rhanbarth ar lefel San Steffan na hyd yn oed Cynulliad.  Mae'r ffigyrau yn gwbl ddychmygol.  Yn waeth na hynny maent yn berthnasol i strategaeth y Dib Lems yng Ngheredigion, ond ddim yn unrhyw le arall.  Dyna pam mai yng Ngheredigion, ac yng Ngheredigion yn unig ymddangosodd y graff - er bod y costau cynhyrchu a dosbarthu yn cael eu cwrdd yn 'genedlaethol'.  

Yn yr un modd mae ieithwedd yr holl bapur yn ffitio i naratif y Dib Lems yng Ngheredigion, ac yng Ngheredigion yn unig - ymosod ar Blaid Cymru, a Phlaid Cymru yn unig, vox pop o bobl o Geredigion, son am 'ymgyrchwyr lleol', 'canolbarth Cymru' ac ati.  

A felly dyna ni - dyfais bach eithaf syml o son yn benodol am Geredigion a Mark Williams mewn un tudalen yn unig, ond cyflwyno naratif sydd ond yn berthnasol i Geredigion a Cheredigion yn unig.  Mae hyn yn caniatau i'r Dib Lems roi chwarter y gwariant tuag at y cyfanswm etholaethol, a thri chwarter y gwariant tuag at y cyfanswm 'cenedlaethol'.

Neu ystyrier y canlynol - post uniongyrchol mewn amlen yn Etholiad Cyffredinol 2010:






Mae'n weddol gyffredin i bleidiau rannu costau rhwng ymgyrchoedd trwy roi mwy nag un pamffled mewn amlen.  Er enghraifft mewn sawl etholaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru eleni anfonwyd un taflen Cynulliad ac un taflen Dafydd  Llywelyn (etholiad Comiwsiynydd yr Heddlu) efo'i gilydd yn yr un amlen. Felly roedd arian yn cael ei arbed, ac roedd y costau'n cael eu rhannu'n ddau ac yn ymddangos o dan dau bennawd yn y cyfrifon.  Mae pob plaid yn gwneud hyn, a does yna ddim problem efo'r arfer.

Ond mae'r Dim Lems yng Ngheredigion yn mynd gam ymhellach. Maent yn cynhyrchu  llenyddiaeth sy'n amlwg yn lleol o ran naratif ond yn geirio mewn modd sy'n osgoi costau etholaethol, ac yn cymysgu'r stwff efo deunydd sydd yn cyfeirio'n benodol at yr etholaeth.  Gwariwyd yn anhygoel yn gwneud hyn yn 2010. 

Mae'n bosibl mai  gwariant y Dib Lems yng Ngheredigion yn 2010 oedd y gwariant uchaf erioed mewn unrhyw etholaeth ar y pryd, record na gurwyd nes i'r Toriaid (yn honedig) wario £200k yn South Thanet y llynedd.  

Mwyafrif o 219 yn unig roedd y Dib Lems yn ei amddiffyn bryd hynny, ac mi amddiffynwyd y sedd trwy wario'n lloerig a chofnodi'r gwariant trwy ddulliau - ahem - hyblyg a chreadigol.  Roedd gwariant mawr ar seddi targed ar hyd a lled y DU gan y blaid yn 2010, ond roedd y gwariant yn uwch yng Ngheredigion nag oedd mewn seddi targed eraill  oherwydd y cymhlethdod o orfod cynhyrchu deunydd dwyieithog, ac oherwydd bod y stwff 'cenedlaethol' yn unigryw i Geredigion oherwydd bod ei phroffeil etholiadol yn unigryw. Doedd yna ddim economy of scale sy'n dod o gynhyrchu cannoedd o filoedd o bamffledi ar gyfer grwp o etholaethau.  Cafodd miloedd lawer o bobl tua 5-6 amlen tros gyfnod o 3 mis. Byddai hyn wedi costio £40-50k, ar bostio uniongyrchol yn unig.

Mae'r daflen a'r llythyr wedi eu teilwra i naratif etholiadol y Dib Lems yng Ngheredigion a - fel sonwyd eisoes - Ceredigion yn unig.  Mae amodau etholiadol Ceredigion yn gwbl unigryw.  Ceir son am 'sawl ardal' - ond yn un ardal yn unig mae'r neges yn berthnasol, ac mewn un ardal yn unig y cafodd y stwff ei ddosbarthu.  Afraid dweud nad oedd rhaid cofnodi'r stwff yma fel gwariant etholaethol?

Dydi pethau ddim gwahanol mewn etholiadau Cynulliad.

Defnyddwyd y Post Brenhinol ddwywaith i ohebu efo holl etholwyr yr etholaeth ym mhethefnos olaf yr ymgyrch eleni. Byddai'r gost yn debygol o fod yn £10k i £12k - tua'r uchafswm gwariant ynddo'i hun.  Felly unwaith eto roedd rhaid dod o hyd i ffordd o guddio'r costau yn y cyfrifon cenedlaethol.  Mae'r delweddau isod o un o'r papurau newydd a anfonwyd at bawb.:






Dim ond 1 tudalen o'r 4  sy'n son am yr ymgeisydd - a hynny am resymau rydym bellach yn gyfarwydd a nhw.

Mae tudalen 1 yn llawn canmoliaeth i'r Lib Dems gan bobl o Aberteifi, Llanrhystud ac ati (gwragedd cynghorwyr LD yn bennaf) ond does dim son am yr ymgeisydd. Tybed os wnaeth rhywun anghofio bod Ceredigion yn nheitl y papur?   Mae dwy dudalen arall yn ymosod ar y Blaid mewn modd digon negyddol ac anonest. Ond sonnir am Kirsty Williams ac am 'ardal fel hon' ac ati yn hytrach na'r ymgeisydd a'r etholaeth.

Un o sgil effeithiau'r bwlch yma yn y rheolau costau etholiadol ydi creu mwy o wleidydda negyddol.  Os nad ydych yn son am eich hymgeisydd eich hun y demtasiwn ydi i ymosod ar y blaid sy'n cystadlu yn eich herbyn. 

A dyna chi, Thanet South Cymru - gwariant enfawr ar un etholaeth, a'r gwariant hwnnw wedi ei guddio yn y cyfrifon 'cenedlaethol '. Cyfreithlon? - digon posibl.  Unol a bwriad y gyfraith!  Yn sicr ddim.












1 comment:

Anonymous said...


Diddorol dros ben.