Hanner edrych ymlaen ydw i oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn 2016 - roedd bron i pob dim gafodd ei ddarogan gan bron i bawb yn anghywir. Felly y cyfan ddyweda i ydi bod y canlynol yn bosibl - neu'n fwy na phosibl.
1). Degawdau o leihau yn amlder arfau niwclear yn dod i ben. Ymddengys bod Rwsia yn awyddus i ddiweddaru ei harfau ac ymddengys bod Trump eisiau gwneud yr un peth yn yr UDA. Mae Prydain eisoes wedi dweud y bydd Trident yn cael ei ddiweddaru. Bydd bwriad yr UDA i adael i wledydd cyfeillgar edrych ar ol eu hunain yn filitaraidd yn rhoi pwysau ar Dde Corea a Japan i gael arfau niwclear eu hunain i ymateb i fygythiad Gogledd Corea. Yn ol pob tebyg bydd cytundeb yr UDA efo Iran i atal eu rhaglen niwclear nhw yn dod i ben a bydd hynny'n arwain at bwysau ar Saudi Arabia i gael arfau niwclear ei hun - mae'n debyg o Bacistan. Bydd yr UDA yn llai cyfeillgar efo Ewrop ac yn fwy felly efo Rwsia. Bydd hyn yn cynyddu'r pwysau am fwy o arfau niwclear yn Ewrop yn arbennig felly gydag ymadawiad y DU - Ffrainc yn unig fydd a'i harfau niwclear ei hun.
2). Llafur yn colli seddi yn yr etholiadau lleol yng Nghymru. Yn hanesyddol mae Llafur yn gwneud yn dda mewn etholiadau lleol pan maent yn polio'n dda ar lefel 'cenedlaethol'. Yn ol yn 2012 roeddynt yn y 40au cynnar yn y polau ac aethant ati i gynyddu eu cynrychiolaeth o 231 sedd. Erbyn hyn maent fwy na deg pwynt canrannol yn is na hynny. Gallai hyn arwain at golli llawer o'r hyn enillwyd yn 2012 - a cholli cynghorau megis Caerdydd, Abertawe a Wrecsam. Dylai Plaid Cymru elwa o broblemau Llafur a'r Dib Lems i raddau llai. Gallai'r Toriaid elwa hefyd - os nad ydi'r ffraeo mewnol mawr am Brexit wedi cychwyn.
3). Trafodaethau Brexit yn dod i ddiwedd di symwth a Phrydain yn gadael heb gytundeb. Ar hyn o bryd mae yna wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae'r ddwy ochr yn gweld y trafodaethau. Mae'r DU yn eu gweld fel ffordd o sicrhau amodau masnach ffafriol. Mae pawb arall yn eu gweld fel modd yn bennaf o sicrhau bod Prydain yn cytuno i wneud taliadau i setlo'i dyledion cyn gadael. Dydi'r ddau ganfyddiad tra gwahanol yma o bwrpas sylfaenol y trafodaethau ddim yn awgrymu y bydd pethau'n mynd yn dda - a gallant yn hawdd fynd yn wael iawn.
Beth bynnag ddigwyddith bydd pethau'n anodd iawn i'r Toriaid a bydd yr holltau sydd yn y blaid yn dod i'r amlwg - bydd y Blaid Doriaidd a'r Blaid Lafur mewn twll tebyg yn yr ystyr yna, ac mae ail strythuro'r drefn bleidiol yn y DU yn gyfangwbl bosibl. Bydd yna hefyd gryn dipyn mwy o bwysau ar Theresa May.
4). Bydd llwyth o bobl enwog iawn nad ydi awdur Blogmenai erioed wedi clywed amdanynt yn marw. Eto.
5). Bydd yn dod yn glir y bydd ffin de facto Prydain ac Iwerddon yn symud i borthladdoedd a meysydd awyr y dalaith. Doedd hi ddim yn bosibl selio'r ffin pan roedd degau o filoedd o aelodau'r lluoedd diogelwch ar gael, a fydd hi ddim yn bosibl gwneud hynny yn yr oes sydd ohoni. Felly bydd rhaid dangos pasbort ac ati yn y meysydd awyr a'r porthladdoedd. Bydd hyn yn newid seicolegol go fawr. Disgwyliwch glywed mwy am Ogledd Iwerddon yn sgil Brexit gyda llaw. Yr UE a Chytundeb Dydd Gwener y Groglith ydi'r ddau set o gytundebau sydd wedi gwneud fwyaf i gynnal Ewrop yng Ngorllewin Ewrop yn ystod y blynyddoecc ers yr Ail Ryfel Byd. Mae elfennau o Gytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gweithio yng nghyd destun yr Undeb Ewropiaidd, a bydd rhaid ail adeiladu'r elfennau hynny. Bydd llywodraeth Iwerddon yn edrych am pob math o sicrwydd - gan gynnwys sicrwydd y caiff Gogledd Iwerddon ail ymaelodi a'r UE yn syth bin os ydi hi'n pleidleisio i ail ymuno a gweddill Ewrop.
6). Mae'n ddigon posibl y bydd yna ambell i ryfel yn torri allan yma ac acw. Bydd y ffaith bod cynghreiriau milwrol yn gwanio yn sgil ethol Trump yn golygu y bydd mwy o gytundebau uniongyrchol rhwng gwledydd unigol. Bydd hynny'n gadael mwy o wledydd heb llawer o ffrindoai a bydd temtasiwn i sawl gwlad fynd ati i setlo hen sgoriau.
7). Gallai unig aelod seneddol UKIP Douglas Carswell wneud 'Dafydd El' a gadael y blaid - gan adael eu bron i 4,000,000 heb gynrychiolaeth seneddol o gwbl. 'Doedd Carswell erioed yn UKIPar naturiol - a dydi pethau ddim wedi gwella ers etholiad 2015. Bydd hyn yn dod a mwy o ffocws ar y criw bach ffraegar o UKIPars ym Mae Caerdydd.
8). Etholiad Cyffredonol yn cael ei galw yn Iwerddon, Fianna Fail yn cael maddeuant rhannol am ddod yn agos at fethdalu, ond ddim yn dod yn agos at fwyafrif llwyr. Fine Gael yn dod yn ail, ond yn mynd i glymblaid efo Fianna Fail. Enda Kenny yn gorfod rhoi'r ffidil yn y to. Sinn Fein yn ffurfio'r wrthblaid swyddogol ond o dan arweiniad yr hynod ddosbarth canol ac anfilwrol Mary Lou McDonald, ac nid Gerry Adams. Y Blaid Lafur yn diflannu.
9). Yr SNP yn cyhoeddi y bydd refferendwm annibyniaeth arall yn cael ei gynnal yn 2018 - ond efo'r broblem sylweddol bod y rhan fwyaf o fasnach yr Alban efo Lloegr - a bod Lloegr y tu ol i wal dollau efo gweddill Ewrop.
10). Pris petrol yn codi'n sylweddol. Dwi'n gwrthod credu y bydd baril o olew yn costio cyn lleoed a $55 y gasgen mewn blwyddyn os mai prif weithredwr Exon Mobile sy'n gyfrifol am bolisi tramor America.
11). Llafur yn cymryd blwyddyn o wyliau o'u cystadleuaeth arweinyddol blynyddol, ond Corbyn yn cryfhau ei afael ar y blaid - a hynny'n achosi drwgdeimlad a ffraeo. Bydd anhrefn o fewn y Blaid Lafur Brydeinig, a bydd hynny yn ei gwneud mymryn yn fwy tebygol y bydd y Blaid Lafur Gymreig yn mabwysiadu statws ffederal. Ond fyddwn i ddim yn dal fy ngwynt ar honna a bod yn onest. Does yna ddim llawer o gyrff mwy ceidwadol na'r Blaid Lafur Gymreig.
12). Y Dde eithafol yn colli etholiadau yn yr Almaen a Ffrainc - yn rhannol oherwydd na fydd llawer o bobl yn chwenych yr anhrefn fydd i'w weld ym Mhrydain a'r UDA erbyn hynny.
2 comments:
re # (5) 'Heddwch' yn lle 'Ewrop' .
O ran etholiadau Ffrainc, ni fydd Brexit yn dylanwadu dim ar yr etholwyr. Ni fydd Le Pen yn ennill, gan fod Francois Fillion wedi cymryd mantell y dde-pell yn y cyn-etholiadau yn barod, ac mae bron yn 'Petainaidd' yn yr apel at werthoedd teuluol. Mae hefyd yn edmygwr o Mrs Thatcher, a phan ystyrir grym ac agwedd yr undebau yn Ffrainc, gellir gweld gwrthdarol sylweddol ar y ffordd.
Nid yw'r Ffrancwyr yn deall sut y daethom i benderfynu gadael yr UE, ond mae carfan uchel iawn ohonynt yn coleddu barn di-flewyn-ar dafod, a gan bod etholiadau trefol Ffrainc ar lefel trefol a phentrefol yn wleidyddol, bu llawer o gyfle i'r FN brofi llwyddiant ar lefel lleol. Llwyddwyd i wneud hynny ar y cyfan yn y math o ardaloedd y buasem yn adnabod fel rhai ol-ddiwydiannol yn y Gogledd-Ddwyrain, Dwyrain, a'r De arfordirol. Ni wnaiff hyn ddigwydd ar lefel cenedlaethol, oherwydd i Fillion fanteisio'n gyfrwys iawn ar cyn-etholiadau y Gweriniaethwyr.
Mae'r ymgeiswyr tebygol o'r chwith yn rai 'centrist' eu tueddiadau.
Difyr iawn ond rhaid i mi gywiro un peth bach - dydi Llafur ddim wedi bod yn rhedeg cyngor Wrecsam ers 2014, pan holltodd y blaid yn ei hanner efo 10 yn gadael er mwyn ymuno efo un grwp o annibynwyr. Mae'r rhain bellach yn rhedeg y cyngor gyda chymorth y Fib Dems a Toriaid.
Mae rhai wnaeth aros efo Llafur, 23 ohonyn nhw, bellach yn wrthblaid.
Dwi'n rhagweld dyddiau caled iawn i Lafur yn Wrecsam wrth geisio adennill tir coll a wynebu heriau newydd gan y Blaid, sydd eisoes wedi dewis 17 ymgeisydd ar gyfer 47 ward.
Post a Comment