Os ydi rwdlan a malu cachu yn mynd a'ch bryd mae blog aelod seneddol Trefaldwyn - Glyn Davies yn goblyn o le da i fynd. A View From Rural Wales, ond byddai Pencadlys Rhesymu Gwlanog Cymru yn enw gwell o lawer. Cymerer yr ymdrech ddiweddaraf lle mae Glyn yn ddigon caredig i adael i ni wybod ei farn am Donald Trump a newid hinsawdd. I dorri stori hir braidd yn fyrach:
1). Mae Glyn yn credu bod y busnes newid hinsawdd a'r cyswllt a gweithgareddau dynol yma yn ddamcaniaeth uniongred anoddefgar.
2). Mae Glyn o'r farn na fydd canlyniadau newid hinsawdd yn rhy ddrwg.
3). Dydi Donald Trump ddim yn hoffi'r ddamcaniaeth chwaith a bydd yntau yn caniatau i 'wyddonwyr' sydd yn cytuno efo fo gael dweud eu dweud.
4). Mae Glyn fodd bynnag yn poeni bod Trump yn mynd yn rhy bell o beth uffar trwy alw'r ddamcaniaeth yn hollol ffug a phenodi pobl sy'n gwneud eu bara menyn yn gwerthu olew i wneud pob math o swyddi yn ei weinyddiaeth.
5). Ond mae Glyn yn credu y bydd Trump yn dilyn agenda o ddad garboneiddio beth bynnag rhag ofn ei fod o a'i griw o werthwyr olew yn anghywir ynglyn a newid hinsawdd.
Rwan pam bod Glyn yn sgwennu nonsens fel hyn? Dydi'r dyn ddim yn ddwl wedi'r cwbl.
Mae'r ateb yn eithaf syml -mae Glyn wrth reddf yn Adain Dde, ond mae o hefyd wrth reddf yn gymodwr - mae o'n hoffi cytuno efo pawb. Dyma un o'r rhesymau pam bod cymaint o bobl a gwleidyddion yn arbennig yn hoff o Glyn - mae o'n gwneud synnau sy'n ddeniadol i bawb ar yr un pryd.
Y broblem wrth gwrs ydi ei bod yn amhosibl gwneud hynny heb rwdlan yn afresymegol.
No comments:
Post a Comment