Cyhoeddwyd fersiwn derfynol heddiw mae cytundeb y Gyllideb Gymreig rhwng Plaid Cymru a’r llywodraeth wedi cael ei chyhoeddi.Mae Plaid Cymru wedi llwyddo i sicrhau tri consesiwn ychwanegol i’r hyn a gyhoeddwyd ym mis Hydref, sef:
• £10m ychwanegol i gefnogi busnesau a effeithir gan newidiadau i drethi busnes
• £15m ychwanegol dros bedair blynedd i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol
• £50m dros bedair blynedd i gyflymu’r gwaith ar ffordd osgoi A483 Llandeilo
Mae Plaid Cymru yn falch o fod wedi sicrhau bargen mor dda ar gyfer pobl Cymru. Yn wir hon yw’r fargen un-flwyddyn fwyaf o’i math erioed.

Yn y cyfamser - yn ol Golwg360 - mae'r Arglwydd Elis-Thomas hefyd wedi sicrhau consesiwn pwysig am ei gefnogaeth di amod i'r llywodraeth Lafur - sef cyfarfod efo Rhywun o'r llywodraeth pob bore Llun lle mae hwnnw'n dweud wrtho fo beth fydd busnes yr wythnos. Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas wedyn yn mynd ati i benderfynu os bydd ar gael i bleidleisio tros y llywodraeth - er nad ydi hynny'n gwneud gwahaniaeth os nad yw ar gael i fotio beth bynnag.
Mewn geiriau eraill dydi'r cytundeb fawr mwy na chyfarfod lle mae rhyw greadur druan yn gorfod hiwmro'r Arglwydd Elis-Thomas a'i helpu i deimlo'n bwysig.
Uffar o fargen yn wir!
No comments:
Post a Comment