Friday, December 09, 2016

Ynglyn a cholofn 'Plaid Cymru Bad' Golwg

I'r sawl yn eich plith sy'n anghyfarwydd a'r term 'SNP Bad' mae'n debyg bod angen pwt o eglurhad.  Term ydyw sy'n cael ei ddefnyddio mewn perthynas ag arfer elfennau o'r cyfryngau i ddod i 'r un casgliad o pob stori - bod yr SNP yn 'ddrwg ' - ac i chwilio am unrhyw stori, unrhyw beth o gwbl, i gefnogi'r canfyddiad bod yr SNP yn ddrwg.

Roeddwn yn meddwl am hynny wrth ddarllen colofn ddiweddaraf Gwilym Owen yn Golwg heddiw.  Myllio oedd Gwilym oherwydd bod gan gwahanol aelodau o Blaid Cymru farn ynglyn a lle dylid lleoli pencadlys S4C yn sgil y stori ei bod yn ymddangos nad oes gan Coleg y Drindod yr adnoddau ariannol i wireddu eu cais llwyddiannus i ddenu'r cynllun i Gaerfyrddin, a'u bod wedi gorfod gofyn i 'r llywodraeth am gyfraniad sylweddol i wireddu'r cynllun.

Mae lleoliad pencadlys y sianel gyda goblygiadau sylweddol i etholaethau'r ASau a wnaeth sylwadau ar y mater - ac mae pob Aelod Cynulliad. (gobeithio) yn ceisio edrych ar ol buddiannau ei hetholaeth / etholaeth.  Yn ol Gwilym does yna ddim ots lle mae'r sianel wedi ei lleoli ac mai'r mater pwysig ydi'r ffaith bod yna 'ail, trydydd a phedwerydd' darllediadau ar y sianel. 

Am ennyd rhown o'r neilltu'r ffaith mai dim ond rhywun sy'n byw ar blaned arall - neu o leiaf mewn gwlad arall sydd ddim yn rhan o'r gyfundrefn ariannol rhyngwladol (Gogledd Corea er enghraifft)  - fyddai'n anwybodus ynglyn a pham bod S4C wedi gorfod newid ei ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diweddar.  

Ond mi arhoswn efo'r busnes nad ydi o ots yn lle mae'r sianel wedi ei lleoli.  Roedd Gwilym wrth ei fodd pan glywodd yn y lle cyntaf bod y pencadlys newydd i'w leoli yng Nghaerfyrddin.  Eglurodd  bod cais Coleg y Drindod yn llawer gwell nag un Gwynedd - sydd trwy gyd ddigwyddiad llwyr yn cael ei arwain gan Blaid Cymru.  Ond yn fwyaf sydyn dydi'r lleoliad - na'r ffaith nad oedd y cynllun llwyddiannus yn fforddiadwy i'r sawl a'i creodd - yn bwysig.  Yn ddi amau ni fyddai'n bwysig i Gwilym chwaith petai'r esgid ar y droed arall a phetai cais Gwynedd wedi llwyddo, ond bod y cyngor wedi gorfod mynd i'r Cynulliad efo cap yn ei law ychydig fisoedd yn ddiweddarach i chwilio am bres i dalu amdano.

Mae yna rhywbeth bach arall hefyd cyn ein bod wrthi.  Dydi hi ddim yn gyffredin i'r cyfryngau Cymreig - i'r graddau eu bod yn bodoli o gwbl - fod yn bleidiol wleidyddol.  Mae ganddynt yn aml safbwyntiau gwleidyddol, ond dydyn nhw ddim fel rheol yn mynegi'r safbwyntiau hynny mewn naratif pleidiol wleidyddol.  Un o sgil effeithiau gwendid y cyfryngau a'r ffaith nad ydyn nhw'n hoffi cymryd safbwyntiau pleidiol wleidyddol ydi nad ydi'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn cael ei dal i gyfrif yn yr un ffordd a llywodraethau Llundain, Caeredin a Belfast.  Mae colofn Gwilym yn Golwg yn  bleidiol wleidyddol yn yr ystyr bod yna un blaid nad yw yn ei hoffi, ac mae'n achub ar pob cyfle i ladd arni, ac mae'n benderfynol o ddal yr wrthblaid honno i gyfri' - os nad unrhyw un arall, nag yn wir y llywodraeth.

Mae  pob math o bethau'n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd - Llafur yn ffraeo'n fewnol ac yn parhau i fethu'n llwyr i lywodraethu yn effeithiol, rhyfel cartref parhaus yn y grwp gwleidyddol sy'n rheoli prif ddinas Cymru, y Toriaid Cymreig yn barhaol anghyson gyda'i agenda polisi yn cael ei lywio i raddau helaeth gan yr hyn mae llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr ac yn gefnogol i'r toriadau sydd wedi arwain yr 'ail, trydydd a phedwerydd' darllediadau ar S4C, y Dib Lems yn cael eu traflyncu gan Lafur, UKIP yng Nghymru yn tyfu ond mewn cyflwr o ryfel cartref parhaus, yn lladd ar ei gilydd yn gyhoeddus ac yn fileinig gyda dau o'i haelodau'n  cymudo i Fae Caerdydd o Loegr. Mae hinsawdd wleidyddol Cymru yn bellach i'r Dde, yn fwy anoddefgar ac yn fwy mewnblyg / Brydeinig nag a fu ers blynyddoedd mawr.   

Ond mae hyn oll  - a bron i pob dim arall sy 'n digwydd yng Nghymru yn mynd tros golofn Gwilym Owen fel dwr afon dros garreg - mae prif lif gwleidyddiaeth Cymru yn sgubo trosti'n ddi sylw.  Mae'n canolbwyntio i raddau helaeth ar ladd ar sefydliadau cyhoeddus (Cymraeg eu hiaith gan amlaf)  a lladd ar un blaid benodol, gan grafu o gwmpas yn obsesiynol am gerrig i'w troi a blew i'w hollti er mwyn iddo gael gwneud hynny.

Rwan fi fyddai'r person olaf i fod eisiau cau pig neb - rhydd i bawb ei farn, hyd yn oed os ydi 'r farn honno'n un hurt.  Serch hynny mae'n wir i ddweud mai ychydig o sylwebaeth ar wleidyddiaeth Cymru sydd i'w gael yn y cyfryngau prif lif, ac mae'r hyn sydd i'w gael yn y Gymraeg yn sobor o brin.  Ond mae un o'r ychydig golofnau rheolaidd yn methu'n lan a sylwi ar y newidiadau sylweddol sy'n digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru a'r tu hwnt ac yn canolbwyntio bron yn llwyr ar un rigol anhygoel a gyfyng, ac ail adroddus.  Trwy stryffaglo i roi ei hen, hen ragfarnau ar ffurf print mae  Gwilym yn colli cyfle euraid pob pythefnos i gynnig dehongliad o'r newidiadau enfawr sy'n digwydd.  Mae'n debyg  nad ydi o'n sylwi arnyn nhw.  I'r graddau hynny mae'r golofn yn wastraff llwyr o wagle, ac efallai ei bod yn bryd i'r stryffagl aflwyddiannus  pethefnosol i ddeall y tirwedd gwleidyddol sydd ohoni ddod i ben.


1 comment:

Anonymous said...

Mae'r naratif "Plaid Cymru bad" yn hynod sinigaidd ond yn gweithio i'r dim i Golwg. Drwy fynd allan o'u ffordd i ymosod ar y Blaid mae nhw'n cadw'r Gweinidogion Llafur sy'n cymeradwyo eu grant blynyddol yn hapus ac mae cynulleidfa graidd Golwg - Cymry Cymraeg dosbarth canol Arfon, Aberystwyth a Chaerdydd - yn hapus i ddarllen a chael eu cythruddo gyda'r clecs diweddara di-ddim am Gyngor Gwynedd, Leanne Wood a'r 8 page colour supplements Dafydd El.