Saturday, December 03, 2016

Pam bod y Lib Dems yn dweud celwydd am Brexit?

Neges gan Swyddfa'r Wasg y Dib Lems:


Rwan y gwir amdani ydi nad ydi hyn oll yn wir.  Mae yna nifer o bleidiau yn y DU efo agweddau digon tebyg i un y Lib Dems ynglyn a mater Ewrop.  Gallaf feddwl am bump heb orfod crafu fy mhen - y Gwyrddion a pleidiau cenedlaetholgar Gogledd Iwerddon, Cymru a'r Alban.  

Dydi Blogmenai ddim yn cymeradwyo dweud celwydd wrth gwrs, ond o safbwynt strategol mae ceisio meddianu'r tir gwrthwynebu Brexit yn beth call i'w wneud o safbwynt y Dib Lems.  Mae'n cyfeillion gwrth Ewropiaidd yn hoff o ddweud wrthym mai'r bleidlais i adael yr Undeb oedd yr un fwyaf i wneud unrhyw beth yn y DU erioed. Ond yr ail bleidlais fwyaf erioed oedd yr un i aros.  Pleidleisiodd tua 48% i aros a 52% i adael.  

Mae'r bleidlais i adael Ewrop yn un hynod arwyddocaol a bydd yn diffinio'r ffordd y bydd pobl yn gweld gwleidyddiaeth - ac yn pleidleisio - am flynyddoedx i ddod.  Ar hyn o bryd mae UKIP a'r Toriaid yn pysgota am gefnogaeth yn y pwll 52%. Mae Llafur mewn lle mwy anodd.  Tra bod y rhan fwyaf o'u cefnogwyr wedi pleidleisio i aros mae'r rhan fwyaf o'u hetholaethau y tu allan i'r dinasoedd wedi pleidleisio i adael. Mae'r mwyafrifoedd gadael yn yr ardaloedd ol ddiwydiannol hyn wedi eu hadeiladu o gydadran o'r bleidlais Lafur, y bleidlais Doriaidd / UKIP a phobl nad ydynt yn pleidleisio fel arfer.  Felly mae eu cefnogwyr presenol a'u cefnogwyr posibl mewn llefydd gwahanol - mae hyn yn broblem iddyn nhw.  O ganlyniad mae eu hymateb yn gymhleth, a dydi agweddau cymhleth ddim yn gweithio'n dda o safbwynt etholiadol.  Mae'n anodd iddyn nhw bysgota gyda gormod o arddeliad yn y pwll 48% nag yn y pwll 52%. 

Dydi'r Lib Dems ddim yn gorfod poeni am hyn oll - maen nhw'n gallu pysgota am gefnogaeth yn y pwll 48% - ac yn Lloegr does ganddyn nhw ddim gormod o gystadleuaeth ar hyn o bryd.  Mae eu safbwynt yn glir - ac maen nhw'n cael y pwll 48% iddyn nhw eu hunain i raddau helaeth.  Yn ychwanegol hynny, os ydi'r  trafodaethau Brexit yn mynd yn wael mae'n fwy na thebygol y bydd y pwll 48% yn mynd yn fwy - ac o bosibl cryn dipyn yn fwy.  Bydd y pwll 52% - lle mae pawb arall yn cystadlu i rhyw raddau neu'i gilydd, yn mynd yn llai ar yr un pryd.

Mae'r Dib Lems yn dweud celwydd oherwydd eu bod eisiau'r pwll 48% iddyn nhw eu hunain.  Mae'n bwysig nad ydynt yn ei gael iddyn nhw eu hunain yng Nghymru.



No comments: