Friday, August 19, 2016

Yr wythnos mewn ffigyrau

6% - y nifer ddywedodd eu bod nhw'n bwriadu pleidleidio i UKIP mewn etholiad cyffredinol yn ol pol diweddaraf IPSOS MORI.  Mae hyn 1% yn is na'r Lib Dems.

€0.99 - faint oeddech yn ei gael am £1 ym meysydd awyr Luton a Stanstead yn gynharach wythnos  yma.  Gallech fod wedi cael €1.15 gan Travel FX.

80% - y tebygolrwydd mai Clinton fydd yn ennill arlywyddiaeth yr UDA - a barnu o'r marchnadoedd betio.

89% - y tebygolrwydd mai Corbyn fydd yn ennill etholiad arweinyddol Llafur - a barnu o'r marchnadoedd betio.

50% - y tebygolrwydd y bydd Farage yn ymuno a phlaid ag eithrio UKIP o fewn y flwyddyn - eto a barnu o'r marchnadoedd betio.

£24,325 - y cyfanswm o bres (pro rata 37 awr) mae aelod Llafur, Canol Caerdydd, Jenny Rathbone yn ei gynnig o'i lwfans staffio i rhywun sy'n fodlon garddio yn ei hetholaeth am naw awr yr wythnos.

$85,498,596 - faint mae Hillary Clinton wedi ei wario hyd yn hyn ar ymgyrchu yn nhaleithiau ymylol Colorado, Florida, Iowa, Nevada, New Hampshire, North Carolina, Ohio, Pennsylvania a Virginia.

$9,098,720 - faint mae Donald Trump wedi ei wario hyd yn hyn yn yr un taleithiau.  






1 comment:

Ian said...

Gocheler rhag rhoi gormod o bwys ar y marchnadoedd betio. Cyn yr uffarendwm, roedden nhw'n awgrymu bod 80% o debygolrwydd y basai'r bleidlais o blaid Aros.