Tuesday, August 30, 2016

Cwestiwn bach diddorol

Mae'r cyfryngau i gyd yn erbyn Corbyn - gydag eithriad esoteric braidd y Morning Star.  Mae hyn yn wir am y teledu a'r radio yn ogystal a'r papurau.  Rydym yn ol ym mis Medi 2014 i raddau pan roedd adolygiadau'r papurau ar sianeli newyddion 24 awr y Bib yn cynnwys dau westai chwyrn (ac aml anwybodus) eu gwrthwynebiad i annibyniaeth i'r Alban, a chadeirydd oedd yn cytuno'n llwyr efo nhw.  Ond Corbyn yn hytrach nag annibyniaeth ydi testun y llif unochrog y tro hwn.

Mae yna sawl naratif gwrth Corbyn ar waith, ond y prif un yw ei fod yn gwbl anetholadwy - ac mae yna ddadl dealladwy bod hynny'n wir - er bod yna wrth ddadl hefyd.  

Rwan byddai rhywun yn deall pam y byddai'r Guardian neu'r Mirror yn gwrthwynebu'r dyn am y rheswm hwn.  Maen nhw am weld llywodraeth Lafur cyn gynted a phosibl.  Ond mae tua tri chwarter y papurau newydd yn cefnogi'r Toriaid.  Os ydynt mewn gwirionedd yn credu bod Corbyn yn anetholadwy, byddai rhywun yn dychmygu y byddai ei gael yn arweinydd Llafur yn 2020 yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr o'u safbwynt nhw.  Ond dydyn nhw ddim yn ei groesawu - maent yn ymateb i'r syniad o barhad yn arweinyddiaeth y dyn efo gwrthwynebiad sy'n ymylu ar yr hysteraidd a dagreuol.

Tybed pam?

3 comments:

Dyfed said...

Oherwydd eu bod yn gwybod ei fod am ennill yr arweinyddiaeth a'u bod am ofalu bod y naratif Doriaidd amdano yn cael ei dalinellu efo ffelt pen dew tra'i fod o yn llygaid y cyhoedd yn ystod yr ethkliad.

Anonymous said...

Ofnir Corbyn am ei fod yn etholadwy. Y Guardian a Mirror Yn eisiau arweinydd Blairaidd nid un sosialaidd.

Ioan said...

Mae D Cameron yn dweud wrth Corbyn fynd, yn helpu Corbyn. Yn yr un ffordd mae'r Telegraph yn ymosod ar Corbyn yn helpu i'w gadw mewn swydd!