Bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mai - etholiadau cyngor fydd y rheiny. Cymaint yr anhrefn mae'r gwrthryfelwyr oddi mewn y Blaid Lafur wedi ei achosi i'w plaid fel nad ydym ni'n gwybod sawl fersiwn o'r Blaid Lafur fydd yn bodoli erbyn hynny. Gallai fod yn chwech - dwy yng Nghymru, dwy yn Lloegr a dwy yn yr Alban - neu gallai fod yn llai na hynny. Yr hyn sy'n sicr ydi os mai Corbyn sy'n ennill - ac mae hynny'n debygol iawn er bod pob papur o'r Telegraph i'r Guardian wedi bod yn lladd arno, a bod y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol wedi bod yn atal ei gefnogwyr rhag pleidleisio - bydd yn anodd iawn i'r aelodau seneddol gwrthryfelgar aros. Mae'r hyn sydd wedi ei wneud, wedi ei wneud, a bydd yr hyn sydd wedi ei ddweud am gaei ailadrodd hyd at syrffed mewn propoganda etholiadol Toriaidd tra bydd Corbyn yn arwain.
Mae yna bosibilrwydd cymharol fychan y bydd Corbyn yn colli - ond byddai hollt yn dal yn bosibilrwydd cryf - yn enwedig felly os y byddai yna deimlad ei fod wedi colli oherwydd twyll a jerimandro.
Mae yna, fodd bynnag gymhlethdodau ychwanegol. Y mwyaf amlwg wrth gwrs ydi bod y Comisiwn Ffiniau ar fin cyhoeddi eu newidiadau i'r etholaethau - ac mae'r rheiny yn siwr o gael mwy o effaith ar Lafur na neb arall. Gallai'r 160 droi'n llai na 130 yn hawdd iawn.
Cymhlethdod arall sy'n cael ei greu gan y newid ffiniau ydi y bydd yn gwneud hollt yn fwy tebygol. Bydd rhaid i fwyafrif llethol yr aelodau seneddol gystadlu am y seddi newydd fydd yn ymddangos o'r ad drefnu mawr, a bydd aelodau cyffredin yn yr etholaethau'n flin iawn efo'r gwrthryfelwyr am achosi'r fath lanast oddi mewn i 'r Blaid Lafur ers Brexit - cyfnod lle dylai'r blaid fod wedi mynd ati i fanteisio ar y rhaniadau twfn oddi mewn i'r Blaid Geidwadol. Bydd y bygythiad o golli enwebiaethau yn cynyddu'r demtasiwn i dorri'n glir yn sylweddol.
Ac mae hi'n mynd yn fwy cymhleth eto. Dydan ni ddim yn siwr faint o bleidiau Llafur fydd gennym ni. Mae Carwyn Jones wedi aros yn gymharol glir o bethau - ac mae'n debyg nad oedd hynny'n beth hawdd iddo i'w wneud. Mae'n debyg mai'r rheswm am hynny ydi ei fod yn gobeitjio osgoi hollt yn y blaid yng Nghymru, hyd yn oed os ydi hi 'n hollti yn Lloegr. O bosibl bydd yn llwyddo - ond bydd y newidiadau yn y ffiniau yn brathu'n ddyfnach yng Nghymru nag yn Lloegr.
Dydi Kezia Dugdale yn yr Alban heb fod mor ofalus, ac mae hi wedi bod yn llafar iawn ei chefnogaeth i Owen Smith. Gallwn gymryd y bydd cefnogwyr Corbyn am ei gwaed drannoeth a datganiad - ac o ystyried canlyniadau etholiad Holyrood, dydi ei sefyllfa ddim yn gryf. Un cymhlethdod bach yma ydi bod son bod dilynwyr Corbyn yn yr Alban o blaid torri cysylltiad yn llwyr efo'r blaid yn Lloegr, tra nad ydi Dugdale am wneud hynny.
Ac mae yna bosibilrwydd arall - mae'r Lib Dems ar hyn o bryd yn blaid sydd heb aelodau seneddol, a gallai'r gwrthryfelwyr yn hawdd fod yn aelodau seneddol sydd heb blaid maes o law _ _ .
3 comments:
Oni nododd Corbyn yn yr Alban ei fod yn erbyn gwahanu ?
Mynd ar adroddiad yn y Sunday Herald ddoe 'dwi.
http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-37201266
Tua hanner ffordd. Mae'n bosib fod Corbyn wedi newid ei feddwl, meu wedi ei gamddehongli, neu fod Richard Branson wedi ei ddynwared, ayb, ayb.....
Post a Comment