Mae'n rhaid i mi gyfaddef bod dod ar draws Neil a Christine Hamilton a chwpl arall yn mynd o gwmpas maes yr Eisteddfod ddoe - gyda'u ymbarels Brexit a'u swn byddarol ( I just couldn 't figure out what they were on about meddai un ddynas wrth y llall) braidd yn chwydlyd. Serch hynny mae'n bwysig ymateb i dwf diweddar UKIP yng Nghymru mewn ffordd synhwyrol - a dydi gor ymateb ddim yn beth synhwyrol i'w wneud.
1). Pan fydd y DU yn tynnu allan o'r Undeb Ewropiaidd byddant yn colli y rhan fwyaf o'u gwleidyddion proffesiynol. Yr unig rai fydd ar ol fydd Douglas Carswell - sy'n ymddwyn yn fwy tebyg i aelod seneddol annibynnol na dim arall, y criw lliwgar ym Mae Caerdydd - faint bynnag ohonyn nhw fydd wedi osgoi cael eu diarddel erbyn hynny, dau aelod o Gynulliad Llundain, a thri aelod o Dy'r Arglwyddi. Does ganddyn nhw ddim cynrychiolaeth yn senedd-dai Gogledd Iwerddon na'r Alban. Bydd hyn yn sicr o gynyddu'r sylw cyfryngol Prydeinig fydd Hamilton a'r gweddill yn ei gael - ac o'r cyfryngau Prydeinig mae'r rhan fwyaf o Gymry'n cael eu newyddion. Ydi'r criw yma'n debygol o apelio at etholwyr Cymru? 'Dwi'n amau hynny rhywsut.
2). Mae canlyniad y refferendwm Ewrop yn fuddugoliaeth i UKIP wrth reswm, ond mae hefyd yn achosi problemau iddynt. Eu pwynt gwerthu unigryw hyd refferendwm mis Mehefin oedd mai nhw oedd yr unig blaid (a chefnogaeth arwyddocaol iddi) oedd am adael Ewrop. Mae llawer o bobl gwrth Ewropeaidd yng Nghymru - fel y dangoswyd yng nghanlyniad y refferendwm. Ond bydd rhaid iddynt ail ddiffinio eu hunain yn sgil y canlyniad a dod o hyd i rhywbeth arall i sefyll trosto. Dydi hi ddim yn amlwg y bydd y 'rhywbeth arall' hwnnw yn boblogaidd yng Nghymru. Apelio at eu pleidlais graidd yn Lloegr fydd eu blaenoriaeth. Dydi o ddim yn dilyn bod natur eu cefnogaeth yng Nghymru yr un peth ag yw yn Lloegr. Er enghraifft, os ydi UKIP yn troi fwyfwy at wleidyddiaeth hunaniaeth yn Lloegr, mae ganddynt broblem yng Nghymru. Mae'r blaid yn tueddu i wneud yn dda yng Nghymru mewn ardaloedd sydd a hunaniaeth Gymreig gref. Dydi pwyslais ar hunaniaeth Seisnig ddim am edrych yn wych ym Mlaenau Gwent na Merthyr, ac nid yw Seisnigrwydd amlwg rhai o'u aelodau Cynulliad am fod o lawer o gymorth chwaith.
3). Gwan iawn ydi peirianwaith lleol UKIP yng Nghymru - dyna yn rhannol pam nad ydynt yn gystadleuol mewn etholaethau uniongyrchol. Un cynghorydd sydd ganddynt trwy'r wlad - mae ganddynt bron i 500 yn Lloegr. Anaml y byddant yn dod o hyd i ymgeisydd mewn is etholiadau lleol yng Nghymru. Maen nhw wedi llwyddo i ennill cryn dipyn o bleidleisiau yng Nghymru heb beirianwaith - ond roedd llawer o hynny (er nad y cwbl) yn ddibynnol ar eu neges greiddiol gwrth Ewropiaidd. Fydd hwnnw ddim ar gael yn 2020 a 2021. Un o'r prif resymau pam bod peirianwaith etholiadol yn angenrheidiol ydi i gael pobl allan i bleidleisio - pan mae cymhelliad cryf i bleidleisio does dim llawer o angen annog pobl i fynd i bleidleisio. Ond dydi cymhelliad cryf ddim yn aros am byth - ac mae UKIP yn apelio at grwpiau sydd ddim yn yr arfer o fynd allan i bleidleisio. Byddant angen peiriant yn y dyfodol - ac os na allant adeiladu un byddant yn gwywo.
4). Mae'r blaid yng Nghymru a thu hwnt yn dioddef o ffraeo mewnol a thueddiad i ddewis ymgeiswyr anaddas. Mae'r etholwyr wedi maddau iddynt hyd yn hyn. Mae eu delwedd gwrth sefydliadol wedi cuddio'r ffaith eu bod yn euog o rai o ffaeleddau'r pleidiau sefydliadol. Yn wir maent yn fwy euog o ffraeo mewnol a sleeze nag ydi'r rhan fwyaf o'r pleidiau sefydliadol erbyn hyn (OK - fedar neb guro Llafur am ffraeo). Ni fydd yr etholwyr yn gwahaniaethu am byth rhyngddyn nhw a'r pleidiau traddodiadol.
Yr hyn rwyf yn ei ddweud mae'n debyg ydi y bydd yn anos i UKIP yng Nghymru yn y dyfodol, ac mae'n debyg y bydd eu cefnogaeth yn cilio i ryw raddau neu'i gilydd yn naturiol. Mae yna berygl y gallai gor ymateb wneud pethau'n haws i UKIP - ac mae yna bethau'n sicr na ddylai'r mudiad cenedlaethol eu gwneud.
Y cyntaf a'r pwysicaf o'r rheiny ydi cynghreirio efo cyd bleidiau unoliaethol UKIP yn erbyn UKIP. Mae'r blaid asgell Dde, bopiwlistaidd yn byw ar greu canfyddiad ei bod yn wrth sefydliadol. Byddai ochri efo pleidiau sefydliadol yn erbyn UKIP yn bwydo'r naratif yna'n berffaith. Un hollt wleidyddol arwyddocaol sydd ei hangen yng Nghymru o safbwynt genedlaetholgar - un rhwng y sawl sy'n credu mewn annibyniaeth i Gymru, a'r sawl sydd ddim yn credu mewn annibyniaeth i Gymru. Dydi creu holltau eraill ddim yn ddefnyddiol.
Yn ail, ni ddylid creu argraff bod UKIP yn bwysicach nag ydyn nhw - maen nhw'n bwydo ar y canfyddiad hwnnw hefyd. Pedwerydd plaid ydyn nhw yn y Cynulliad - a phedwerydd plaid sydd wedi gwanhau ei hun trwy ffraeo mewnol - ond hynod gyhoeddus.
Yn drydydd, ni ddylid rhoi'r argraff bod UKIP efo naratif cyson o ran gwleidyddiaeth Cymru - does ganddyn nhw ddim un, a dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw dystiolaeth eu bod yn gallu diffinio eu hunain yng nghyd destun gwleidyddiaeth Senedd Cymru chwaith. Plaid gwbl Brydeinig ydi hi o ran ei meddylfryd sylfaenol - mwy felly nag unrhyw blaid arall yng Nghymru - hyd yn oed y Lib Dems. Dydyn nhw heb ddod o hyd i niche yn nhirlun gwleidyddiaeth Cymru, a does yna ddim pwrpas priodoli un iddyn nhw. Maen nhw ar hyd i lle i gyd, ac maent yn debygol o barhau i fod ar hyd y lle i gyd.
Yn bedwerydd ni ddylid ceisio eu hesgymuno a'u cau allan o wleidydda arferol. Digwyddodd hyn i raddau eithafol yn yr 80au a'r 90au yn sgil twf Sinn Fein yng Ngogledd Iwerddon. Cawsant eu cau allan o'r cyfryngau - yn llythrennol, roedd yn nesaf peth i amhosibl iddynt weithredu yn y rhan fwyaf o gynghorau lleol oherwydd nad oedd y cynghorwyr unoliaethol yn fodlon cyd weithio efo nhw, cawsant eu cau o'r ddisgwrs wleidyddol, roedd yr holl sylw cyfryngol roeddynt yn ei gael yn gwbl negyddol. A gweithiodd hyn oll - dros dro. Llwyddwyd i gyfyngu ar dwf y blaid - ond digwyddodd rhywbeth arall hefyd. Gorfodwyd y blaid i ddod o hyd i ffyrdd amgen i gyfathrebu efo'i hetholwyr, a chafodd ei gorfodi i adeiladu peiriant etholiadol sylweddol. Roedd y peiriant, a'r dulliau cyfathrebu mewn lle pan laciodd y gwrthwynebiad a'r cyfyngiadau yn sgil Cytundeb Dydd Gwener y Groglith - a doedd Sinn Fein fawr o dro yn sgubo cenedlaetholdeb cyfansoddiadol o'r neilltu.
Y peth diwethaf rydym sydd angen ei wneud ydi gorfodi UKIP yng Nghymru i esblygu i fod yn endid llawer mwy effeithiol wleidyddol nag yw ar hyn o bryd. Gwell gadael iddi arddangos ei rhwygiadau mewnol a'i diffyg cysondeb a chrebwyll gwleidyddol yn gyhoeddus.
Dydi hyn oll ddim yn golygu na ddylid gwrthwynebu UKIP, wrth gwrs - ond dylid gwneud hynny mewn modd sy'n cymesur a'u bygythiad. Fel mae'n digwydd mae am fod yn hawdd ei beirniadu a'i gwrthwynebu - plaid Brydeinig iawn ydi hi, ac oherwydd hynny mae'n naturiol y bydd buddiannau Cymru pob amser yn dod yn ail gwael i fuddiannau Lloegr. Mae am fod yn hawdd ei diffinio fel gwarchodwr buddiannau Lloegr yng Nghymru. Mae'r un peth yn wir am y Toriaid wrth gwrs, ond dydyn nhw ddim yn gorfod mynd i Islwyn, Merthyr neu Dorfaen i chwilio am bleidleisiau.
2 comments:
O herwydd chwant am borfeydd newydd i'w haid..ildiodd galwadau diffuant Bufton ac eraill i ddileu y cynulliad (a oes wnelo Bufton a'r garfan diddymu'r Senedd adeg etholiadau Senedd tro ddiwetha'?).i agwedd ymlaciedig Farage tuag at ffederaliaeth.O.ail feddwl DANGOSODD penderfyniad Leanne i.frwydro i.Sefyll yn erbyn Carwyn FEL PRIF-wenidog CRYN.DDychymyg..gyda chaniatad gwreiddiol UKIP a'r Toriaid..r oedd posibiliad atal Llafur rhag y cafn am gyfnod ac maes o law mi fyddai hi.'.n gloffa'n o denau nid yn unig o brinder swyddi gweinidogol ond o lai o noddi quangos.a.mudiadau cyhoeddus gwirffodol.sy'n hendre lle elo sawl hen fustach ac hen fuwch lafur i bori tra'n aros hafod frasach buddugoliaeth etholiadol .Mae habitat nawdd a swyddi yn ymestyn teyrngarwch y blaid Lafur a'i dylanwad i gloddio imewn i feysydd Cymreig eraill ben bwy gilydd... Byddai pris UKIP am gymorth i ddisoldli Llafur yn rhatach..Chwant man weinisofaethau I swyddi one hefyd.I gadw eu breuddwyd o.wanu'r Blaid Lafur ar gyrrion y maes cyn ceisio tagu Llafur yn Ngogledd Lloegr..(waeth annhebyced y bo)
O herwydd chwant am borfeydd newydd i'w haid..ildiodd galwadau diffuant Bufton ac eraill i ddileu y cynulliad (a oes wnelo Bufton a'r garfan diddymu'r Senedd adeg etholiadau Senedd tro ddiwetha' d'wch?) i agwedd ymlaciedig Farage tuag at ffederaliaeth.O
O.ail feddwl, dangosodd penderfyniad Leanne i.frwydro i.sefyll yn erbyn Carwyn FEL PRIF-wenidog bosibiliadau newydd ,gyda chaniatad gwreiddiol UKIP a'r Toriaid,r'oedd posibiliad atal Llafur rhag y cafn am gyfnod A maes o law, mi fuasai' n gloffa'n o denau, a nid yn unig o brinder swyddi gweinidogol..
O herwydd llai o noddi ei hoff-gwangos a mudiadau cyhoeddus gwirffodol -sy'n hendre gyrfaol lle elo sawl hen fustach ac hen fuwch lafur i bori tra'n disgwyl hafod frasach buddugoliaeth etholiadol.- lleiha 'r habitat nawdd a swyddi sy'n ymestyn teyrngarwch y blaid Lafur a'i dylanwad i gloddio i mewn i feysydd Cymreig eraill ben bwy gilydd... Byddai pris UKIP am gymorth i ddisodli Llafur yn weddol isel (hwythau a nid y Blaid yw r "cheap date" - chwedl Leighton - yn y cyd destun yma).Mewn ffordd, belled ar wahan ydi 'r Blaid a UKIP yn gyffredinol; eto fyth,nesed eu hawydd a'u gilydd i dorri cwys newydd ar dir etholaethol Llafur
Post a Comment