Fydd hi ddim yn syndod mawr i neb bod un o gynghorwyr Llafur yng Nghaerdydd wedi - mae yna res hir wedi gwneud hynny ers etholiad 2012. Fydd hi ddim yn syndod chwaith bod Gretta Marshall (sy'n cynrychioli ardal Splott) yn cwyno am ddiwylliant o fwlio oddi mewn i'r Blaid Lafur - mae hionna'n hen gwyn. Beth sy'n fwy anarferol - ond sy'n rhywbeth i'w groesawu - ydi bod Gretta'n dod at y Blaid.
Yn y cyfamser mae Gwynfor Edwards - unig gynghorydd Llafur ym Mangor - hefyd yn gadael, ond mynd i gorlan y Gwyrddion mae Gwynfor. Mae i gynghorydd adael y Blaid Lafur yn fwy anarferol yng Ngwynedd - yn bennaf oherwydd bod cyn lleied ohonyn nhw. Dim ond pump oedd yna tan heddiw, ond rwan maen nhw i lawr i bedwar, ac wedi colli 20% o'u cynghorwyr mewn diwrnod.
Dydi moral ddim yn dda iawn mae gen i ofn.
1 comment:
Pob parch i Gwynfor, does fawr ddim o'i olion traed carbon i'w weld ar ôl 4 mlynedd fel Cynghorydd Sir gan fod 'chydig iawn o gyfarfodydd mae o wedi mynychu. Ond 25% yn ystod 2014/15 ac ond yn aelod o un pwyllgor heblaw am y Cyngor Llawn. Ar ol deud hyn, dim yn siŵr faint o siwrnai mae o wedi neud rhwng ei gartref ym Mlaenau Ffestiniog a'i ward Deiniol.
Post a Comment