O diar, mae Felix eisiau tynnu baneri 'tramor' oddi ar adeiladau cyhoeddus.
Doeddwn i heb feddwl am y tebygrwydd rhwng y diweddar Ian Paisley a Felix nes i mi weld y trydariad yma - ond mae yna debygrwydd - y ddau'n gegog a swnllyd, y ddau'n weinidogion yr Efengyl, y ddau'n hoff iawn o truiamphalism, y ddau yn gwirioni ar raniadau mewn cymdeithas, a'r ddau yn hoffi tynnu baneri pobl sydd a daliadau gwahanol iddyn nhw eu hunain i lawr.
Dwi'n meddwl mai yn ystod mis Hydref 1964 y mynnodd Paisley bod yr RUC yn mynd i Divis Street i ddwyn baner Wyddelig - syniad gwych a arweiniodd at ddau ddiwrnod o ymladd ac anhrefn ar strydoedd Belfast, at gannoedd o anafiadau ac at garcharu ugeiniau o bobl.
Does yna neb am fod allan ar y strydoedd i amddiffyn baner Ewrop wrth gwrs - ond mae'r ffordd mae Felix a Paisley yn rhesymu yn debyg iawn.
1 comment:
Mae yna rhyw ddyfyniad ym mhen draw y cof gan Felix Aubel - credaf ei fod yn deillio o'r cyfnod pan yr ymgeisiodd yn Arfon : Ai rhywbeth i'r perwyl " Plaid Cymru will bring the IRA to the steets of Caernarfon ! " . Yr wyf yn chwilio os oes gan y diweddar Dr Paisley ddyfyniad cyffelyb " Sinn Fein will bring Cymdeithas Yr Iaith to the streets of Shankhill! " .
Un gwahaniaeth - o glywed Dr Aubel yn pregethu o bwlpud, nid oes awgrym o'i wleidyddiaeth yna.
Diddorol fuasai clywed y canlynol yn codi testun, a cheisio dyfalu eu gwleidyddiaeth : Felix Aubel, D. Ben Rees, Roger Roberts a Cen (neu Rhys) Llwyd.
Credaf i'r ardal lle mae Dr Aubel yn gwasanaethu bleidlesio o blaid Brexit - mae'n bosib fod yna resymau lleol iawn dros ddrwgdybiaeth Gogledd Caerfyrddin a De Ceredigion.
Post a Comment