Fydda i ddim yn canmol WalesOnline yn aml iawn, ond mae'n debyg y dylid gwneud hynny mewn perthynas a'r stori yma.
Yn y bon mae'r stori yn nodi bod sylwadau Owen Smith - bod pwysau mawr ar y gwasanaeth addysg yn Rhondda Cynon Taf oherwydd pobl sy'n chwilio am loches wedi symud yno - yn gwbl groes i'r ffeithiau.
- Mae yna 476 lle gwag yn ysgolion cynradd RCT.
- Mae yna 715 lle gwag yn ysgolion uwchradd RCT.
- Mae fwy neu lai pawb yn cael mynd i ysgol o'u dewis.
- 2.1% yn unig o drigolion Rhondda Cynon Taf sydd wedi eu geni y tu allan i'r DU - un o'r ffigyrau isaf yn y DU.
- Mae'r niferoedd o bobl o wledydd eraill yn yr ardal yn gostwng.
- Mae'n debyg mai 18 o bobl sy 'n chwilio am loches sydd wedi symud i'r ardal ers diwedd y gwanwyn. Mae poblogaeth RCT yn anferth - yr ail sir mwyaf poblog yng Nghymru.
Felly er gwaethaf ei honiadau ei fod yn adain Chwith ac union yr un peth a Jeremy Corbyn yn y bon (ond nad yw'n dioddef o afiechyd meddwl a'i fod felly 'n etholadwy) mae'n gor ddweud yn hysteraidd - fel y Daily Express, Nigel Farage, neu Felix Aubel - pan mae'n trafod mewnfudo.
1 comment:
Mewn amddiffyniad o Smith, nid Syria yw'r unig wlad yn Dwyrain Canol a gellod cynnwys Caerdydd a Chasnewydd fel 'south Wales'lle mae'r ffiguarau'n uwch.
M.
Post a Comment