Oherwydd y drefn etholiadol a geir yng Nghymru, patrymau cefnogaeth wleidyddol a mathemateg y Cynulliad mae bron yn sicr y bydd Llafur yn ceisio dod o hyd i rhywun sy'n fodlon clymbleidio efo nhw ym mis Mai. Dydi hyn ddim am fod yn hawdd - ar y gorau. Un o'r rhesymau am hynny ydi canfyddiad bod y blaid honno yn hunan fodlon a thrahaus. A dyma ni - ar ddiwrnod olaf y pedwerydd Cynulliad - Leighton Andrews yn ein hatgoffa ni i gyd o hynny - efo gwen drahaus ar ei wyneb.
Os bydd trafodaethau ar ol yr etholiad efallai y byddai'n ddoethach i Carwyn Jones anfon Leighton ar ei wyliau i Indonesia, Singapore, Seland Newydd neu rywle felly am ychydig wythnosau - os bydd yn llwyddo i gael ei ethol.
No comments:
Post a Comment