Mae gallu cyfathrebu ar y We wedi newid y ffordd rydym yn gwneud llawer iawn o bethau. Enghraifft dda ydi codi pres. Ers talwm os oedd rhywun eisiau codi pres roedd rhaid mynd ati i drefnu boreuau coffi ac ati. Ond erbyn heddiw mae gennym Crowdfunders - gwefannau sy'n caniatau i bobl neu gymdeithasau ofyn am arian gan gynulleidfa fyd eang ar y We. Mae rhai o'r rhain yn hynod lwyddiannus. Er enghraifft mae perchenog y blog Wings Over Scotland, Stuart Campell yn llwyddo i godi digon o bres i gadw blog yn broffesiynol am flynyddoedd trwy'r dull hwn.
Ac wedyn mae yna gynlluniau llai llwyddiannus - un Dib Lems, Ceredigion er enghraifft. Targed o £3,000 a £170 wedi ei godi efo diwrnod i fynd.
Os oes rhywun yn dod ar draws ymderch llai llwyddiannus i godi pres gadewch i mi wybod.
4 comments:
Ond mae digon o Saeson yn Geredigion i sicrhau bod nhw'n llwyddianus eniwe.
edrych ar y methiant yma! http://www.crowdfunder.co.uk/elect-simon-thomas-etholwch-simon-thomas
Mae yna 32 diwrnod i fynd ar honna - 'ta dwi'n methu rhywbeth?
Na ti'n iawn Cai - mae annon 9.08 wedi methu hynny yn amlwg.
Post a Comment