Monday, October 19, 2015

Radio Cymru a Carwyn Jones

Dwn i ddim os mai fi ydi o, 'ta oes yna rhywbeth yn amhriodol am ymddangosiadau Carwyn Jones ar y Bib yn ddiweddar?  Ymddangosodd 'ein hannwyl Brif Weinidog' (a benthyg term Gwilym Owen) ar Raglen Dylan Jones y bore 'ma i drafod y ffrae wneud rhyngddo a Stephen Crabb.  Cafodd gwpl o gwestiynau bach digon syml a di niwed gan Dylan Jones, cyn i'r ddau fynd ati i sgwrsio am rygbi.  Dwi'n eithaf sicr mai dyma'r ail waith i hyn ddigwydd tros yr wythnosau diwethaf - cyfweliad gwleidyddol bach hawdd yn troi yn gyfle i Carwyn gymryd arno i fod yn un o'r hogia (neu'r bois efallai) trwy baldaruo am chwaraeon.  

Rwan wnaeth Dylan Jones ddim holi gwestai nesa'r rhaglen - Gareth Davies - am ei ddamcaniaethau ynglyn a materion gwleidyddol y dydd ar ol dweud ei bwt am Bencampwriaeth Rygbi'r Byd.  Mae Gareth yn gwybod ei stwff am rygbi, hyd y gwn i dydi o ddim yn gwybod rhyw lawer am wleidyddiaeth.  Dydi Carwyn Jones ddim yn gwybod llawer am rygbi na phel droed chwaith - beth ydi pwrpas ei holi am y pynciau hynny? 

'Dwi'n gwybod bod BBC Cymru'n hapus bod Carwyn wedi dechrau cymryd diddordeb ynddyn nhw yn fwyaf sydyn, ac efallai eu bod nhw'n teimlo'r angen i ddangos eu diolchgarwch iddo trwy lobio cwpl o gwestiynau hawdd i'w gyfeiriad a gadael iddo baldaruo am chwaraeon.  Ond mae gen i ofn mai faint bynnag o actio'r ci bach ffyddlon ddaw o gyfeiriad BBC Cymru, bydd Carwyn yn colli diddordeb ynddynt yn syth ar ol Etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  

3 comments:

Anonymous said...

yawn

Anonymous said...

Ai Dylan Jones ei hun fuasai'n gyfrifol am benderfynu'r cynnwys ? Gwn ei fod wedi gwneud gradd mewn gwleidyddiaeth yn y coleg, felly nid yw'n ffwl ei hun. Pwy yw golygydd y rhaglen ?

Bwlch said...

Be sydd trist ydi gofynnwch i mwyafrif o poblogaeth Cymru pwy ydi Carwyn Jones a na fydda nhw dim syniad. Dyna yr effaith arweinyddol mae wedi cael a'r y gwlad am dros 6 mlynedd! Roeddwn deall fod dyn y cefndir ond mae Prif Wenidog y papur wal!