Mae'r sgwrs ynglyn a'r hyn ddylai ddigwydd yn dilyn yr etholiad Cynulliad eisoes wedi dechrau - er ein bod misoedd maith i fynd rhagddynt cyn yr etholiad. Mae'n sicr nad Llafur fydd yn llywodraethu am byth - mae hyd yn oed llywodraethau sy'n perfformio'n dda yn syrthio yn y diwedd - record ddi dor o fethiant sydd gan Lafur Cymru. Dydi hi ddim yn glir os mai yn 2016 y bydd hynny'n digwydd - ond dyna pryd y dylai ddigwydd.
O safbwynt y Blaid mae yna hierarchiaeth o bosibiliadau. Dwi'n eu rhestru nhw isod.
Yr ail beth gorau allai ddigwydd fyddai llywodraeth lleiafrifol Plaid Cymru.
Y trydydd peth gorau fyddai llywodraeth glymblaid o dan arweiniad Plaid Cymru.
Ond beth petai Llafur efo mwy o ACau a Phlaid Cymru, ond ddim digon i ffurfio llywodraeth - yna beth wedyn? Mae nifer yn teimlo na ddylai'r Blaid byth gadw Llafur mewn grym - gweler yma er enghraifft.
Mae yna resymeg etholiadol y tu ol i'r ddadl yma. Mi fydd y Blaid wedi bod wrthi am fisoedd yn tynnu sylw at record alaethus Llafur mewn llywodraeth -record sydd gyda'r gwaethaf yn Ewrop. Gallai mynd i lywodraeth efo nhw wedyn ymddangos yn rhagrithiol.
Serch hynny fyddwn i ddim yn cyn belled ag i wrthod y posibilrwydd yn llwyr. Tra bod Llafur wedi methu ym mhob maes bron - y tri prif fethiant ydi iechyd, addysg a datblygu'r economi. Byddai'n anghyfrifol caniatau i Lafur gael y tri phortffolio yna am bum mlynedd arall i wneud llanast pellach ohonynt, os oes unrhyw ffordd o osgoi hynny. Y tal y dylid ei godi am glymbleidio efo Llafur ydi'r tri portffolio yna - dim llai. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell darpariaeth na'r shambyls parhaus a pharhaol sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Os na fyddai hynny yn dderbyniol i Lafur gallant ddewis rhwng glymbleidio efo UKIP neu'r Toriaid, neu geisio rhedeg llywodraeth leiafrifol. Go brin y byddant yn gwneud yn waeth na maent wedi ei wneud hyd yn hyn.
3 comments:
Paid poeni fydd na digon o thickos yn rhoi 30 sedd iddyn nhw oherwydd bod corbyn yn mynd I newid y byd
Dyna ydi agwedd Plaid Cymru. Thickos neu donkeys ydi pob plydeiswyr sydd ddim yn ei cefnogi nhw.
Nid ydwyf yn aelod o Blaid Cymru I fwynhau bod mewn gwrtblaid. Dwi am ein gweld mewn Llywodraeth. Mae yn hollol anheg I ofyn am bleidleisiau pobl ac yna gwrthod y cyfle I fod yn ran o lywodraeth. Cytunaf gyda chdi, y dylid mynnu y swyddi cywir, ond mae datgan nawr y byddem ond yn fodlon gweithredu fel gwrthblaid, os nad ni yw y Blaid fwyaf yn ffwlbri.
Post a Comment