Serch hynny mae ei hymateb yn ddiddorol - nad ydi Golwg yn gynrychioladol o'r wasg ehangach ac nad ydi newyddiadurwyr Cymraeg yn gynrychioladol o newyddiadurwyr yn gyffredinol. Rwan mae hi'n bosibl bod Janet yn darllen Cymraeg yn ddigon da i ddarllen Golwg, a'i bod wedi dod i'r casgliad bod ymdriniaeth yr wythnosolyn cyfrwng Cymraeg o faterion y dydd yn sylfaenol wahanol i ymdriniaeth gweddill y wasg. Dydi hi erioed wedi dangos gallu o unrhyw fath i gyfathrebu yn y Gymraeg hyd y gwn i.
Ar y llaw arall efallai mai'r unig beth mae yn ei wybod am Golwg ydi ei gyfrwng a'i bod yn cymryd bod yna rhywbeth yn sylfaenol wahanol am rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg. Rhagfarn yn hytrach na barn fyddai hynny wrth gwrs.
No comments:
Post a Comment