Tuesday, July 09, 2013

Rod Richards yn ymuno ag UKIP

Nid UKIP ydi fy hoff blaid wrth gwrs, ond mae'n debyg y dyliwn gydymdeimlo efo ei haeodau ar y datblygiad diweddaraf yn ei hanes - Rod Richards yn ymaelodi.



Nodweddwyd cyfnod Rod fel Tori gan gyfres o sgandalau tabloid bisar, digwyddiadau rhyfedd efo canfaswyr Toriaidd ar ei stepan drws, cam ddefnydd o alcohol, ymddangosiadau lliwgar ar lawr y Cynulliad, ffraeo mewnol efo'i gyd Doriaid ac ati.  Yn wir etholiad San Steffan yn 1997 ac etholiad Cynulliad 1999 - y cyfnod lle'r oedd Rod yn gwneud y mwyaf o argraff yn y papurau - oedd y gwaethaf yn hanes etholiadol y Toriaid yng Nghymru.

Gobeithio na wnaiff lwyddo i wneud i'w blaid newydd yr hyn a wnaeth i'w hen un. 

5 comments:

Anonymous said...

Gobeithio y bydd yn llwyddo i wneud i'w blaid newydd yr hyn a wnaeth i'w hen un?

Anonymous said...

Rod & Mountbatten , pan gafodd Mountbatten ei ladd yn Donegal , roedd Rod yn uchel swyddog yn Military Intelligence .

Doedd Mr.Richards, ddim yn gwybod bod Louis , yn y Weiniaeth y diwirnod hwnnw a chyfrifoldeb Military Intelligence oedd hi i ofalu am y teulu brenhinol yn y tamed yna'r byd.

Daeth Rod i gredu fod elfennau yn Special Branch & MI5 yn gwybod fod yr IRA am ladd wncwl Carlo ond bod nhw am i hynny ddigywydd er mwyn de-ralio y broses heddwch .

Mawr a niferus oedd y celynion wnaeth Rod yn Ulster, ac ma fe o'r farn fod y celynion hynny eisiau fe mas o'r Blaid Geidwadol a dyna paham gafodd ei wneud yn fethdalwr am swm eitha pitw oedd yn ddyledis i Whitbread , cwmni oedd yn cyfrannu'n hael iwan i'r Toris.

Naill ai fod yna gynllwyn yn ei erbyn neu ei fod yn ddyn uffernol o anlwcus.

Anonymous said...

Nid oedd proses heddwch yn bod yn Ulster yn 1979. Lladdwyd nifer o filwyr yn Warrenpoint ar yr un dydd a Mountbatten.

Anonymous said...

Roedd yna broses heddwch - tawel yn 1979 - ail adrodd stori adroddwyd i mi gan Rod

Anonymous said...

Taflen UKIP newydd gyrraedd acw (Benllech) - Taflen yr ymgeisydd Nathan Gill. Hon wedi ei hargraffu gan

Harry Broadley & Sons
Kingsway Printing Works
Kingsway
Goole
North Humberside
DN14 5HE

Argraffwyr yr ynys ddim digon da Nathan ?