Wednesday, July 17, 2013

David Jones - helpar bach y Blaid Lafur

Siomedig iawn oedd datganiad Danny Alexander ynglyn ag ymateb y llywodraeth i Adroddiad Silk heddiw.  Mae'n ymddangos bod ymgynghoriad am fod ynglyn ag effaith y mater cymharol fach o ddatganoli'r dreth gwerthiant tai - y stamp.  Byddwch yn cofio i adroddiad gwreiddiol Silk awgrymu datganoli sleisen fawr o'r cyfrifoldebau codi treth -gan awgrymu y dylai'r llywodraeth ym Mae Caerdydd fod yn gyfrifol am godi tua chwarter ei chyllideb trwy gyfuniad o drethi - gan gynnwys rhan o'r  dreth incwm. 



Hyd yn oed os ydi'r dreth stamp yn cael ei ddatganoli yn y diwedd, mae'n dreth cymharol ddibwys sydd ddim yn codi swm sylweddol o arian. 

Rwan mae ymateb mwy llawn yn dod gan y llywodraeth ym Mis Medi - i fod.  Roedd yr ymateb i fod i ymddangos cyn diwedd gwanwyn eleni yn wreiddiol.  Mae'n debyg mai'r rheswm pam na wnaeth ymddangos ydi bod ffrae yn digwydd rhwng y Trysorlys a'r Swyddfa Gymreig - mae Danny Alexander yn ddatganolwr brwd wrth reddf, tra bod David Jones yn _ _ _ wel wrth ddatganolwr brwd wrth reddf.  Ym myd bach David Jones mae unrhyw ddatganoli yn ormod o ddatganoli.  Mae felly wedi cymryd misoedd i berswadio David i adael i'r mater cymharol ddibwys yma fynd  i ymgynghoriad. 

Mae'r blog yma wedi datgan dro ar ol tro yn y gorffennol y byddai datganoli pwerau trethu llawn yn newyddion drwg i'r Blaid Lafur yng Nghymru - ac yn wir gallai fod yn newyddion da i'r Toriaid Cymreig.  Mae hegemoni gwleidyddol Llafur yng Nghymru wedi ei sefydlu ar y ffaith eu bod yn gallu gwneud llawer o swn yn mynnu mwy a mwy o wariant cyhoeddus  heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb er mwyn codi'r arian sydd ei angen i wneud hynny.  Y peth diwethaf mae Llafur ei eisiau ydi i berthynas gael ei sefydlu rhwn gwariant cyhoeddus a threthiant.  Byddai perthynas o'r fath yn rhywbeth y byddai'r Blaid Lafur Gymreig yn ei gael yn anodd iawn.

Ond peidiwch a disgwyl i'r Blaid Doriaidd Gymreig weld y mater mewn ffordd rhesymegol.  Mae greddf naturiol y Toriaidd (pethau sy'n dod o Loegr yn dda / pethau sy'n dod o Gymru yn ddrwg)  yn eu rhoi mewn sefyllfa lle maent yn cynnal hegemoni'r Blaid Lafur Gymreig.

David Jones a'i debyg oddi mewn i'r Blaid Doriaidd ydi ffrindiau gorau'r Blaid Lafur Gymreig.

No comments: