Monday, July 08, 2013

Cip bach dros y dwr

Mi fyddwn weithiau yn cael cip ar wleidyddiaeth ein cymydog agosaf - Iwerddon.  Cip hynod frysiog fyddwn yn ei chael heddiw.

Yn ol pol Millward Brown diweddar mae cefnogaeth y pleidiau fel a ganlyn - Fianna Fail, 29%, Fine Gael 26%, Llafur 8%, Sinn Fein 19% ac Annibynnol 19%.  Mae polau eraill diweddar yn cadarnhau'r patrymau cyffredinol yma.

Rwan y tri pheth trawiadol ydi bod cefnogaeth Fianna Fail - y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Iwerddon am ddegawdau lawer ond a welodd eu cefnogaeth yn syrthio trwy'r llawr yn yr etholiad diwethaf - wedi dechrau ail ddringo, bod Llafur wedi colli llawer iawn o gefnogaeth a bod Sinn Fein gyda mwy o gefnogaeth yn y Weriniaeth na maent wedi ei gael ers 1918.  Mae'n anodd troi canrannau i seddi yn system etholiadol yr Iwerddon, ond mae'r gyfundrefn yn tueddu i fod yn fwy caredig wrth bleidiau sydd a chefnogaeth gyson ar hyd y Wladwriaeth megis FF, neu FG nag wrth bleidiau megis SF sydd a'i chefnogaeth wedi ei ganoli o gwmpas a ffin ac yn ardaloedd dosbarth gweithiol Dulyn.  Ond gellir darogan y byddai'r dosbarthiad yn debyg i'r canlynol - FF - 55, FG - 48, Llaf - 4, SF - 27 ac Eraill - 24.

Yr hyn sy'n drawiadol am y ffigyrau yma ydi bod na dau lywodraeth posibl sydd yna - FF a FG neu FF a SF.  Dydi'r cyfuniad FG a SF ddim yn wleidyddol bosibl.  Mae'r ddau bosibilrwydd yn ysgytwol - mae hanes gwleidyddol y Wladwriaeth wedi ei nodweddu gan hollt sy'n mynd yn ol i'r Rhyfel Cartref - hollt mae FF a FG yn ei chynrychioli.  Mae'r syniad o blaid oedd tan yn ddiweddar efo'i holl gefnogaeth yn y Gogledd ac oedd wedi ei chlymu i'r IRA mewn llywodraeth hyd yn oed yn fwy ysgytwol.  Nid oedd SF hyd yn oed yn gallu ennill un sedd yn y Weriniaeth hyd 1997 ac roedd hynny mewn etholaeth oedd wedi ei hamgylchu ar dair ochr gan Ogledd Iwerddon.  Os bydd ffigyrau'r polau diweddaraf yn cael eu hailadrodd mewn etholiad byddant naill ai mewn llywodraeth neu'n arwain yr wrthblaid erbyn 2016.

Does yna ddim gwersi i Gymru na'r unman arall ar un olwg - Iwerddon ydi Iwerddon - mae gwleidyddiaeth etholiadol yno yn anarferol iawn  o ran natur.  Neu o leiaf does yna ddim gwersi ag eithrio un - o dan rai amgylchiadau gall y tirwedd etholiadol newid yn syfrdanol o gyflym.  Ychydig iawn o newid a gafwyd yn y Weriniaeth am 80 neu 90 o flynyddoedd - ond newidiodd amgylchiadau yn gyflym  - a newidiodd y tirwedd etholiadol yr un mor gyflym.

5 comments:

Anonymous said...

Felly efallai fydd Cymru'n las ymhen https://www.google.com/recaptcha/api/image?c=03AHJ_VuuHE1XT4DFEJuByhG_Knd1Gn36rfCTZSa8wfgXca2H9UNyKuhXyISudZYVzTo6Ab2D2-ZjpxkjWhkA40x_2JX7Ou48lyHIUMnhYdEzQ7qqVazzBlxmGVLj0Vdiyz-SRcN2b2miZVCD51QpiFeyCjdteo8uBKQychydig flynyddoedd?1

Anonymous said...

O damnio...unwiath eto....

Felly efallai fydd Cymru'n las ymhen ychydig flynyddoedd?!

Anonymous said...

Newidiodd gwleidyddiaeth Cymru'n sydyn iawn yn 1999. Yn anffodus, fe wnaeth y map gwleidyddol droi'n ol yn goch yn araf deg byth ers hynny.
Pam ? gorbwyslais ar 'gydweithredu' a 'consensws' yn y bae, yn hytrach na 'chwalu' ac 'ymladd' Plaid Lafur De Cymru.

Cai Larsen said...

Mae yna fwy o ddamcaniaethau cynllwyn na sydd 'na o bobl yng Ngogledd Iwerddon.

maen_tramgwydd said...

Dwi'n tueddu cytuno a Di-enw 4.41

Cafodd y Blaid gyfle anhygoel yn 1999, ond methodd gymryd mantais ohono.

Cynllun Llafur oedd datganoli, a'i brif bwrpas oedd cyfyngu cenedlaetholdeb yn yr Alban ac yng Nghymru. Hyd yn hyn mae wedi llwyddo yma.

Efallai daw ychydig mwy o ddatganoli i Gymru yn ara deg tra bo'r Blaid yn 'cyd-weithio' neu pregethu r'un polisiau, a Llafur, ond bydd ein gwlad yn llithro i'r llaid fwyfwy yn ddyddiol wrth i hynny ddigwydd.

Blino wnaiff y Cymru ar a broses yn y diwedd, a blino wnaiff llawer o gefnogwyr PC hefyd.

Os yw'r Blaid am lwyddiant etholiadol, rhaid iddi drechu Llafur, yn hwyr neu hwyrach. D'oes dim dewis.

Mae'r hi wedi colli tir i Lafur (ac i'r Toriaid) ac wedi colli'r ffordd. Er bod ganddi arweinydd newydd atyniadol a gweithgar dydi'r cyfeiriad allanol ddim wedi newid ryw lawer. Efallai daw gwaith caled a dipyn o lwyddiant mewn etholiadau o bryd i'w gilydd, ond ofnaf na fydd hynny yn ddigon.

Os bydd newid trawiadol cyfansoddiadol yn digwydd yn ein gwlad, tebyg yw na nid y Blaid fydd yn gyfrifol, ond ffactorau neu digwyddiadau allanol i Gymru, yn yr Alban, ac/neu yn Lloegr.