Monday, July 01, 2013

Cadw pethau yn y teulu

Mae'n un o nodweddion rhyfedd y Blaid Lafur Brydeinig bod cymaint o'i gwleidyddion yn perthyn i'w gilydd - y Benns, y Millibands, Ed Balls ac Yvette Cooper ac ati.

Mae hyn yn arbennig o wir am Gymru fach - meddyliwch am y peth:

Neil a Glenys Kinnock
Huw Lewis a Lynne Neagle
Rhodri a Julie Morgan
Naz a Gwion Malick
Alun a Tal Michael

Rwan does yna ddim byd o'i le fel y cyfryw mewn perthnasau yn gwneud yr un gwaith - mae'n digwydd ym mhob maes - o gigyddion i ffermwyr i athrawon i fecanics. Yr hyn sy'n gwneud dyn yn anghyfforddus pan mae'n digwydd efo gwleidyddion dro ar ol tro ar ol tro ydi bod mynd ymlaen yn wleidyddol oddi mewn i blaid yn dibynnu ar aelodau eraill o'r blaid honno, ac mae aelodau plaid yn agored i ddylanwad gan wleidyddion proffesiynol. O ganlyniad mae'r cwestiwn yn codi os ydi pawb yn cael yr un cyfle - os ydi pawb yn cael cyfle teg?

Mae enwebiaeth Tal Michael wedi ei nodweddu gan benderfyniad rhyfedd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i beidio a gadael i'r ffefryn lleol fynd ymlaen i hystings. Rwan does yna neb yn awgrymu am eiliad bod tad Tal wedi defnyddio ei ddylanwad i sicrhau'r deilliant yma. Ond mae'n bosibl dylanwadu heb wneud hynny'n fwriadol. Mae adnabyddiaeth ynddo'i hun yn gallu dylanwadu yn ddiarwybod i'r sawl sy'n dylanwadu. Ac mae'n debyg gen i y bydd amheuaeth o ddylanwad felly yn gysgod tros ymgeisyddiaeth Tal Michael oni bai bod Pwyllgor Gwaith y Blaid Lafur Gymreig yn cyhoeddi'r rhesymau pam na chafodd John Chorlton sefyll. Ond rhywsut dwi ddim yn rhagweld y bydd hynny'n digwydd.

4 comments:

Anonymous said...

Croeso i'r byd go iawn - mae hyn yn digwydd ym mhob maes! Ond, yn cytuno'n llwyr bod unrhyw broses sy'n ddibynol ar ethol, yn hytrach na phenodi rhywun angen bod yn hollol dryloyw. Mae 'na atebion ar goll gan Llafur Cymru i'r cwestiwn pam nad oedd John Chorlton ar y rhestr. Digon o luchio baw a honiadau hyll, dim digon o eglurhad nag atebolrwydd gan Llafur.

Anonymous said...

a fiant o'r Larsens sy'n cael eu cyflogi (ac wedi cael eu cyflogi) gan Gyngor Gwynedd tybed.......

Anonymous said...

Methu gweld fod y ddadl yma'n dal dwr. Gwlad felly yw Cymru

Anonymous said...

Mae'n werth i chi edrych ar CV Tal Michael ar ei wefannau. Gadawaf i'r dyn ei hun adrodd ei hanes. Yn 1997 roedd Tal yn gweithio :

“.. for the Labour Front Bench in the run up to the 1997 General Election..”
“It was only in 1997 with a Labour Government secured that I turned to thoughts of a career. ”

Yn llythrennol dros nos daeth Tal, a oedd yn 27 oed yn 1997, yn..

'Head of Corporate Policy. London Borough of Barnet'. Yna..
'Assistant Chief Executive (Policy & Communications) London Borough of Hackney'. Yna..
'Strategic Director Policy, Partnerships & Governance. Doncaster MBC'. Ac yn olaf..
'Chief Executive. North Wales Police Authority' ar gyflog o £85,000 pa. Anhygoel!

Sawl un tybed sy'n gweithio ym myd llywodraeth leol sy'n cychwyn gyrfa ar lefel Uwch Swyddog ?

Sut mae posib gwneud hyn heb unrhyw brofiad yn y maes ?

Pwy aflwydd ddaru benodi Tal Michael yn Brif Weithredwr Heddlu'r Gogledd, gan wybod nad oedd ganddo ddiwrnod o brofiad yn y maes arbennig hwn ?

Dwi ddim yn gallu deall y peth. Fedar rhywun plis fy helpu gyda'r cwestiynau uchod?

Hogyn o'r wlad