Mae yna rhyw dueddiad - ac nid o gyfeiriad gelynion y Blaid yn unig i ddilorni record etholiadol Ieuan Wyn Jones. Roeddwn yn siarad efo rhywun a ddylai wybod yn llawer gwell ar Ynys Mon y diwrnod o'r blaen oedd yn fy sicrhau (yn gwbl gyfeiliornus) i fwyafrif Ieuan syrthio ym mhob etholiad ers talwm iawn. Efallai y dylai'r sawl sy'n llafurio oddi tan yr argraff yma gymryd y drafferth i edrych ar ganlyniadau etholiadau go iawn.
- Dydi'r Blaid erioed wedi ennill etholiad Cynulliad na San Steffan ar Ynys Mon heb enw IWJ ar y papur pleidleisio.
- Does yna neb yn hanes yr etholaeth - ar lefel San Steffan na Chynulliad - wedi dod yn agos at yr 18,580 pleidlais gafodd Ieuan yn etholiad San Steffan 1987. 14,874 ym mlwyddyn penllanw Llafur yng Nghymru -1966 - ydi'r mwyaf o bleidleisiau gafodd Cledwyn Hughes erioed.
- 1966 oedd yr unig dro i Cledwyn gael mwy nag hanner y bleidlais yn Ynys Mon. Ieuan ydi'r unig berson arall i wneud hynny ers 1945. (1999 Cynulliad). Dim ond tri oedd yn sefyll yn etholiad 1966.
- Y ganran isaf o'r bleidlais i Ieuan ei chael fel enillydd oedd 37.1% (Etholiad Cyffredinol 1992). Mae hyn yn uwch na'r ganran uchaf i Albert Owen ei chael erioed (35% 2001). Ar yr un achlysur pan gollodd (1983) cafodd yr un ganran a llawer mwy o bleidleisiau na gafodd Albert Owen pan enillodd yn 2010. Yn wir cafodd Ieuan fel collwr fwy o bleidleisiau na gafodd Albert Owen erioed fel enillydd.
- Dim ond Cledwyn Hughes sydd wedi ennill mwy o etholiadau ( mewn hanes modern) na Ieuan. (7 i 6). Enillwyd mwy o etholiadau gan Ieuan na Megan Lloyd George (5).
- Does yna neb wedi dod yn agos at y mwyafrif gafodd Ieuan yn etholiad y Cynulliad 1999. Cledwyn Hughes yn ol ym 1964 (mwyafrif 6,537 / 23.1%) ddaeth agosaf at fwyafrif Ieuan o 9288 - 29.5% yn yr etholiad hwnnw. Ah - erbyn edrych yn iawn mae yna un canran fwyafrifol uwch - 1910.
Ar sawl cyfri, Ieuan ydi'r gwleidydd mwyaf llwyddiannus yn hanes etholiadol Ynys Mon.
4 comments:
Darllen diddorol dros ben. Y dadansoddiad ffeithiol, safonol, trwyadl rydym yn ei ddisgwyl gan Blogmenai. Diolch amdano!
Ffeithiau diddorol i godi calon, a sylfaen gadarn i Rhun adeiladu arni ar yr 2il o Awst
Ie, pwyntiau difyr
Ie ond wnaeth e roi'r gyllell yng ngefn Wigley - yr arweinydd gore gafodd plaid erioed.
Post a Comment