Wednesday, July 24, 2013

Diffyg sylw cyfryngol i is etholiad Ynys Mon

Rwan peidiwch a chamddaeall - dydw i ddim yn cwyno gormod am unwaith - mae etholiadau yn gweithio'n well o safbwynt y Blaid (yn y Gorllewin a'r Gogledd Orllewin o leiaf) pan mae hi'n frwydr syml rhymgddi hi a'r pleidiau unoliaaethol heb ymyraeth cyfryngol.  Mae'r cyfryngau yn rhoi proffeil i ymgeiswyr sy'n gwneud dim i godi eu proffeil eu hunain.

Ond mewn difri ond tydi'r diffyg sylw cyfryngol yn anhygoel?  Mae is etholiad Ynys Mon yn hynod bwysig i'r graddau bod mwyafrif llwyr i Lafur yn y fantol.  Meddyliwch yr hw ha fyddai yna gan y cyfryngau Prydeinig petai'n is etholiad San Steffan gyda chytbwysedd mwyafrifol yn San Steffan yn y fantol.

Mae'n dystoolaeth - os bu tystiolaeth erioed - nad yw'r cyfryngau Cymreig yn cymryd y Cynulliad wirioneddol o ddifri hyd heddiw.

5 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Does gennym ni'r un gwasanaeth newyddion sydd yn ymdrin â Chymru ar ei phen ei hun, yn unig. Mae gennym ni nifer o wasanaethau sy'n ymdrin a rhannau o Gymru, ac nifer sy'n ymdrin â Chymru fel rhan o Brydain. Rwy'n credu bod gwasanaeth newyddion sy'n ymdrin â Chymru gyfan a Cymru yn unig yn bwysig iawn os yw Cynulliad yn mynd i gael y sylw a'r archwilio y mae'n ei haeddu.

Mae'r Western Mail yn honni bod yn bapur i Gymru gyfan ond mewn gwirionedd papur i dde-ddwyrain Cymru a Sir Gar ydyw. Beth bynnag ei effaith ar y Cynulliad mae'r is-etholiad y tu hwnt i radar y rhan fwyaf o'u darllenwyr.

Mae un o gyn-newyddiadurwyr y BBC yn sefyll, ac yn debygol iawn o ennill. Efallai nad ydyn nhw eisiau rhoi gormod o sylw i'r peth rhag ofn i Lafur eu cyhuddo nhw o ogwydd tuag at Plaid Cymru (fel y gwnaethon nhw pan gyhoeddodd y BBC stori fer yn dweud bod Rhun yn sefyll). Dyw'r BBC ddim y math o ddarlledwr sy'n tueddu i adrodd ar hwrli bwrli dyddiol ras etholiadol unigol beth bynnag.

Mae Ynys Mon o fewn dalgylch y Daily Post ond dyw'r Cynulliad ei hun ddim. Rywbeth i goridor yr M4 ydyw ym marn nifer o'i darllenwyr.

Ar ben hyn i gyd mae'r ffaith bod Rhun yn ffefryn clir i ennill, a nad yw Llafur wedi rhoi cymaint a hynny o sylw i'w hymgyrch nhw. Pe ba'n ras llawer agosach efallai y byddai yna fwy o sylw i'r peth.

Vaughan Roderick said...

Er gwybodaeth - fe fydd 'na ddadl 45 munud o hyd rhwng yr ymgeiswyr ar Radio Wales fore Sul. Mae cynulleidfa Radio Wales oddeutu 100,000 bryd hynny? Digon da?

Anonymous said...

Cytuno'n llwyr a IMJ. Mae'r BBC ofn y Blaid Lafur yng Nghymru ac maer'r hen feddylfryd lled impirealaidd dal yn ddwfn yng ngwreiddiau y sefydliad (bron i raddau yr hen undeb sofietaidd lle mae disgwyl i'r cyfryngau adlewyrch barn y blaid sydd y llywodraethu). Diddorol wir oedd gweld stori y babi brenhinol, lle bu'n brif stori ar y newyddion teledu, radio a'r we ar BBC Cymru (a BBC Lloegr a Gogledd Iwerddon) am ddau ddiwrnod llawn- tra bod y stori honno tua pumed i lawr y rhestr ar BBC yr Alban o fewn llai na diwrnod.

Cai Larsen said...

Mi'r oedden i'n sisrad efo boi (Owain dwi'n meddwl oedd ei enw) ddoe sy'n gweithio i ITV oedd wedi dod i fyny oherwydd yr etholiad - dwi ddim yn gwybod am faint - dim llawer mi dyniwn.

Fel mater o ddiddordeb Vaughan, faint sydd wedi bod ar Ynys Mon ar ran y Nib hyd yn hun?

Cai Larsen said...

Sori am y teipos u hod - dwi'n gwneud hyn ar ffon ar long.