Thursday, July 25, 2013

Capmwaith diweddaraf Gwilym Owen

Dydi bisar ddim yn air digon cryf rhywsut i ddisgrifio colofn ddiweddaraf Gwilym Owen yn Golwg.

Mae dyn yn rhyw gymryd mai'r rheswm bod Golwg yn talu i Gwil am ei druth pythefnosol ydi oherwydd eu bod (am resymau sy'n amlwg yn unig i olygydd Golwg) eisiau iddo fynegi ei farn am y Byd a'i bethau - neu a bod yn fwy manwl am Gymru a'i phethau.  Efallai bod y farn honno yn ymdebygu i rhywbeth wedi ei lusgo o Oes y Cerrig yn amlach na pheidio, ond dyna mae Golwg ar ei ol.



Mae ymdrech y rhifyn cyfredol yn ymwneud bron yn llwyr a phroblem fach gafodd Gwil ei hun - sef cael ei ddychanu ar raglen radio Tudur Owen (sgwn i os ydyn nhw yn perthyn?).  Os dwi'n cofio yn iawn ymddangosodd deinasor bach o'r enw Gwilym ar raglen Tudur  ac roedd gan y deinasor lais tebyg iawn i un Gwilym Owen.  Penderfynodd teulu (dychmygol) Bron Meirion ei fabwysiadu, ac yn naturiol ddigon roedd rhaid rhwbio ei drwyn yn ei faw pob hyn a hyn - er mwyn sicrhau ei fod yn ffit i aros yn y ty.

Wnaeth Gwil ddim cymryd hyn oll yn dda - mynodd ymddiheuriad gan y Bib - ac yn gwbl anhygoel mi gafodd un - yn ol ei dystiolaeth ei hun o leiaf.

 Rwan mae yna rhywbeth yn ddigri yn hyn oll - y boi sy'n ei tharannu hi am rhywun neu'i gilydd yn rheolaidd, sy'n galw am sacio hwn a dilorni'r llall pob cyfle gaiff yn ofnadwy, ofnadwy o groen denau ei hun yn wyneb mymryn o ddychan di niwed.  Ond o ddifri - ydi'r Bib yng Nghymru mor lleddf a llwfr nes eu bod yn ymddiheuro i bobl sy'n wrthrychau mymryn o ddychan ysgafn a di niwed mewn eitem gomedi ar y radio.  Neu efallai mai gwedd arall ar barchedig ofn y Gorfforaeth yng Nghymru o'r Blaid Lafur sydd ar waith.  Dydyn nhw ddim i fod i wneud sbort  am ben eu propogandwyr hunan bwysig.

ON - Gwil - fy neinasor bach sensitif i, os ti'n darllen  - os ti byth yn dod yma i chwilio am ymddiheuriad, gwna'n siwr nad wyt ti'n cachu ar y llawr neu mi fyddaf yn rhwbio dy drwyn ynddo nes ei fod yn ddu, las, frown.  O - a fyddi di ddim yn derbyn dy ymddiheuriad chwaith.  Dallt?

8 comments:

George Alexander Louis a'r Rocyrs said...

Wps, capmwaith.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n mynd i reportio ti i'r RSPCA am greulondeb i ddeinasor bach di niwed

Cai Larsen said...

Does yna ddim arall wnei di wir Dduw Alwyn - waeth i chdi heb a trio rhesymu efo deinasor - dydyn nhw'n gwrando dim - dim ond baeddu a baeddu a baeddu. Os ti ddim yn rhoi dy droed i lawr mi gei di dy gladdu o dan fynydd o gachu.

Anonymous said...

Lle alla i glywed y rhaglen yma - ydi o ar yr Iplayer neu Youtube?. Mae'n bwysig bod cyn gymaint ohonom a phosib yn cael clywed y rhaglen er mwyn sefydlu os oes gan Gwil bwynt.

Cai Larsen said...

Gofyn i Gwil - mae ganddo fo CD o'r rhaglen yn ol Golwg.

Anonymous said...

"ydi'r Bib yng Nghymru mor lleddf a llwfr nes eu bod yn ymddiheuro i bobl sy'n wrthrychau mymryn o ddychan ysgafn a di niwed mewn eitem gomedi ar y radio? " Wrth gwrs eu bod nhw.

Anonymous said...

Mae Golwg yn rho colofn iddo am ei fod yn creu ymateb fel hyn, ac mae Golwg yn cael hysbyseb am ddim yn bythefnosol ar un o flogiau mwyaf poblogaidd Cymru. Yr un rheswm a mae'r Indy yn cael colofnwyr adain dde i wylltio eu darllenwyr adain chwith i fewn i ymateb a vice vera efo'r Mail.a Express.

Christina said...

This is gorgeous!