Tuesday, December 18, 2012

Oes gan Simon Brooks bwynt ynglyn a Sir Gaerfyrddin?

Dwi ddim yn awgrymu am ennyd na ddylid buddsoddi yn y Gymraeg yn y sir wrth gwrs (dwi ddim yn siwr os mai dyna beth oedd Simon yn ei awgrymu chwaith a dweud y gwir), ond mae'r graffiau isod sy'n dangos strwythur oedran y sawl yn siarad y Gymraeg.  Maent wedi eu cymryd o safwe Comisiynydd y Gymraeg ac maent yn awgrymu bod problemau Sir Gar yn wahanol i rai'r rhan fwyaf o siroedd eraill - yn arbennig felly y rhai Cymreiciaf.

Fel Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot, dwy sir gyfagos, mae'r canrannau o bobl mewn oed sy'n siarad y Gymraeg yn llawer uwch nag ydi rhai oedolion ieuengach.  Mae hyn yn gwbl groes i batrwm Gwynedd, Mon a Cheredigion (i raddau llai).  Mae hefyd yn wahanol iawn i'r patrwm yn siroedd y De Ddwyrain.  Mae hyn yn ei dro yn awgrymu bod yna broblemau sylfaenol o ran trosglwyddo'r Gymraeg o un genhedlaeth i'r nesaf yn y De Orllewin, tra bod y trosglwyddiad hwnnw yn hynod effeithiol mewn llawer o siroedd eraill. 

Efallai bod cefnogi'r iaith yn y De Orllewin yn gofyn am strategaeth wahanol i'r un sydd ei hangen yn y rhan fwyaf o Gymru - ac yn wir bod angen strategaethau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad.

42 comments:

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n cytuno'n llwyr efo dy frawddeg olaf.

Mae angen polisi ymbarél dros Gymru gyfan i warchod / amddiffyn / achub yr iaith a nod genedlaethol i gynyddu'r Gymraeg ym mhob twll a chornel o'n gwlad.

Ond mae angen strategaethau gwahanol yng ngwahanol rannau o Gymru.

Gwirion yw disgwyl i'r un strategaeth gweithio yng Ngwent a Gwynedd. Mae dadl y Siop Tsips yng Nghas-gwent yn un sydd ag elfennau dechau - y drwg yw ei fod yn cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio a disgwyl gwasanaeth Cymraeg yn siop tsips Caernarfon o dan Strategaeth Cenedlaethol.

Ond mae angen mwy na strategaethau gwahanol yng Nghymru, mae angen rai yng Ngwynedd hefyd. Ysgolion naturiol Saesneg, i bob pwrpas, yw Ysgolion Tywyn, Ysgol Ardudwy ac Ysgol y Gader bellach. Mae angen Ysgol benodedig Cymraeg yn ne-Gwynedd!

Mae polisi Gwynedd o gogio bod strategaeth iaith Arfon yn gweithio trwy gydol y sir yr un mor hurt â lol y Bae bod yr un polisi iaith yn ddigonol i Wynedd a Gwent.

Cai Larsen said...

Dwi'n cymryd dy fod wedi edrycc ar y canrannau o blant ysgol sy'n siarad Cymraeg yng Ngwynedd o gymharu a siroedd sydd yn dilyn y drefn ti'n ei hawgrymu.

Cai Larsen said...

A dweud y gwir dadlau tros unolisi tros y wlad i gyd wyt ti ym maes addysg.

Cai Larsen said...

Dwi yn meddwl bod tua 47% o blant Ysgol y Gader yn siarad Cymraeg adref, 40% o blant Ardudwy a thua 25% o blant Tywyn. Dydyn nhw ddim yn naturiol Saesneg yn fy marn i.

HC said...

Beth ydi'r polisi iaith o ran cyfrwng yn yr ysgolion hynny ?
Mae'n un peth gwybod mai'r Gymraeg yw iaith y cartref, ond os yw'r ysgol yn rhoi dewis cyfrwng ar gyfer pynciau yn TGAU, a'r mwyafrif yn dewis y cyfrwng Saesneg, yna hawdd gweld sut mae'r Gymraeg yn mynd yn eilradd o fewn parth lle y dylai fod yn flaenllaw. Petai Ysgol Gymraeg yn cael ei sefydlu, ni fuasai'r dewis cyfrwng yno - ac unwaith oedd plentyn o fewn system, buasai'n parhau ei astudiaethau drwy'r Gymraeg. Unwaith y rhoddir dewis i riant , yna lleihau mae'r ffwrd Gymraeg.

Cai Larsen said...

HC - dwi'n deall dy bwynt - ond cymhara ffigyrau siRad Cymraeg plant ysgolion uwchradd Gwynedd a Chaerfyrddin.

Anonymous said...

Yn anffodus mae Ysgol Tywyn yn cael ei weld fel un Saesneg efo disgyblion yn fwriadol yn mynd yna o Bermo er mwyn osgoi Cymreictod Ysgol Ardudwy!! Mae angen cryfhau y polisi iaith yn Nolgellau a Thywyn a thybiwn i drosi Dolgellau i fod yn swyddogol Cymraeg

Alwyn ap Huw said...

menaiblog said...
A dweud y gwir dadlau tros un polisi tros y wlad i gyd wyt ti ym maes addysg.


Na! Os gofiaf yn iawn fwriad polisi Ysgolion Naturiol Cymraeg Gwynedd ym 1974 oedd dweud bod POB ysgol yn y sir yn ysgol "penodedig" Cymraeg, mae'r UNIG ddewis yng Ngwynedd oedd mynd i ysgol ag ethos tebyg i Ysgol Glan Clwyd neu Ysgol Rhydfelen.

Mae'n gwbl amlwg bod y polisi hwnnw wedi methu yn ysgolion arfordir Meirionnydd.

Gan fy mod yn byw yng Nghonwy roedd modd imi sicrhau bod fy mhlant yn derbyn addysg uwchradd Cymraeg; pe bawn wedi symud yn ôl i fy nghynefin ar ôl dechrau planta byddai dim modd imi sicrhau addysg debyg ar eu cyfer, lwc hap a damwain byddai'n pennu sawl pwnc a astudiasant trwy'r Gymraeg.

I ddefnyddio rhaniadau Dr Balsom, mae yna rywbeth hurt ar y naw mewn sefyllfa lle gallwn sicrhau addysg Gymraeg i fy mhlant yn British Wales a Welsh Wales ond nad yw'r fath sicrwydd am addysg Gymraeg cyflawn ar gael yn y Fro Gymraeg - o bobman!

Pe bai Gwynedd 1974 neu 1994 wedi dal ei thir a mynnu bod pob ysgol yn y sir yn benodedig Cymraeg ac mae'r unig ddewis oedd addysg Gymraeg; ysgolion Cymraeg byddid Ysgolion Ardudwy, y Gader a Thywyn hyd heddiw yn hytrach nag ysgolion lle mae modd osgoi'r Gymraeg yn gyfan gwbl.

Byddwn wrth fy modd pe bai Gwynedd wedi bod yn driw a pholisi '74 ac wedi bod yn ddigyfaddawd am addysg Gymraeg ym mhob un o'r ysgolion yn ei thiriogaeth.

Malu cachu, celwydd a ffugio yw pob ymgais i honni bod ysgolion arfordir Meirion yn "naturiol Gymraeg" -tydi nhw ddim - y maent yn annaturiol o Seisnigaidd o'u cymharu ag ysgolion Cymraeg Clwyd y Cymoedd a rhai o gatgoriau piser Dyfed! Ond mae eu ffug Cymreictod yn sicrhau bod gormod o blant CYMRAEG de Gwynedd yn cael addysg uniaith Saesneg, ond gwaeth byth bod dim modd i rai o blant arfordir Gwynedd caffael ar addysg Gymraeg cyflawn.

A'i drwg yw ymofyn bod bob ysgol yng Ngwynedd, ac eithrio Tywyn a Friars (os oes raid) mor benodedig Cymraeg a'r Creuddyn neu'r Gwynllyw?

Anonymous said...

Dyma broblem sy'n codi mewn sawl ardal - un neu ddwy ohonynt gyda statws 'dwyieithog'. Unwaith mae addysg uniaith Gymraeg ar gael i ddisgyblion, nid yw mudiadau fel 'RHAG' yn gallu ymgyrchu mor effeithiol. h.y. mae yna wahniaeth rhwng ysgolon lle nad yw'r Gymraeg ar gael mewn gwirionedd : Friars , Caergybi ayb ysgolion lle mae'r Gymraeg yn orfodol : Creuddyn, Glan Clwyd, rhai'r de, ac ysgolion lle mae'r Gymraeg ar gael i'r rhai sydd yn ei ddymuno , ond sy'n effeithio dim ar y rhai sy'n gallu ei osgoi.
Mae yna gategori prin arall hefyd, sef yr ysgolion sy'n cynnig ond ambell i bwnc drwy'r Saesneg. (Gwydd a maths, yn ddiwahan)

Anonymous said...

cytuno'n llwyr efo Alwyn, ffantasi ydy meddwl bod ysgolion glannau Meirion yn Gymraeg, mae nifer yn rhugl ar ol ysgolion cynradd ond yna'n mynd ar goll unwaith ant i'r Uwchradd. Mae angen newid pethau'n bendant a cael gwared o'r nonsens ysgolion dwyieithog ma. Ysgolion Cymraeg a dyna hi.

Cai Larsen said...

Sori Alwyn - ti'n dadlau bod angen geneud cyfundrefn sy'n dysgu'r Gymraeg i fwy neu lai pawb sy'n mynd trwyddi yn fwy tebyg i un sydd prin yn dysgu i60% siarad yr iaith (Caerfyrddin) -a hynny er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae'n ddadl bisar.

Alwyn ap Huw said...

A pha bryd rhoddais y geirda hwn i drefn addysg Gymraeg Sir Gaerfyrddin? Rwy'n cytuno mae piser yw cyfundrefn addysg Gymraeg Caerfyrddin, ei gwendid mwyaf yw'r un gwendid ac sydd yn cael ei amlygu yn ne Meirionnydd sef cogio bod addysg Gymraeg cyflawn ar gael pan nad ydy o. Trwy amddiffyn cyngor Gwynedd a gwrthod derbyn yr hyn sydd yn gwbl amlwg ar lawr gwlad Meirion - ti sy'n gwneud dadl biser a ti sy'n cefnogi trefn sy'n methu.

Cai Larsen said...

Yn ol y cyfrifiad mae 91% o blant 5-9 y sir ynsiarad y Gymraeg a 93% o 10 i 14. Wyt ti'n meddwl y byddai cael ysgolion dynodedig Saesneg yn gwella ar hyn?

Alwyn ap Huw said...

Os ydy 93% o blant Meirion yn gallu'r Gymraeg pam bod angen dysgu unrhyw bwnc trwy gyfrwng y Saesneg yn y sir? Y gwirionedd yr wyt ti'n rhy ystyfnig i dderbyn yw bod addysg uniaith Saesneg eisoes yn cael ei ddarparu yn Ne Gwynedd ac yn rhy aml i blant rhieni a fyddai'n dewis addysg Gymraeg cyflawn i'w plant os oeddynt yn mew mewn ardaloedd llai Cymraeg.

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.
Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.
Cai Larsen said...

Wyt ti'n meddwl y byddai darparu ysgolion dynodedig Saesneg yn gwella ffigyrau iaith 5 i 14 Gwynedd. Wyt ti'n meddwl y byddant yn cyrraedd 100% er enghraifft?

Alwyn ap Huw said...

Am be ti'n malu Cai bach? Pwy sydd wedi awgrymu bod angen troi ysgolion Gwynedd yn 100% Saesneg? Does dim angen dysgu unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Saesneg yn ysgolion Gwynedd (na Cheredigion na Sir Gar). Pam dy fod ti mor frwd i amddiffyn sefyllfa lle mae plant o gartrefi Cymraeg yn cael addysg uniaith Saesneg yn siroedd y gorllewin? Wyt ti wir yr yn credu mai cadw at y fath drefn yw'r ffordd gorau i amddiffyn yr iaith?

Alwyn ap Huw said...

Dydy rhif y cyfrifiad bod 93% o ymatebyddion ffurflenni cyfrifiad yn honni bod eu plantos yn Gymry Cymraeg dim yn adlewyrchiad o allu ieuenctid Sir Feirionydd i ddefnyddio'r Gymraeg, mae'n adlewyrchiad o dybiant rieni mae'r Gymraeg yw hiaith eu haddysg. Os yw 93% o rieni Meirionnydd yn credu bod eu plant yn derbyn addysg Cymraeg pam bod y sir yn rhy ofnus i wireddu disgwyliadau'r rhieni a throi 93% a rhagor o ysgolion y sir yn ysgolion penodedig Cymraeg?

Amddiffyn dy Blaid yn erbyn realiti llawr gwlad yw honni bod polisi iaith addysg Gwynedd yn gweithio.

Pan fo addysg Gymraeg cyflawnach ar gael yn Llundain na sydd ar gael yn Llwyngwril, rhaid derbyn bod rhywbeth o'i le a pholisi iaith addysg Gwynedd!

Cai Larsen said...

Mae'r ddadl yma yn ymwneud a'r ffigyrau cyfrifiad. Mae strwythur oedran y Gymraeg yn oly cyfrifiad hwnnw yn llawer, llawer gwell yng Ngwynedd nag yn unman arall. Ti 'n dadlau bod y ffigyrau hynny yn gamarweiniol - a bod rhieniyn gor gyfrifo gallu eu plant i sisrad Cymraeg.

Yn ol yr arfer dwyt ti ddim yn darparu tystiolaeth tros yr honiad hwnnw, ond hyd yn oed petaet wedi gwneud hynny, byddai'n rhaid i ti ddangos bod pobl mewn siroedd eraill ddim mor debygol o or gyfrifo. Dwyt ti ddim yn gwneud hynny chwaith.

Ond wedyn mae'n anodd dadlau efo rhywun sydd a'i farn ar y mater hwn mor afresymegol, ac wedi ei ysgaru oddi wrth y Byd go iawn i'r ffasiwn raddau nes ei fod wedi argyhoeddi ei hun bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn well yn Llundain nag ydyw yn llawer o Wynedd.

Anonymous said...

Cai dwi'n derbyn dy ddadansoddiad fod polisi Gwynedd yn well na llefydd eraill, serch hynny, mi fyddai unrhywun sy'n adnabod ffrwyth ysgolion Tywyn,Dolgellau ac Ardudwy yn gorfod cydnabod bod cryn dipyn o le i wella a bod llawer iawn gormod o Saesneg yn yr ysgolion hyn a be ddylid wneud yw trosi ee Dolgellau yn swyddogol Cymraeg fel un cam tuag at wella y sefyllfa gan dderbyn o bosib bod angen camau eraill yn Nhywyn

Alwyn ap Huw said...

Mae drwg gen i Cai ond ti sydd yn cynnig dadl sydd wedi ei lwyr ysgaru oddi wrth y gwirionedd. Pe bai gennyf blentyn o oedran ysgol gynradd ac yn byw yn Llundain gallwn ei ddanfon i Ysgol Gymraeg Llundain yn hyderus y byddai'n derbyn addysg Gymraeg gyflawn, pe bai gennyf blentyn o'r un oedran ac yn byw yng Ngorllewin Meirionnydd bydda'r sicrwydd y cai addysg debyg yn ysgol y pentref ddim ar gael - nid barn yw hynny ond ffaith ddiymwad. Dydy'r prawf bod hynny'n digwydd ddim i'w gael mewn cyfrifiad nac adroddiad llywodraethwyr na thaflenni gwybodaeth y cyngor sir mae o i'w gael ar y llun Nadolig Saesneg a ddarluniwyd yn yr ysgol sy'n cael ei ddanfon i nain Cymraeg gan ŵyr Cymraeg; mae'r prawf ar gael o weld hogan ysgol uwchradd yn sgwennu traethawd hanes yn y Saesneg ar aelwyd Cymraeg y fath o brawf mae'n gwell gen ti ei anwybyddu.

Cai Larsen said...

Wyt ti erioed wedi byw yn Llundain Alwyn - oes gen ti unrhyw syniad o pa mor uffernol o anodd ydi mynd o un rhan i'r llall pan mae'n brysur? Dyna sydd rhaid i'r sawl sy'n gallu fforddio'r £800 ffi tymhorol ei wneud os ydynt eisiau addysg gynradd Gymraeg i'w plant. Does yna ddim darpariaeth uwchradd wrth gwrs.

Mae dy sylwadau di yn cyfeirio at un ysgol uwchradd yn Ne y sir sydd yn gyfyng o ran y cyrsiau cyfrwng Cymraeg mae'n eu cynnig. Dydw i ddim yn gallu gweld sut y byddai dynodi un o'r tair ysgol uwchradd yng Ngorklewin Meirion yn ysgol Gymraeg yn newid y sefyllfa yma. Nid yr ysgol ti'n cyfeirio ati fyddai'n cael ei dynodi felly.

Anonymous said...

"Yn ol y cyfrifiad mae 91% o blant 5-9 y sir ynsiarad y Gymraeg a 93% o 10 i 14."

Ond yn syrthio i 72% ymysg y 15\19. Stiwdants sy'n gyfrifol am rhwyfaint o hyn, ond nid i gyd.

Cai Larsen said...

Mae hynny'n ddigon gwir.

Emlyn Uwch Cych said...

Edrychais ar wefan Ysgol Uwchradd Tywyn. Fe'm synwyd pan ddarllenais yn y prospectws, "Mae'r dosbarthiadau sy'n cynnwys Cymry Cymraeg a dysgwyr da iawn, yn derbyn gwersi mewn Hanes, Daearyddiaeth, unedau o Dechnoleg ac Addysg Grefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Defnyddir y Gymraeg, hefyd, ar lafar, mewn rhai gwersi eraill e.e. Addysg Gorfforol."

Mewn geiriau eraill, dim ond ychydig bach o'r cwricwlwm sydd ar gael yn Gymraeg. Ysgol Categori 3 yw hon, felly. I helpu swyddogion Gwynedd, dyma ddiffinaid ysgol Categori 3: "3. Predominantly English medium secondary school with significant use of Welsh Curriculum - Both languages are used in teaching with 20 - 49% of subjects taught through the medium of Welsh. All subjects would normally also be taught through the medium of English."

Ond mae Gwynedd yn honni ei bod hi yn ysgol "ddwyieithog", ac felly does dim hawl gan blantos de orllewin Meirion i gael bws i ysgol Gymraeg.

Ble mae'r synnwyr yn hyn? Os oes plentyn gennyf unrhyw le ym Morgannwg neu Fynwy, byddant yn medru derbyn 100% o'i gwersi yn Gymraeg mewn ysgol lle mae 100% o'r disgyblion eraill yn derbyn gwersi drwy'r Gymraeg.

Paham nad oes hawliau felly i holl blant Gwynedd?

Cai Larsen said...

Wel, mae yna broblemau mewn ysgol uwchradd ym Meirion, ond be ydi hynny i'w wneud efo'r syniad o gael trefn debyg i un Sir Gar yng Ngwynedd.

Anonymous said...

Cai, does neb yn cyfiawnhau polisi Sir Gar yn hytrach ti sy'n rhy amddiffynol o bolisi Gwynedd tra bo hi'n amlwg i rhai lleol ohonom bod diffygion yn y polisi yn Meirionnydd ac un ateb fyddai creu ysgol penodedig Cymraeg yn Nolgellau ac felly yn cryfhau y Gymraeg a rhoi cyfle llawn i pobl ifanc yr ardal cael addysg Gymraeg yn lle y myth ma o ysgolion dwyieithog

Emlyn Uwch Cych said...

Mae polisi Sir Gâr yn hurt - 3 ysgol Categori 2A allan o 13 - ond o leiaf mae gan *bawb* yr hawl i fynychu un o'r 3 ysgol hyn (neu Preseli/Dyffryn Teifi/Ystalyfera i'r rhai sy'n byw yn agos i'r ffin). Hawl i fynychu a hawl i gael bws am ddim.

Mae Ysgol Tywyn yn ysgol Categori 3 ym Meirion, a does gan y disgyblion yno ddim yr un hawliau â rhai pob sir arall bron. Roedd hyd yn oed yr hen Ddyfed yn cynnig gwell darpariaeth yn yr ysgolion "naturiol dwyieithog" 30 mlynedd yn ôl!

Dydw i ddim yn cytuno gydag Alwyn y dylsid troi ysgolion gorllewin Meirion yn Categori 4 - llwybr Sir Gâr yn Llanelli. Serch hynny, rhaid bod yn honest beth ydy'r sefyllfa ar hyn o bryd, a chynnig dewis go iawn i'r Cymry Cymraeg yno.

Alwyn ap Huw said...

Emlyn yr wyt ti yn gwneud yn cael yr un drafferth ac mae Cai yn cael, sef credu bod angen ysgol Saesneg yng Ngwynedd - ond rwy'n methu gweld dadl dros addysg Cyfrwng Saesneg mewn unrhyw ran o Wynedd, Does dim angen ysgol categori 4 yn Nhywyn, Dolgellau na Harlech, yr hyn sydd ei angen yn y tair tref yw ysgolion categori 1 serennog sef bwriad gwreiddiol polisi addysg Gymraeg Gwynedd yn ôl yn y saithdegau pan benderfynwyd mai ysgolion naturiol Gymraeg oedd pob ysgol yn y sir i fod.

Alwyn ap Huw said...

"Mae dy sylwadau di yn cyfeirio at un ysgol uwchradd yn Ne'r sir sydd yn gyfyng o ran y cyrsiau cyfrwng Cymraeg mae'n eu cynnig."

Na! Mae fy sylwadau yn cyfeirio at o leiaf tair ysgol - Ysgolion, Tywyn Y Gader ac Ardudwy lle yr wyf yn gwybod, yn bendant, bod disgyblion o gartrefi Cymraeg yn cael eu haddysgu yn rhannol neu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg; rwy'n tybio bod modd osgoi addysg Cymraeg / ambell i bwnc trwy'r Gymraeg ym mhob un o ysgolion Gwynedd gan gynnwys Dyffryn Ogwen, Syr Huw ac ati. Gyda'r eithriad o Ysgol Tryfan (hwyrach) byddwn yn tybio nad oes ysgol debyg i Ysgol y Creuddyn neu Ysgol Glan Clwyd lle mae pob pwnc yn cael ei ddysgu trwy'r Gymraeg a'r Gymraeg yn unig drwy Wynedd penbaladr.

Pam?

O ddarllen dy ymatebion yma ac i fy nghwynion blaenorol am addysg Gymraeg yng Ngwynedd rwy'n tybio mai'r ateb yw dy fod di, dy blaid a'r cyngor y mae'r Blaid yn ei harwain yn credu bod rhaid cydbwyso addysg benodedig Cymraeg efo addysg benodedig Saesneg. Dyna wir sail ein hanghytundeb Cai. Rwy'n credu dylai addysg debyg i gyfundrefn Ysgol y Creuddyn cael ei ddarparu ym mhob un o'r 14 Ysgol Uwchradd yng Ngwynedd heb gyfaddawd. Wyt ti'n methu gweld polisi addysg Gymraeg sy ddim yn rhoi addysg Saesneg yn y glorian.

Yn ôl dy ffigyrau di dim ond 7% o ddisgyblion Gwynedd sy'n methu defnyddio'r Gymraeg. Pam bod pob ysgol yng Ngwynedd yn pandro i'r 7% yna trwy ddarparu addysg Saesneg ar eu cyfer? Mae pob sir arall yng Nghymru yn ceisio dysgu'r Gymraeg i lawer mwy na 7% o'r boblogaeth di Gymraeg sy'n brin o'n braint!

Os oes raid darparu addysg cyfaddawd ar gyfer y di Gymraeg pam nad ydynt yn cael eu corlannu i un neu ddau o lefydd, megis Friars a Thywyn, wrth sicrhau mae ysgolion 2A ar raddfa Caerfyrddin (ond dim ar gael yng Nghaerfyrddin) ydy'r ddwy ysgol cyfdaddawdol?

Cai Larsen said...

Felly pam rwyt ti'n dadlau tros ysgol benodedig Gymraeg yng Ngorllewin Meirion ar un llaw tra'd dadlau y dylai'r holl ddarpariaeth fod trwy gyfrwng y Gymraeg ar y llall? Beth ydi'r pwynt cael cael ysgol benodedig Gymraeg pan fod pob pwnc ym mhob ysgol yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag. Dydi dy ddadl ddim yn gwneud synnwyr i mi a bod yn onest.

Dydw i ddim yn anghytuno efo'r sylwadau y dylai pob pwnc fod ar gael yn y Gymraeg ym mhob ysgol gydag eithriad posibl Friars). Mi fyddwn i hefyd yn cytuno y dylid gwneud cymaint a phosibl i annog plant i gymryd eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dydw i ddim yn siwr fodd bynnag ei bod yn bosibl cael union yr un ddarpariaeth mewn ardaloedd arfordirol lle mae 40% o siaradwyr Cymraeg a geir lle mae'r canrannau ddwywaith hynny.

O ran cytuno efo polisi addysg Gwynedd mi fydda i weithiau'n cytuno a weithiau'n anghytuno- edrych yn ol i ddyddiau cymharol gynnar y blog yma, ac mi gei di sawl beirniadaeth.

Alwyn ap Huw said...

Felly pam rwyt ti'n dadlau tros ysgol benodedig Gymraeg yng Ngorllewin Meirion ar un llaw tra'd dadlau y dylai'r holl ddarpariaeth fod trwy gyfrwng y Gymraeg ar y llall?
Ysgol benodedig Cymraeg yw ysgol lle mae'r holl ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg - does dim dwy law i'r ddadl. Ac nid dadlau o blaid un ysgol benodedig Cymraeg ym Meirion ydwyf (er bod eraill yn yr edefyn wedi galw am hynny) rwy'n dadlau o blaid troi pob un o ysgolion y sir yn rhai penodedig Cymraeg.

Cai Larsen said...

Dau bwynt sydyn - yn gyntaf mae yna ysgol uwchradd Gymraeg yng Ngwynedd - Tryfan ym Mangor. Ym Mangor mae sefyllfa'r iaith fwyaf bregus wrth gwrs.

Yn ail mae yna elfen o droedio dwr ynglyn a pholisi iaith Gwynedd - petai pob ysgolyn benodedig Gymraeg, yna byddai'r sir yn agored i gamau cyfreithiol gan y sawl sydd o'r farn bod ganddynt hawl i addysg Saesneg, a gallai hynny yn ei droarwain at sefydlu ysgolion Saesneg eraill fel Friars. Ar hyn o bryd mae mwyafrif llethol disgyblion y sir yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae addysg mwyafrif llethol disgyblion uwchradd y sir (ag eithrio Friars) yn bennaf trwy hyfrwng y Gymraeg hefyd.

Rydym wedi bod trwy'r data hyd at syrffed yn y gorffennol - ac mae pob ffynhonnell data sydd ar gael yn dangos yn glir bod y system yng Ngwynedd yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy effeithiol na'r un system arall. Wyt ti eisiau i mi dy gyfeirio at y blogiadau perthnasol?


HC said...

Cwestiynau pwysig (anodd i'w ateb heb gysylltu a'r ysgolion, yn anffodus)
Pa ganran o ddisgyblion ysgolion uwchradd gwahanol Meironnydd sy'n astudio (a) dearyddiaeth (b) mathemateg (c) ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg. (ar ddiwedd CA 3, ac i TGAU)
Pe profir fod y rhain ar gynnydd cyson ers , dyweder 1991, yna mae peth sail i ddadl Cai.
Os mai'r gwrthwyneb sy'n wir, mae'r mantais gan Alwyn.

Emlyn Uwch Cych said...

Mae ateb i gwestiwn HC ar gael yma (gweler Atodiad 7: Pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog):

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1110/Cynllun_Addysg_Gymraeg_Gwynedd__20111.pdf

Yr unig ysgol sydd ddim yn cynnig ystod eang o bynciau yn Gymraeg/dwyieithog ydy Tywyn.

Wrth gwrs, dydy'r ystadegau hyn ddim yn datgelu'r dosraniad yn iaith yr asesiad TGAU, na chwaith beth yw'r cydbwysedd ieithyddol mewn pynciau dwyieithog.

Mae'r deilliannau ar ddiwedd CA2, 3 a 4 hefyd yn eglur yn yr adroddiad polisi hwn.

Emlyn Uwch Cych said...

Pwy yw'r buddogol yn y ddadl, Cai yntau Alwyn, felly?

Rwy'n cydymdeimlo gyda Chyngor Gwynedd yn troedio dŵr, os ydy pob disgybl yn cael tegwch ieithyddol - y Cymry a'r di-Gymraeg. A'r peth diwethaf y dymunem ei weld fyddai ysgolion Categori 4 unrhywle yng Ngwynedd.

Mae Gwynedd yn rhy wledig a gwasgaredig i gynnal systumau 1 a 2C ar wahân (heblaw am Fangor). Felly, pe byddai Alwyn yn cael ei ffordd byddai perygl go iawn y byddai'r di-Gymraeg yn llwyddo ysywaeth mewn sialens cyfreithiol pe gorfodir hwy i anfon eu plant i ysgolion Cat 1.

Ond, mae Alwyn yn llygad ei le pan mae'n cyhuddo Gwynedd o amddifadu nifer helaeth o Gymry Cymraeg y sir rhag medru dewis addysg uwchradd Gymraeg go iawn. Mae angen datrus y broblem hon drwy bolisi cadarnach dros addysg Gymraeg.

Hc said...

Beth yw'r ddarpariaeth yn adran Dolgellau o Goleg Meirion Dwyfor ?(a Pwllheli, o ran hynny) . Tybed os yw'r canran sy'n astudio i safon uwch yn y colegau hynny yn is, neu'n uwch nac y buasai wedi bod petai'r ysgolion wedi cadw eu 6ed dosbarth.

Alwyn ap Huw said...

Dyna bwynt diddorol (gwir yr ddiddorol, heb gellwair)!

Petai bob ysgol yn benodedig Gymraeg, yna byddai'r sir yn agored i gamau cyfreithiol gan y sawl sydd o'r farn bod ganddynt hawl i addysg Saesneg,

A oes hawl gyfreithiol i addysg Saesneg? Os oes - a oes hawl gyfreithiol i addysg Gymraeg hefyd?

Cai Larsen said...

HRF - Wel does yna ddim ysgolion penodedig Saesneg os ti'n dallt be sgin i.

Huw C - mi gei di'r ffigyrau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg tua dwy draean o'r ffordd trwy hon. Mae'n nhw'n amlwg yn uwch o lawer nag oeddynt yn naw degau'r ganrif ddiwethaf.

HC said...

Ok diolch.

Cai Larsen said...

Sori Huw, mae'r cyfeiriad wedi mynd i rhywle - mi dria i eto.

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1110/Cynllun_Addysg_Gymraeg_Gwynedd__2011.pdf