Fydd yna ddim llawer o flogiadau gobeithiol yn y gyfres yma, ond waeth i ni ddechrau efo un. Isod ceir strwythur oedran y Cymry Cymraeg yng Ngwynedd. Fel y gwelir mae'r patrwm yn 'iach' i'r graddau bod y grwpiau oedran ieuengaf yn llawer mwy tebygol o fod yn siarad Cymraeg na'r rhai hynaf.
Fedra i ddim dod o hyd i set o ddata i gymharu'n uniongyrchol efo'r tabl ond dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod y canrannau hyd at 14 oed ychydig yn uwch yn 2011 nag oedd yn 2001, bod cwymp bach wedi bod yng nghanrannau'r grwpiau 25 - 59 (tua 1.5%), cwymp mwy yn y grwp 60+ (tua 6%) a chwymp o tros i 8% yn y grwp 15\24.
Rwan dydan ni ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm am yr amrywiaeth yma, ond mi fedrwn ni fwrw amcan. Mae yna lawer o fyfyrwyr yng Ngwynedd - y rhan fwyaf ohonynt ym Mangor. Mae'n bosibl bod y cwymp mawr yn yr oedrannau 15 - 24 yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Fangor. Mae'n bosibl hefyd bod y cwymp yma'n cael ei chwyddo gan leihad (demograffig naturiol) yn nifer y bobl sydd yn y categori 15 - 24.
Bydd y canlyniadau nesaf yn niwedd Mis Ionawr yn rhoi awgrym cryf i ni os ydi hynny'n wir. Os bydd cwymp sylweddol yn y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn wardiau Bangor, gallwn gymryd mai ffactorau sy'n ymwneud efo'r Brifysgol ydi un o'r rhesymau mwyaf am y cwymp anisgwyl o fawr yng Ngwynedd.
Byddai cwymp sylweddol yn y wardiau gwledig arfordirol hefyd yn awgrymu mai pobl o'r tu allan o Gymru yn dod i Wynedd i ymddeol sy'n gyfrifol am y cwymp yn y categori 60+.
Cwymp ydi cwymp wrth gwrs - ond byddai cwymp sylweddol yn y cohort oed sy'n esgor ar blant yn llawer mwy difrifol na chwymp ymysg pensiynwyr, a fydd cynydd mawr ymysg myfyrwyr ddim yn gwneud llawer o niwed parhaol i'r iaith chwaith.
Oed Canran siarad Cymraeg
3\4 73%
5\9 91%
10\14 93%
15\19 72%
20\24 51%
25\29 68%
30\34 70%
35\39 69%
40\44 67%
45\49 64%
50\54 58%
55\59 58%
60\64 54%
65\69 54%
70\74 58%
75\79 60%
80\84 61%
85+ 62%
Fedra i ddim dod o hyd i set o ddata i gymharu'n uniongyrchol efo'r tabl ond dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod y canrannau hyd at 14 oed ychydig yn uwch yn 2011 nag oedd yn 2001, bod cwymp bach wedi bod yng nghanrannau'r grwpiau 25 - 59 (tua 1.5%), cwymp mwy yn y grwp 60+ (tua 6%) a chwymp o tros i 8% yn y grwp 15\24.
Rwan dydan ni ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm am yr amrywiaeth yma, ond mi fedrwn ni fwrw amcan. Mae yna lawer o fyfyrwyr yng Ngwynedd - y rhan fwyaf ohonynt ym Mangor. Mae'n bosibl bod y cwymp mawr yn yr oedrannau 15 - 24 yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Fangor. Mae'n bosibl hefyd bod y cwymp yma'n cael ei chwyddo gan leihad (demograffig naturiol) yn nifer y bobl sydd yn y categori 15 - 24.
Bydd y canlyniadau nesaf yn niwedd Mis Ionawr yn rhoi awgrym cryf i ni os ydi hynny'n wir. Os bydd cwymp sylweddol yn y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn wardiau Bangor, gallwn gymryd mai ffactorau sy'n ymwneud efo'r Brifysgol ydi un o'r rhesymau mwyaf am y cwymp anisgwyl o fawr yng Ngwynedd.
Byddai cwymp sylweddol yn y wardiau gwledig arfordirol hefyd yn awgrymu mai pobl o'r tu allan o Gymru yn dod i Wynedd i ymddeol sy'n gyfrifol am y cwymp yn y categori 60+.
Cwymp ydi cwymp wrth gwrs - ond byddai cwymp sylweddol yn y cohort oed sy'n esgor ar blant yn llawer mwy difrifol na chwymp ymysg pensiynwyr, a fydd cynydd mawr ymysg myfyrwyr ddim yn gwneud llawer o niwed parhaol i'r iaith chwaith.
Oed Canran siarad Cymraeg
3\4 73%
5\9 91%
10\14 93%
15\19 72%
20\24 51%
25\29 68%
30\34 70%
35\39 69%
40\44 67%
45\49 64%
50\54 58%
55\59 58%
60\64 54%
65\69 54%
70\74 58%
75\79 60%
80\84 61%
85+ 62%
14 comments:
Ffigyrau dadlennol iawn, ac yn cadarnhau fy marn nad yw'r Cyfrifiad yn gwbl drychinebus yn y llefydd strategol bwysica. Mae'r hwch di mynd trwy'r siop yn Nyfed, ond nid Dyfed mo Wynedd na Mon na Chaerdydd. Yr hyn da ni wedi'i weld yw polareiddio daearyddol o ran yr iaith, nid chwalfa trwy'r wlad gyfan. Trwy rwdlian fod y Gymraeg di'i chwalu ymhob man, da ni mond yn rhoi gwynt yn hwyliau'r sawl sy'n tybio nad oes sail cymunedol i iaith.
Cytuno.
Grêt yng Ngwynedd. Ond, beth am y rhai ohonon ni o Ddyffryn Aman? Mi welwn ni'r ffeithiau moel fis nesaf, ond does dim eisiau Cyfrifiad i wybod bod y gwaelod wedi cwympo mas o'r iaith ym Mrynaman.
Gyda llaw, un ystadegyn nad yw'r blogwyr wedi neidio arno eto: mae mwy o siadadwyr Cymraeg yn Sir Gâr (78,048) nag yng Gwynedd (77,000) o hyd. Dim ond o drwch blewyn, cofiwch, ac mae'n hawdd darogan mai Gwynedd fydd ar y blaen erbyn 2021!
Fel hyn dwi'n ei gweld hi bore 'ma.
Y da:
* Ysgolion Gwynedd, Mon a Cheredigion – y ganran i fynu ym mhob oed yn y dair sir
* TWF – Oedran 3-4 fynu 4.6% drost Gymru
* Pobol ifanc(ish) 25-39 RCT, Caerffili a…. Conwy – fynu 4% 2.5% a 2.6%
Y drwg:
* Prifysgolion – am resymau amlwg
* Gwynedd 25-39 oed – lawr 2% – ddim yn disgwyl hwna…
* Mewnfudo anferth
A’r hull:
* Caerfyrddin – pobol hen
* Caerfyrddin – pobol ganol oed
* Caerfyrddin – pobol ifanc
Emlyn Uwch Cych:
Dyffryn Aman - mi roeddech chi'n f**** yn 2001.
"Gyda llaw, un ystadegyn nad yw'r blogwyr wedi neidio arno eto: mae mwy o siadadwyr Cymraeg yn Sir Gâr (78,048) nag yng Gwynedd (77,000) o hyd."
Sori, ond efo Sir Gaer yn colli 610 bob blwyddyn, a Gwynedd yn colli 80, maen hawdd darogan mai Gwynedd fydd ar y blaen erbyn Mai 2013.
Nadolig Llawen i chi - a plis peidiwch rhoi y ffidil yn y to draw yn yr hen fro.
Ioan, efallai roedd yr ysgrifen eisoes ar y mur erbyn 2001, ond doedd hi ddim eto wedi canu ar yr iaith yn Nyffryn Aman. Dyma'r ystadegau o Glanaman i Gwmllynfell:
Glanaman (Sir Gâr), 67.2%
Garnant (Sir Gâr), 69.8%
Gwaun-cae-gurwen (Castell-nedd PT), 67.9%
Brynaman Isaf (Castell-nedd PT), 68.1%
Cwarter Bach (Sir Gâr), 75.2%
Cwmllynfell (Castell-nedd PT), 68.2%
Felly, mewn poblogaeth dros 3 oed o 12,043 yn 2011 roedd 69.86% yn medru siarad Cymraeg - y nesaf peth at 70%. Ac mi roedd Brynaman Uchaf yn parhau yn iach gyda 75%.
Wrth gwrs roedd y wardiau cyfagos lawer llai calonogol hyd yn oed 11 mlynedd yn ôl (cyfanswm o 51.4% allan o 20,700 unigolyn):
Rhydaman (Sir Gâr), 62.4%
Betws (Sir Gâr), 63.1%
Pontaman (Sir Gâr), 60.5%
Pontardawe (Castell-nedd PT), 37.4%
Cwmtwrch (Powys), 54.8%
Abercraf (Powys), 45.9%
Ynyscedwyn (Powys), 52.9%
Ystradgynlais (Powys), 48.0%
Ystalyfera (Castell-nedd PT), 54.6%
Fy mhryder naturiol i yw bod yr hwch wedi mynd trwy'r siop erbyn hyn. Trist.
O edrych ar bobl 25-39 oed nol yn 2001 (a'r newid ers 1991):
Chwater bach ... 65.4 (-8.5%)
Brynamman isaf .. 61.1 (-9.4%)
Cwmllynfell ... 61 (-5.4%)
Glanamman .... 59.4 (-8.7%)
etc.
A'r pedwar yna oedd yr uchaf.
Doedd na ddim rheswm i ddisgwyl gwell yn 2011, gan bod y nifer o'r plant oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi disgyn hefyd yn 2001.
Trist iawn, neu fel mae nhw'n deud yn Aman Valley, very sad byt.
"Mae'n bosibl bod y cwymp mawr yn yr oedrannau 15 - 24 yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Fangor. Mae'n bosibl hefyd bod y cwymp yma'n cael ei chwyddo gan leihad (demograffig naturiol) yn nifer y bobl sydd yn y categori 15 - 24."
Mae 'na 2521 yn fwy o bobl yn yr oed 15-24 ym Mangor (2011 o'i gymharu a 2001).
Os 'di pob un yn ddi-Gymraeg, mi fydd y % o bobl yng ngweddill y sir sy'n gallu siarad Cymraeg yn codi tua 1.8%...
Os 'di 20% o'r cynnydd yn gallu siarad Cymraeg, mi fydd y % o bobl yng ngweddill y sir sy'n gallu siarad Cymraeg yn disgyn tua 1.5%.
Eglura'r ail osodiad - dwi ddim yn gweld beth sydd gen ti.
O ia, sori dwi yn ei gweld hi.
Beth os ydi'r cynnydd i gyd yn ddi Gymraeg + cwymp o 500 yn y nifer sy'n siarad Cymraeg ym Mangor?
"Beth os ydi'r cynnydd i gyd yn ddi Gymraeg + cwymp o 500 yn y nifer sy'n siarad Cymraeg ym Mangor?"
Gweddill y sir fynnu 6%... Ond di hunna ddim am ddigwydd. Mae na 700 yn fwy o siaradwyr Cymraeg oed 15-24 yng Ngwynedd. Ma fasa'n gwneud sens bod tua hanner nhw ym Mangor.
Hefyd, mi roedd canlyniadau Bangor yn yr oedran 5-14 yn reit dda yn 2001 - tua 10% i fynu ar 1991 os dwi'n cofio'n iawn.
Ai dyma naratif Dyffryn Aman, felly? Colli diniweidrwydd yn y 60au, colli'r Ffydd yn y 70au, colli'r pyllau yn yr 80au, colli'r iaith yn y 90au. A'r 00au; colli'r genedl?
Wedi cael cyfle i edrych pa Wardiau sy'n debygol o syrthio dan 70%.
Os ti'n cymeryd byd y cwymp yn ardaloedd "Prydeinig" Gwynedd yn debyg i Geredigion (-5.3), mi fydd y gwymp yn yr ardaloedd Cymraeg tua -2.5%.
Os di pob Ward yn mynd lawr 2.5% (a fyddan nhw ddim +-5% yn normal), y wardiau dan fygythiad -
Talysarn (71.9% yn 2001)
a Felinheli (72.1%)
O dan fygythiad ysgtadegol, mae 'na 14 ward arall (llai na 77.5% yn 2001)
'Dio chwaith ddim allan o'r cwestiwn bydd 'na rai yn codi drost 70% -
Porthmadog - Tremadog,
Dolbenmaen,
Tregarth & Mynydd Llandygai a
Clynnog
Os baswn ni'n ddyn betio, mi faswn ni'n rhoi pres ar net -3.
Gyda llaw disgwyl pob un o chwech wardiau drost 70% De Cymru i ddisgyn dan 70%.
Ynys Mon - rhywle rhwng +4 a -4, efo -1 y mwya tebygol (dwi heb wneud y syms...)
Ward Uwchaled (Conwy) pwy a wyr!
Fellu o'r 59 Ward drost 70% yn 2001, mi faswn i'n proffwydo 49 (lawr 10) yn 2011.
p.s. os 'di Felinheli'n disgyn, mi fydd Caernarfon ar ffin y fro Gymraeg.
Yn ôl yr addewid, dyma gymhariaeth manwl wardiau Dyffryn Aman a'r cyffiniau yn 2011 (byddaf yn ail-bostio hyn mewn lleoedd eraill lle bydd eisiau):
O Glanaman i Gwmllynfell (2001 - 69.86%):
Glanaman, 2011 - 59.8% (2001 - 67.2%)
Garnant, 58.5% (69.8%)
Gwaun-cae-gurwen, 55.8% (67.9%)
Brynaman Isaf, 60.8% (68.1%)
Cwarter Bach, 68.7% (75.2%)
Cwmllynfell, 58.8% (68.2%)
Felly, mewn poblogaeth dros 3 oed o 12,402 yn y 6 ward hyn yn 2011 roedd 60.72% yn medru siarad Cymraeg, gostyngiad syfrdanol o 9.14% ers 2001.
Wrth taflu'r rhwyd ymhellach, mae pethau yn ymddangos yn waeth fyth (cyfanswm o 43.62% allan o 23,269):
Rhydaman, 49.9% (62.4%)
Betws, 53.4% (63.1%)
Pontaman, 53.0% (60.5%)
Pontardawe, 31.0% (37.4%)
Cwmtwrch, 46.2% (54.8%)
Abercraf, 38.6% (45.9%)
Ynyscedwyn, 45.9% (52.9%)
Ystradgynlais, 39.9% (48.0%)
Ystalyfera, 46.0% (54.6%)
Mae'r Cymry Cymraeg yn leiafrif yn Rhydaman, Cwmtwrch, Ynyscedwyn ac Ystalyfera erbyn hyn, felly.
Post a Comment