Saturday, December 08, 2012

Colofn Angharad Mair a'r defnydd o alcohol yng Nghymru

Mi fydd Blogmenai yn anghytuno yn fynych efo un o golofnwyr rheolaidd Golwg - Gwilym Owen.  Dydi'r wythnos yma ddim yn eithriad wrth gwrs - ond crafu asgwrn efo colofnydd y byddaf yn cytuno a hi fel rheol y bydda i heddiw.  Fy mhrif  gwyn yn erbyn Gwilym fel rheol ydi'r ffaith ei fod yn seilio ei golofnau ar ei ragfarnau ei hun, ac yn trin y rhagfarnau hynny fel ffeithiau 'caled' yn hytrach na'r rwdlan anwybodus yr ydynt mewn gwirionedd.  Mae gen i ofn bod Angharad yn seilio ei cholofn ar ragfarn yr wythnos yma.

Byrdwn y golofn ydi bod 'Cymru'n nofio mewn alcohol' a bod angen cymryd camau i achub y wlad rhag boddi yn y stwff - cuddio alcohol mewn arch farchnadoedd a gwahardd alcopops er enghraifft. Mae'n rhaid bod cof go lew gan Angharad i gofio'r rheiny.  Rwan mae Angharad yn well colofnydd o lawer na Gwilym ac mae'n caniatau i ffeithiau, ystadegau ac ati grwydro i mewn i'w dadl - ond mae'n hynod ddethol ynglyn a'r  ystadegau hynny.

Y gwir amdani ydi nad yw Cymru yn nofio mewn alcohol. Mae Angharad yn edliw diflaniad y mudiad dirwestol, ond mewn cyd destun hanesyddol rhyw eithriad hynod anarferol oedd y feddylfryd oedd ynghlwm a'r mudiad hwnnw.  Mae'r cyffur wedi ei ddefnyddio gan y ddynoliaeth yng Nghymru am o leiaf bedair mil o flynyddoedd.  Mae yna adegau pan rydym wedi yfed mwy nag y gwnawn heddiw, ac mae yna adegau pan rydym wedi yfed llai.  Mae yna adegau pan mae pris alcohol wedi bod yn is (mewn termau real) nag yw heddiw, ac mae yna adegau pan mae wedi bod yn uwch.  Mae yna adegau pan mae argaeledd y stwff wedi bod yn ehangach, ac mae yna gyfnodau pan mae wedi bod yn fwy cyfyng.

Yn wir petai Angharad wedi ei geni bedair neu bum can mlynedd yn ol mi fyddai'n yfed cwrw efo'i brecwast, gan mai dyna'r unig ffordd o yfed hylif yn ddiogel.  O edrych ar batrymau yfed alcohol hanesyddol mae'n debyg i gyfraddau syrthio rhwng diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a diwedd y bedwerydd ganrif ar bymtheg, cyn cynyddu yn sylweddol iawn hyd at 1880, syrthio tan tua 1960 a dechrau cynyddu drachefn a pharhau i wneud hynny tan 2002, ond syrthio pob blwyddyn ers hynny.  Yn wir mae faint o alcohol a yfir gan ddynion ifanc wedi haneru yn y ddegawd rhwng 1999 a 2009.  Doedd yna ddim un blwyddyn yn yr ugeinfed ganrif na'r unfed ganrif ar hugain lle cyrhaeddodd y lefelau yn agos at rhai 1900.

Mae ystadegau helaeth i'w cael ynglyn a'r defnydd o alcohol ym Mhrydain, ac er bod rhai penodol ar Gymru yn fwy prin, does yna ddim rheswm i feddwl bod y patrymau cyffredinol yng Nghymru yn gwahaniaethu'n sylweddol oddi wrth y rhai yn y DU yn ehangach - er bod rhai mathau o or yfed yn fwy amlwg yn Lloegr nag yng Nghymru. Gweler yma am ymdriniaeth gryno.

Rwan ar gyfartaledd mae unigolion ym Mhrydain yn yfed 13.37 litr o alcohol pur yn flynyddol.  Mae hyn yn weddol uchel o gymharu a gweddill y Byd, ond mae'n ganolig mewn cyd destun Ewropiaidd.  Mae'r gyfradd yma ychydig yn is nag yw yn Ffrainc neu Iwerddon, ond mae ychydig yn uwch na'r Almaen.  Mae'n arwyddocaol is nag yw yn y rhan fwyaf o wledydd Dwyrain Ewrop.


Mae Angharad yn tynnu sylw at yfed ymhlith yr ifanc, marwolaethau oherwydd yfed ac yfed a gyrru, ac mae'n awgrymu mai'r rheolau mwy rhyddfrydig diweddar ynglyn a gwerthu alcohol sy'n gyfrifol am hyn oll.  Y gwir ydi bod llawer mwy o yfed alcohol ymhlith pobl hyn na phobl iau - 7% o ddynion rhwng 16 a 24 sy'n yfed pum diwrnod allan o saith a 2% o ferched.  Y ffigyrau cyfatebol am bobl tros 65 ydi 27% a 14%.  Serch hynny mae tua phum gwaith yn fwy cyffredin i bobl ifanc yfed 8 uned neu fwy mewn un diwrnod na rhai mewn oed.  Mae pobl mewn oed yn yfed yn gyson ond yn gymhedrol tra bod rhai ifanc yn yfed yn llai aml o lawer ond yn drymach.  Mae'r canrannau sy'n yfed yn drwm wedi cwympo yn sylweddol ers i reolau gwerthu alcohol gael eu gwneud yn fwy rhyddfrydig, gyda'r ffigyrau wedi syrthio o 39% yn 1998 ymysg dynion ifanc a 24% ymysg merched.

Mae pobl broffesiynol yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio alcohol na phobl yn y grwpiau socio economaidd isel,   Mae'r nifer o farwolaethau mewn damweiniau ffordd lle mae yfed alcohol yn ffactor wedi haneru ers 1997 , ac mae damweiniau ffordd yn gyffredinol sy'n ymwneud ag alcohol wedi syrthio'n sylweddol yn y cyfnod hwnnw hefyd.  Serch hynny mae marwolaethau yn gyffredinol oherwydd afiechydon a achosir gan alcohol wedi cynyddu o 24% rhwng 2001 a 2010 - er bod cwymp diweddar wedi bod yn y ffigyrau hynny hefyd.

Rwan dydw i ddim yn anghytuno efo Angharad bod problemau ynghlwm ag alcohol, a dydw i ddim yn gwadu ein bod fel gwlad angen trafod y mater. Ond mae hefyd yn ffaith bod alcohol yn cael ei ddefnyddio yn eang iawn yng Nghymru, ac mae'r rhan fwyaf o ddigon o bobl sydd yn ei ddefnyddio yn gwneud hynny mewn modd cwbl gyfrifol. Mae dyn yn gobeithio y byddwn yn y dyfodol mewn sefyllfa i drafod materion fel hyn ar raddfa Cymru gyfan. Ond os ydym i gael trafodaeth felly mae'n bwysig ei fod ar sail rhesymegol a chytbwys. Dydi hynny ddim yn wir ar hyn o bryd - mae yna lawer gormod o hysteria ynghlwm a'r pwnc, ac yn anffodus mae peth o'r hysteria hwnnw yn gwneud ei ffordd i golofnau Angharad o bryd i'w gilydd.

Ar nodyn gwahanol ond cysylltiedig, mae yna rhywbeth rhyfedd iawn gweld tafarnau a chapeli Cymru yn cau mewn niferoedd mawr ar yr un pryd. Ers talwm roeddem yn tueddu i weld diwylliant y dafarn a diwylliant y capel fel dau ddiwylliant cwbl wahanol oedd mewn cystadleuaeth chwyrn efo'i gilydd. Mae'n debyg y dylem fod wedi sylweddoli hyd yn oed bryd hynny mai dwy agwedd ar yr un diwylliant oeddynt, a rhagweld hefyd y byddai'r grymoedd a fyddai'n lladd y naill hefyd yn lladd y llall.

8 comments:

Anonymous said...

erthygl ddifyr Cai.
Ychydig yn anheg, ac efallai dy fod yn lled euog o wneud yr un fath ag Angharad a dethol ffeithiau. Un enghraifft:
"Yn wir petai Angharad wedi ei geni bedair neu bum can mlynedd yn ol mi fyddai'n yfed cwrw efo'i brecwast," gwir, ond yr hyn nad wyt ti'n dweud yw mai tua 0.5% oedd cryfder y cwrw yr oedden nhw'n yfed 'i frecwast'.

y gwahaniaeth heddiw yw cryfder y diodydd alcohol, eu blas, a'u cynnwys (mae lager cyyfredin dipyn yn llai trwm a haws iw yfed mewn symiau sylweddol na chwerw).

wedi dweud hyn oll, mae berthynas ag alchol yn ymwneud efo diwylliant. nid diwylliant alcohol per se ons sut ydyn ni'n gweld ein perthynas ag o.

roedd yna erthygl wych ar wefan y bbc rai misoedd yn ol yn trafod hyn, gan ddweud fod y diwylliant 'Prydeinig' yn credu fod alcohol yn 'rhoi caniatad' i bobl gam-bihafio, ac oherwydd y gred yma fod pobl yn cambihafio; tera yn Ffrainc, dyweder, dydy'r diwylliant yno ddim yn gweld alcohol yn yr un modd. Yn anffodus rwy'n methu ffeindio'r erthygl

menaiblog said...

Dwi ddim yn anghytuno efo'r rhan fwyaf o'r uchod - ond mae dy honiad am gryfder cwrw yn yr ail ganrif ar bymtheg yn ddieithr i mi. Mae'n ymddangos yn anhebygol y byddai'r cryfder cyn ised a 0.5%.

Fy nealltwriaeth i ydi mai'r arfer bryd hynny oedd gwneud cwrw yn yr hydref a'r gaeaf oherwydd bod gwres yr haf yn cael effaith negyddol ar y cynnyrch. Byddai'n rhaid i'r cwrw fod yn gryf i gadw hyd yr hydref canlynol - cryfach na 5%..

Oes gen ti ffynhonell i gefnogi'r gosodiad?

BoiCymraeg said...

Wrth wneud cwrw 'dach chi'n cael swmp mawr o "mash" wedi i chi wneud cwrw arferol. Mae modd creu cwrw gwan iawn (0.5%) gyda'r stwff os ydych chi eisiau, enw hyn yn lloegr oedd "Small Beer" ac yr oedd pobl yn eu creu'r stwff yn eithaf aml yn ol pan oedd pawb yn bragu eu cwrw eu hunain - http://en.wikipedia.org/wiki/Small_beer

menaiblog said...

Ia - ond fysa cwrw felly ddim yn para trwy'r flwyddyn - byddai'n mynd yn ddrwg.

Anonymous said...

Fel mae boi Cymraeg yn ddweud, Cwrw Bach/Small Beer, cwrw oedd yn cael ei roi i blant ac fel rations i'r fyddin, os cofiaf yn iawn. Cofio gweld son amdano mewn amgueddfa rhyw dro.

HC said...

Mae'n siwr dy fod yn gyfarwydd a llyfr W.J. Gruffydd am dy iard gefn 'Hen atgofion'. Ynddo, mae'n dyfaru am ddyfodiad dirwest tua 200 mlynedd yn ol, a'i gymharu gyda'r sbri amlwg a oedd yn perthyn i blwyf Llanddeiniolen cynt. Wrth i'r ardal gael ei droi o fod yn un amaethyddol i fod yn un ddiwydiannol, yr oedd yn siwtio'r capeli a stad y Faenol ( a oedd yn aml yn elynion mawr) i ddirwest ddod yn 'norm' o fewn cymdeithas. Y tueddiad yw fod y capeli wedi magu pobl amlycaf cymdeithas, a dueddai i gofnodi pethau, llenydda ac arwain ayb. Mae'n siwr fod cyfran helaeth o'r gymdeithas nad oeddent yn gapelwyr , ond heb adael cofnod o'u bywyd. Roedd fy mhedwar h-daid yn ddirwestwyr, ond roedd aelodau o fy nheulu wedi cadw'r Garddfon yn Felin rhyw genhedlaeth cyn eu geni.
Ar yn pryd, dwi'n meddwl fy mod i'n iawn yn dweud i anghydffurfiaeth fod yn oddefgar o yfed i ryw raddau.Ym Mangor, roedd cysylltiad rhwng y 'Belle Vue' a capel Twrgwyn , dwi'n meddwl, a dwi'n cofio darllen rhywbryd fod tafarndai gwahanol yn Aberystwyth yn gysylltiedig gydag enwadau neu gapeli gwahanol.

menaiblog said...

Dwi wedi darllen Hen Atgofion Huw - ond roedd hynny dri deg pump a flynyddoedd yn ol. Diolch am fy atgoffa am y llyfr.

Anonymous said...

I ԁrop a leаve a rеsponsе eаch time I like a article on a blog
oг I have something to valuable to contrіbute to the discussion.
Usuallу it's a result of the fire communicated in the post I read. And after this article "Colofn Angharad Mair a'r ԁefnydd o alcohol
уng Nghymru". I was moved enough to drop a comment ;-) I actually do have some questions for you if it's okay. Is it simply me or do a few of these remarks come across like they are written by brain dead folks? :-P And, if you are posting on additional social sites, I would like to follow you. Could you make a list every one of your shared pages like your linkedin profile, Facebook page or twitter feed?

Here is my site; please click the next webpage