tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post5077940300665055075..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Oes gan Simon Brooks bwynt ynglyn a Sir Gaerfyrddin?Cai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger42125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-28442267976869437232012-12-23T17:14:11.861+00:002012-12-23T17:14:11.861+00:00Sori Huw, mae'r cyfeiriad wedi mynd i rhywle -...Sori Huw, mae'r cyfeiriad wedi mynd i rhywle - mi dria i eto.

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1110/Cynllun_Addysg_Gymraeg_Gwynedd__2011.pdfCai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-10771870381719756742012-12-23T13:32:50.750+00:002012-12-23T13:32:50.750+00:00Ok diolch.Ok diolch.HCnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-89136185611193034422012-12-23T10:27:49.442+00:002012-12-23T10:27:49.442+00:00HRF - Wel does yna ddim ysgolion penodedig Saesneg...HRF - Wel does yna ddim ysgolion penodedig Saesneg os ti'n dallt be sgin i.

Huw C - mi gei di'r ffigyrau astudio trwy gyfrwng y Gymraeg tua dwy draean o'r ffordd trwy hon. Mae'n nhw'n amlwg yn uwch o lawer nag oeddynt yn naw degau'r ganrif ddiwethaf.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-77363842058923386612012-12-23T08:20:13.850+00:002012-12-23T08:20:13.850+00:00Dyna bwynt diddorol (gwir yr ddiddorol, heb gellwa...Dyna bwynt diddorol (gwir yr ddiddorol, heb gellwair)!

Petai bob ysgol yn benodedig Gymraeg, yna byddai'r sir yn agored i gamau cyfreithiol gan y sawl sydd o'r farn bod ganddynt hawl i addysg Saesneg,

A oes hawl gyfreithiol i addysg Saesneg? Os oes - a oes hawl gyfreithiol i addysg Gymraeg hefyd?
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-73999777035421761152012-12-22T23:39:16.817+00:002012-12-22T23:39:16.817+00:00Beth yw'r ddarpariaeth yn adran Dolgellau o Go...Beth yw'r ddarpariaeth yn adran Dolgellau o Goleg Meirion Dwyfor ?(a Pwllheli, o ran hynny) . Tybed os yw'r canran sy'n astudio i safon uwch yn y colegau hynny yn is, neu'n uwch nac y buasai wedi bod petai'r ysgolion wedi cadw eu 6ed dosbarth. Hcnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-56873900165386297502012-12-22T23:09:33.358+00:002012-12-22T23:09:33.358+00:00Pwy yw'r buddogol yn y ddadl, Cai yntau Alwyn,...Pwy yw'r buddogol yn y ddadl, Cai yntau Alwyn, felly?

Rwy'n cydymdeimlo gyda Chyngor Gwynedd yn troedio dŵr, os ydy pob disgybl yn cael tegwch ieithyddol - y Cymry a'r di-Gymraeg. A'r peth diwethaf y dymunem ei weld fyddai ysgolion Categori 4 unrhywle yng Ngwynedd.

Mae Gwynedd yn rhy wledig a gwasgaredig i gynnal systumau 1 a 2C ar wahân (heblaw am Fangor). Felly, pe byddai Alwyn yn cael ei ffordd byddai perygl go iawn y byddai'r di-Gymraeg yn llwyddo ysywaeth mewn sialens cyfreithiol pe gorfodir hwy i anfon eu plant i ysgolion Cat 1.

Ond, mae Alwyn yn llygad ei le pan mae'n cyhuddo Gwynedd o amddifadu nifer helaeth o Gymry Cymraeg y sir rhag medru dewis addysg uwchradd Gymraeg go iawn. Mae angen datrus y broblem hon drwy bolisi cadarnach dros addysg Gymraeg.Emlyn Uwch Cychhttps://www.blogger.com/profile/03384157218244458970noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-36773819070486312662012-12-22T22:45:40.852+00:002012-12-22T22:45:40.852+00:00Mae ateb i gwestiwn HC ar gael yma (gweler Atodiad...Mae ateb i gwestiwn HC ar gael yma (gweler Atodiad 7: Pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog):

http://www.gwynedd.gov.uk/upload/public/attachments/1110/Cynllun_Addysg_Gymraeg_Gwynedd__20111.pdf

Yr unig ysgol sydd ddim yn cynnig ystod eang o bynciau yn Gymraeg/dwyieithog ydy Tywyn.

Wrth gwrs, dydy'r ystadegau hyn ddim yn datgelu'r dosraniad yn iaith yr asesiad TGAU, na chwaith beth yw'r cydbwysedd ieithyddol mewn pynciau dwyieithog.

Mae'r deilliannau ar ddiwedd CA2, 3 a 4 hefyd yn eglur yn yr adroddiad polisi hwn.

Emlyn Uwch Cychhttps://www.blogger.com/profile/03384157218244458970noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-11451303649081495662012-12-22T21:21:55.517+00:002012-12-22T21:21:55.517+00:00Cwestiynau pwysig (anodd i'w ateb heb gysylltu...Cwestiynau pwysig (anodd i'w ateb heb gysylltu a'r ysgolion, yn anffodus)
Pa ganran o ddisgyblion ysgolion uwchradd gwahanol Meironnydd sy'n astudio (a) dearyddiaeth (b) mathemateg (c) ffiseg drwy gyfrwng y Gymraeg. (ar ddiwedd CA 3, ac i TGAU)
Pe profir fod y rhain ar gynnydd cyson ers , dyweder 1991, yna mae peth sail i ddadl Cai.
Os mai'r gwrthwyneb sy'n wir, mae'r mantais gan Alwyn.HCnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-29096777951543963282012-12-22T19:08:34.948+00:002012-12-22T19:08:34.948+00:00Dau bwynt sydyn - yn gyntaf mae yna ysgol uwchradd...Dau bwynt sydyn - yn gyntaf mae yna ysgol uwchradd Gymraeg yng Ngwynedd - Tryfan ym Mangor. Ym Mangor mae sefyllfa'r iaith fwyaf bregus wrth gwrs.

Yn ail mae yna elfen o droedio dwr ynglyn a pholisi iaith Gwynedd - petai pob ysgolyn benodedig Gymraeg, yna byddai'r sir yn agored i gamau cyfreithiol gan y sawl sydd o'r farn bod ganddynt hawl i addysg Saesneg, a gallai hynny yn ei droarwain at sefydlu ysgolion Saesneg eraill fel Friars. Ar hyn o bryd mae mwyafrif llethol disgyblion y sir yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae addysg mwyafrif llethol disgyblion uwchradd y sir (ag eithrio Friars) yn bennaf trwy hyfrwng y Gymraeg hefyd.

Rydym wedi bod trwy'r data hyd at syrffed yn y gorffennol - ac mae pob ffynhonnell data sydd ar gael yn dangos yn glir bod y system yng Ngwynedd yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy effeithiol na'r un system arall. Wyt ti eisiau i mi dy gyfeirio at y blogiadau perthnasol?

Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-78271945388895724662012-12-22T16:40:53.242+00:002012-12-22T16:40:53.242+00:00Felly pam rwyt ti'n dadlau tros ysgol benodedi...Felly pam rwyt ti'n dadlau tros ysgol benodedig Gymraeg yng Ngorllewin Meirion ar un llaw tra'd dadlau y dylai'r holl ddarpariaeth fod trwy gyfrwng y Gymraeg ar y llall?
Ysgol benodedig Cymraeg yw ysgol lle mae'r holl ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg - does dim dwy law i'r ddadl. Ac nid dadlau o blaid un ysgol benodedig Cymraeg ym Meirion ydwyf (er bod eraill yn yr edefyn wedi galw am hynny) rwy'n dadlau o blaid troi pob un o ysgolion y sir yn rhai penodedig Cymraeg.
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-41491221479235679712012-12-22T10:01:35.434+00:002012-12-22T10:01:35.434+00:00Felly pam rwyt ti'n dadlau tros ysgol benodedi...Felly pam rwyt ti'n dadlau tros ysgol benodedig Gymraeg yng Ngorllewin Meirion ar un llaw tra'd dadlau y dylai'r holl ddarpariaeth fod trwy gyfrwng y Gymraeg ar y llall? Beth ydi'r pwynt cael cael ysgol benodedig Gymraeg pan fod pob pwnc ym mhob ysgol yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg beth bynnag. Dydi dy ddadl ddim yn gwneud synnwyr i mi a bod yn onest.

Dydw i ddim yn anghytuno efo'r sylwadau y dylai pob pwnc fod ar gael yn y Gymraeg ym mhob ysgol gydag eithriad posibl Friars). Mi fyddwn i hefyd yn cytuno y dylid gwneud cymaint a phosibl i annog plant i gymryd eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dydw i ddim yn siwr fodd bynnag ei bod yn bosibl cael union yr un ddarpariaeth mewn ardaloedd arfordirol lle mae 40% o siaradwyr Cymraeg a geir lle mae'r canrannau ddwywaith hynny.

O ran cytuno efo polisi addysg Gwynedd mi fydda i weithiau'n cytuno a weithiau'n anghytuno- edrych yn ol i ddyddiau cymharol gynnar y blog yma, ac mi gei di sawl beirniadaeth.
Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-60571991587706382202012-12-22T07:02:32.175+00:002012-12-22T07:02:32.175+00:00"Mae dy sylwadau di yn cyfeirio at un ysgol u..."Mae dy sylwadau di yn cyfeirio at un ysgol uwchradd yn Ne'r sir sydd yn gyfyng o ran y cyrsiau cyfrwng Cymraeg mae'n eu cynnig."

Na! Mae fy sylwadau yn cyfeirio at o leiaf tair ysgol - Ysgolion, Tywyn Y Gader ac Ardudwy lle yr wyf yn gwybod, yn bendant, bod disgyblion o gartrefi Cymraeg yn cael eu haddysgu yn rhannol neu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Saesneg; rwy'n tybio bod modd osgoi addysg Cymraeg / ambell i bwnc trwy'r Gymraeg ym mhob un o ysgolion Gwynedd gan gynnwys Dyffryn Ogwen, Syr Huw ac ati. Gyda'r eithriad o Ysgol Tryfan (hwyrach) byddwn yn tybio nad oes ysgol debyg i Ysgol y Creuddyn neu Ysgol Glan Clwyd lle mae pob pwnc yn cael ei ddysgu trwy'r Gymraeg a'r Gymraeg yn unig drwy Wynedd penbaladr.

Pam?

O ddarllen dy ymatebion yma ac i fy nghwynion blaenorol am addysg Gymraeg yng Ngwynedd rwy'n tybio mai'r ateb yw dy fod di, dy blaid a'r cyngor y mae'r Blaid yn ei harwain yn credu bod rhaid cydbwyso addysg benodedig Cymraeg efo addysg benodedig Saesneg. Dyna wir sail ein hanghytundeb Cai. Rwy'n credu dylai addysg debyg i gyfundrefn Ysgol y Creuddyn cael ei ddarparu ym mhob un o'r 14 Ysgol Uwchradd yng Ngwynedd heb gyfaddawd. Wyt ti'n methu gweld polisi addysg Gymraeg sy ddim yn rhoi addysg Saesneg yn y glorian.

Yn ôl dy ffigyrau di dim ond 7% o ddisgyblion Gwynedd sy'n methu defnyddio'r Gymraeg. Pam bod pob ysgol yng Ngwynedd yn pandro i'r 7% yna trwy ddarparu addysg Saesneg ar eu cyfer? Mae pob sir arall yng Nghymru yn ceisio dysgu'r Gymraeg i lawer mwy na 7% o'r boblogaeth di Gymraeg sy'n brin o'n braint!

Os oes raid darparu addysg cyfaddawd ar gyfer y di Gymraeg pam nad ydynt yn cael eu corlannu i un neu ddau o lefydd, megis Friars a Thywyn, wrth sicrhau mae ysgolion 2A ar raddfa Caerfyrddin (ond dim ar gael yng Nghaerfyrddin) ydy'r ddwy ysgol cyfdaddawdol?
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-11565169867247624902012-12-22T01:17:18.524+00:002012-12-22T01:17:18.524+00:00Emlyn yr wyt ti yn gwneud yn cael yr un drafferth ...Emlyn yr wyt ti yn gwneud yn cael yr un drafferth ac mae Cai yn cael, sef credu bod angen ysgol Saesneg yng Ngwynedd - ond rwy'n methu gweld dadl dros addysg Cyfrwng Saesneg mewn unrhyw ran o Wynedd, Does dim angen ysgol categori 4 yn Nhywyn, Dolgellau na Harlech, yr hyn sydd ei angen yn y tair tref yw ysgolion categori 1 serennog sef bwriad gwreiddiol polisi addysg Gymraeg Gwynedd yn ôl yn y saithdegau pan benderfynwyd mai ysgolion naturiol Gymraeg oedd pob ysgol yn y sir i fod.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-86065203197434382202012-12-22T00:33:17.420+00:002012-12-22T00:33:17.420+00:00Mae polisi Sir Gâr yn hurt - 3 ysgol Categori 2A a...Mae polisi Sir Gâr yn hurt - 3 ysgol Categori 2A allan o 13 - ond o leiaf mae gan *bawb* yr hawl i fynychu un o'r 3 ysgol hyn (neu Preseli/Dyffryn Teifi/Ystalyfera i'r rhai sy'n byw yn agos i'r ffin). Hawl i fynychu a hawl i gael bws am ddim.

Mae Ysgol Tywyn yn ysgol Categori 3 ym Meirion, a does gan y disgyblion yno ddim yr un hawliau â rhai pob sir arall bron. Roedd hyd yn oed yr hen Ddyfed yn cynnig gwell darpariaeth yn yr ysgolion "naturiol dwyieithog" 30 mlynedd yn ôl!

Dydw i ddim yn cytuno gydag Alwyn y dylsid troi ysgolion gorllewin Meirion yn Categori 4 - llwybr Sir Gâr yn Llanelli. Serch hynny, rhaid bod yn honest beth ydy'r sefyllfa ar hyn o bryd, a chynnig dewis go iawn i'r Cymry Cymraeg yno.Emlyn Uwch Cychhttps://www.blogger.com/profile/03384157218244458970noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-19698119325278123322012-12-22T00:28:06.555+00:002012-12-22T00:28:06.555+00:00Cai, does neb yn cyfiawnhau polisi Sir Gar yn hytr...Cai, does neb yn cyfiawnhau polisi Sir Gar yn hytrach ti sy'n rhy amddiffynol o bolisi Gwynedd tra bo hi'n amlwg i rhai lleol ohonom bod diffygion yn y polisi yn Meirionnydd ac un ateb fyddai creu ysgol penodedig Cymraeg yn Nolgellau ac felly yn cryfhau y Gymraeg a rhoi cyfle llawn i pobl ifanc yr ardal cael addysg Gymraeg yn lle y myth ma o ysgolion dwyieithogAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-65513653820764539222012-12-21T23:26:04.416+00:002012-12-21T23:26:04.416+00:00Wel, mae yna broblemau mewn ysgol uwchradd ym Meir...Wel, mae yna broblemau mewn ysgol uwchradd ym Meirion, ond be ydi hynny i'w wneud efo'r syniad o gael trefn debyg i un Sir Gar yng Ngwynedd.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-59715184860500107282012-12-21T22:51:28.323+00:002012-12-21T22:51:28.323+00:00Edrychais ar wefan Ysgol Uwchradd Tywyn. Fe'm ...Edrychais ar wefan Ysgol Uwchradd Tywyn. Fe'm synwyd pan ddarllenais yn y prospectws, "Mae'r dosbarthiadau sy'n cynnwys Cymry Cymraeg a dysgwyr da iawn, yn derbyn gwersi mewn Hanes, Daearyddiaeth, unedau o Dechnoleg ac Addysg Grefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Defnyddir y Gymraeg, hefyd, ar lafar, mewn rhai gwersi eraill e.e. Addysg Gorfforol."

Mewn geiriau eraill, dim ond ychydig bach o'r cwricwlwm sydd ar gael yn Gymraeg. Ysgol Categori 3 yw hon, felly. I helpu swyddogion Gwynedd, dyma ddiffinaid ysgol Categori 3: "3. Predominantly English medium secondary school with significant use of Welsh Curriculum - Both languages are used in teaching with 20 - 49% of subjects taught through the medium of Welsh. All subjects would normally also be taught through the medium of English."

Ond mae Gwynedd yn honni ei bod hi yn ysgol "ddwyieithog", ac felly does dim hawl gan blantos de orllewin Meirion i gael bws i ysgol Gymraeg.

Ble mae'r synnwyr yn hyn? Os oes plentyn gennyf unrhyw le ym Morgannwg neu Fynwy, byddant yn medru derbyn 100% o'i gwersi yn Gymraeg mewn ysgol lle mae 100% o'r disgyblion eraill yn derbyn gwersi drwy'r Gymraeg.

Paham nad oes hawliau felly i holl blant Gwynedd?Emlyn Uwch Cychhttps://www.blogger.com/profile/03384157218244458970noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-75183642231011977182012-12-21T18:52:25.014+00:002012-12-21T18:52:25.014+00:00Mae hynny'n ddigon gwir.Mae hynny'n ddigon gwir.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-53960779424694825362012-12-21T18:10:07.936+00:002012-12-21T18:10:07.936+00:00"Yn ol y cyfrifiad mae 91% o blant 5-9 y sir ..."Yn ol y cyfrifiad mae 91% o blant 5-9 y sir ynsiarad y Gymraeg a 93% o 10 i 14."

Ond yn syrthio i 72% ymysg y 15\19. Stiwdants sy'n gyfrifol am rhwyfaint o hyn, ond nid i gyd.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-45448564640201510642012-12-21T17:07:18.681+00:002012-12-21T17:07:18.681+00:00Wyt ti erioed wedi byw yn Llundain Alwyn - oes gen...Wyt ti erioed wedi byw yn Llundain Alwyn - oes gen ti unrhyw syniad o pa mor uffernol o anodd ydi mynd o un rhan i'r llall pan mae'n brysur? Dyna sydd rhaid i'r sawl sy'n gallu fforddio'r £800 ffi tymhorol ei wneud os ydynt eisiau addysg gynradd Gymraeg i'w plant. Does yna ddim darpariaeth uwchradd wrth gwrs.

Mae dy sylwadau di yn cyfeirio at un ysgol uwchradd yn Ne y sir sydd yn gyfyng o ran y cyrsiau cyfrwng Cymraeg mae'n eu cynnig. Dydw i ddim yn gallu gweld sut y byddai dynodi un o'r tair ysgol uwchradd yng Ngorklewin Meirion yn ysgol Gymraeg yn newid y sefyllfa yma. Nid yr ysgol ti'n cyfeirio ati fyddai'n cael ei dynodi felly.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-81302292612299625212012-12-21T15:15:02.741+00:002012-12-21T15:15:02.741+00:00Mae drwg gen i Cai ond ti sydd yn cynnig dadl sydd...Mae drwg gen i Cai ond ti sydd yn cynnig dadl sydd wedi ei lwyr ysgaru oddi wrth y gwirionedd. Pe bai gennyf blentyn o oedran ysgol gynradd ac yn byw yn Llundain gallwn ei ddanfon i Ysgol Gymraeg Llundain yn hyderus y byddai'n derbyn addysg Gymraeg gyflawn, pe bai gennyf blentyn o'r un oedran ac yn byw yng Ngorllewin Meirionnydd bydda'r sicrwydd y cai addysg debyg yn ysgol y pentref ddim ar gael - nid barn yw hynny ond ffaith ddiymwad. Dydy'r prawf bod hynny'n digwydd ddim i'w gael mewn cyfrifiad nac adroddiad llywodraethwyr na thaflenni gwybodaeth y cyngor sir mae o i'w gael ar y llun Nadolig Saesneg a ddarluniwyd yn yr ysgol sy'n cael ei ddanfon i nain Cymraeg gan ŵyr Cymraeg; mae'r prawf ar gael o weld hogan ysgol uwchradd yn sgwennu traethawd hanes yn y Saesneg ar aelwyd Cymraeg y fath o brawf mae'n gwell gen ti ei anwybyddu.Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-86137011245985355022012-12-21T14:34:56.377+00:002012-12-21T14:34:56.377+00:00Cai dwi'n derbyn dy ddadansoddiad fod polisi G...Cai dwi'n derbyn dy ddadansoddiad fod polisi Gwynedd yn well na llefydd eraill, serch hynny, mi fyddai unrhywun sy'n adnabod ffrwyth ysgolion Tywyn,Dolgellau ac Ardudwy yn gorfod cydnabod bod cryn dipyn o le i wella a bod llawer iawn gormod o Saesneg yn yr ysgolion hyn a be ddylid wneud yw trosi ee Dolgellau yn swyddogol Cymraeg fel un cam tuag at wella y sefyllfa gan dderbyn o bosib bod angen camau eraill yn NhywynAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-56561344586558600262012-12-21T07:31:20.476+00:002012-12-21T07:31:20.476+00:00Mae'r ddadl yma yn ymwneud a'r ffigyrau cy...Mae'r ddadl yma yn ymwneud a'r ffigyrau cyfrifiad. Mae strwythur oedran y Gymraeg yn oly cyfrifiad hwnnw yn llawer, llawer gwell yng Ngwynedd nag yn unman arall. Ti 'n dadlau bod y ffigyrau hynny yn gamarweiniol - a bod rhieniyn gor gyfrifo gallu eu plant i sisrad Cymraeg.

Yn ol yr arfer dwyt ti ddim yn darparu tystiolaeth tros yr honiad hwnnw, ond hyd yn oed petaet wedi gwneud hynny, byddai'n rhaid i ti ddangos bod pobl mewn siroedd eraill ddim mor debygol o or gyfrifo. Dwyt ti ddim yn gwneud hynny chwaith.

Ond wedyn mae'n anodd dadlau efo rhywun sydd a'i farn ar y mater hwn mor afresymegol, ac wedi ei ysgaru oddi wrth y Byd go iawn i'r ffasiwn raddau nes ei fod wedi argyhoeddi ei hun bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn well yn Llundain nag ydyw yn llawer o Wynedd.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-49480659192389989172012-12-21T05:27:56.531+00:002012-12-21T05:27:56.531+00:00Dydy rhif y cyfrifiad bod 93% o ymatebyddion ffurf...Dydy rhif y cyfrifiad bod 93% o ymatebyddion ffurflenni cyfrifiad yn honni bod eu plantos yn Gymry Cymraeg dim yn adlewyrchiad o allu ieuenctid Sir Feirionydd i ddefnyddio'r Gymraeg, mae'n adlewyrchiad o dybiant rieni mae'r Gymraeg yw hiaith eu haddysg. Os yw 93% o rieni Meirionnydd yn credu bod eu plant yn derbyn addysg Cymraeg pam bod y sir yn rhy ofnus i wireddu disgwyliadau'r rhieni a throi 93% a rhagor o ysgolion y sir yn ysgolion penodedig Cymraeg?

Amddiffyn dy Blaid yn erbyn realiti llawr gwlad yw honni bod polisi iaith addysg Gwynedd yn gweithio.

Pan fo addysg Gymraeg cyflawnach ar gael yn Llundain na sydd ar gael yn Llwyngwril, rhaid derbyn bod rhywbeth o'i le a pholisi iaith addysg Gwynedd!
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-23252214108657094882012-12-21T01:11:59.196+00:002012-12-21T01:11:59.196+00:00Am be ti'n malu Cai bach? Pwy sydd wedi awgrym...Am be ti'n malu Cai bach? Pwy sydd wedi awgrymu bod angen troi ysgolion Gwynedd yn 100% Saesneg? Does dim angen dysgu unrhyw bwnc drwy gyfrwng y Saesneg yn ysgolion Gwynedd (na Cheredigion na Sir Gar). Pam dy fod ti mor frwd i amddiffyn sefyllfa lle mae plant o gartrefi Cymraeg yn cael addysg uniaith Saesneg yn siroedd y gorllewin? Wyt ti wir yr yn credu mai cadw at y fath drefn yw'r ffordd gorau i amddiffyn yr iaith?Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.com