Mi fyddwn yn dod yn ol at ddyfodol y Gymraeg a'r cyfrifiad sawl gwaith rhwng rwan a'r Nadolig - a thu hwnt. Pwrpas y blogiad byr hwn ydi gwneud pwynt cyffredinol ynglyn a dyfodol y Gymraeg - pwynt y byddwn hefyd yn dychwelyd ato sawl tro.
Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o ddarllenwyr Blogmenai yn bobl sydd yn gefnogwyr brwd i'r iaith - ac yn bobl sy'n ei chael yn anodd deall pam nad ydi nifer o bobl yn rhannu'r arddeliad hwnnw.
Tra bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn gefnogol i'r Gymraeg mewn modd cyffredinol, dydi'r gefnogaeth honno ddim digon cryf iddynt gymryd camau fyddai o gymorth go iawn iddi - ei dysgu neu magu eu plant i'w siarad.
Yr hyn sy'n debygol o gymell y rhan fwyaf o bobl i fynd i'r drafferth ydi canfyddiad bod y Gymraeg o ddefnydd materol - ymarferol iddyn nhw a'u plant. Collwyd y Gymraeg mewn aml i ran o Gymru oherwydd y canfyddiad ei bod yn gysylltiedig a thlodi a diffyg cyfleoedd. Canfyddiad i'r gwrthwyneb wneith adfer yr iaith. Mae'n ddigon posibl mai gwahaniaeth mewn canfyddiad o statws a gwerth yr iaith ydi'r rheswm bod y Gymraeg yn cael ei throsglwyddo yn llawer mwy effeithiol o un genhedlaeth i'r llall yn y Gogledd Orllewin nag yn y De Orllewin.
Rwan dydi un weithred, datganiad, deddf na dim arall ddim yn newid canfyddiad pobl o werth a statws iaith ar ei ben ei hun - mae delwedd iaith yn rhywbeth sydd wedi ei hadeiladu o nifer dirifedi o elfennau gwahanol - llawer ohonynt yn fach a di nod ar eu pennau eu hunain, ond yn arwyddocaol a phwysig mewn cyfuniad a'i gilydd. Mi'r ydan ni i gyd yn gallu cyfrannu at godi bri a statws y Gymraeg yn ein bywydau pob dydd - pob tro rydym yn dechrau sgwrs yn y Gymraeg, pob tro rydym yn mynegi ein bod eisiau gwasanaeth yn y Gymraeg, pob tro rydym yn darparu gwasanaeth yn y Gymraeg, pob tro rydan ni'n trydar yn y Gymraeg - ac ati, ac ati.
Ond ambell waith bydd y cyfle yn codi i wneud rhywbeth bach sy'n arwain at newid eithaf arwyddocaol. Esiampl o hynny ydi'r cynghorydd o Gaerdydd Neil McKevoy yn siarad yn y Gymraeg yn siambr Cyngor Caerdydd y mis diwethaf - gweithred a arweiniodd at ddarpariaeth cyfieithu a rhagor o gynghorwyr yn ymarfer y Gymraeg yn gyhoeddus mewn cyfarfod o'r cyngor fis yma. Un weithred fach yn arwain at rhywbeth sy'n codi statws y Gymraeg yn arwyddocaol ym mywyd gwleidyddol y brif ddinas. Gwych.
Byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill syml o hybu canfyddiad pobl o werth y Gymraeg tros y dyddiau nesaf.

No comments:
Post a Comment