Un sylw sydd wedi ei wneud ynglyn a'r cwymp yn y ganran o siaradwyr Cymraeg ydi nad yw 'mor
ddrwg a hynny' oherwydd nad oedd yn agos cyn waethed a'r cwymp rhwng 1961 a 1971 (o 26% i 19.8%). Rwan mae gen i ofn bod hyn yn optimistiaeth di feddwl - mae'r Byd wedi newid yn llwyr ers 71. Mae yna strwythurau lu sydd wedi eu gosod i gynnal yr iaith heddiw, doedd yna ddim strwythurau felly bryd hynny. Hefyd mae'n debyg bod natur y boblogaeth Gymraeg ei hiaith yn fwy bregys heddiw - yn 1971 roedd y rhan fwyaf ohonom yn rhugl ein Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith yn aml - dydi hynny ddim yn wir heddiw. Roedd yna fwy o gadernid i 19.8% 1971 na sydd i 19% 2011.
Mae'n fy mhoeni braidd nad yw'r gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith yn gweld argyfwng. Nid fy mod i'n bersonol yn credu bod argyfwng eto - ond mae Leighton Andrews yn ddyn sy'n gweld creisis ym mhob twll a chornel. Mae o'r farn bod y ddarpariaeth addysg yn 'ofnadwy' yng Nghymru, er nad oes ganddo fawr o dystiolaeth meintiol tros ddweud hynny - ac mae'n bygwth troi'r gwasanaeth addysg yng Nghymru a'i ben i lawr yn wyneb y canfyddiad hwnnw. Y tebygrwydd ydi nad yw Leighton o'r farn bod y Gymraeg yn flaenoriaeth, a ni fydd yna ddim byd llawer yn newid.
A daw hyn a ni at addysg cyfrwng Cymraeg. Mae llawer wedi rhoi eu ffydd yn nhwf y sector cyfrwng Cymraeg, ac yn edrych i'r cyfeiriad hwnnw am waredigaeth. Does yna ddim amheuaeth bod y sector cyfrwng Cymraeg yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg - ond mae'r twf yn y sector yn boenus o araf. Rhwng 2005 a 2011 mae'r ganran o blant oed cynradd sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 19.6% i 21.4%. Mae hyn yn gynnydd o ychydig mwy na 0.3% y flwyddyn. Rwan mae'n ddigon posibl nad ydi hyn yn ddigon i wneud iawn am y colledion sy'n digwydd oherwydd allfudo o ran Cymry Cymraeg a mewnfudiad pobl ddi Gymraeg.
Nid diffyg galw sy'n gyfrifol am arafwch y cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg - mae yna ddigon o hynny. Y broblem ydi llusgo traed wrth ymateb i'r galw ar raddfa gwrth arwrol gan rai o awdurdodau lleol y wlad. Petai Leighton eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i sefyllfa'r iaith, mae yna ffordd gweddol hawdd iddo wneud hynny. Petai yn ei gwneud yn blwmp ac yn blaen i awdurdodau lleol bod rhaid iddynt asesu'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, mynnu eu bod yn gweithredu yn ddiymdroi ar ganfyddiadau'r asesiad hwnnw, a chyfarwyddo ESTYN i edrych ar sut mae awdurdodau yn asesu galw a darparu yn y maes - a chymryd y camau arferol os ydynt yn methu ymgymryd a'u dyletswyddau. Mi fyddai gweld Cyngor Merthyr yn mynd trwy'r un felin a chynghorau Dinbych, Penfro a Mon oherwydd ei ddiffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gwneud gwyrthiau i'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru - credwch fi.
Yn bersonol mi fyddai'n well gen i gael fy nghofio fel y boi a achubodd yr iaith Gymraeg na'r boi a symudodd Cymru dri neu bedwar lle yn uwch yng nghyngrhair Pisa. Yn anffodus mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf mai'r gwrthwyneb sy'n wir am Leighton.

5 comments:
"Mae o'r farn bod y ddarpariaeth addysg yn 'ofnadwy' yng Nghymru, er nad oes ganddo fawr o dystiolaeth meintiol tros ddweud hynny"
Canlyniadau Pisa?
Os ydyn ni mor siwr bod addysg yn dda yng Nghymru mi ddylen ni symud i'r Bac Rhyngwladol (gyda phwyslais Cymreig wrth gwrs) a gweld sut byddwn ni'n perfformio.
Welbru
Definitelу beliеvе that which you stated.
Your fаvorite justifіcation sеemed to be on the internet the simplest thing to be aωare of.
I sаy tо you, I certainlу get
iгked whilе peοple conѕideг worries that they just do not
knοω about. You managed to hіt the naіl uρon
thе top and ԁеfined out the ωhole thіng ωithout having sіde-effeсts ,
ρeοple can taκе a signal. Wіll
pгobablу be back to get more. Thаnks
Also visit my blοg post ... leczenie paradontozy wrocław
I blog quite often аnd I rеally apprеciate уour сontent.
Τhis artіcle hаs rеally peaked mу intегest.
I'm going to book mark your site and keep checking for new information about once per week. I opted in for your RSS feed too.
my homepage ... bojler.co
Hi there, There's no doubt that your blog could be having browser compatibility issues. When I take a look at your blog in Safari, it looks fine however, when opening in Internet Explorer, it's gоt somе οѵerlapping issueѕ.
I just wаnteԁ to prοvide you with a
quick heaԁs up! Apart fгom that, fantаstic ѕitе!
Also visit my wеblog; http://murasu.in/story.php?title=advised-vs-lcd-v-plasma-vs-dlp
What's Happening i'm nеw to thіs, I stumbled uρon
thiѕ I've found It absolutely helpful and it has aided me out loads. I'm
hoрing to contributе & aid diffеrent users like its aided me.
Grеat јob.
Feel free to surf to my ωеb blog - galaxiesunion.com
Post a Comment